Skip to main content

Y Maer

Cafodd y Cynghorydd Wendy Treeby ei hailbenodi'n Faer Rhondda Cynon Taf yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 25 Mai 2022.

Dechreuodd y Cynghorydd Wendy Treeby, aelod etholedig ar gyfer Ward Aberpennar, yn ei rôl yn Faer ym mis Ionawr ar ôl i'r Cynghorydd Jill Bonetto, oedd yn aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, roi'r gorau i'r rôl.

Meddai'r Cynghorydd Treeby, sydd wedi byw yn y fwrdeistref sirol trwy gydol ei bywyd, ei bod hi'n edrych ymlaen at ei chyfnod yn Faer Rhondda Cynon Taf.

Bydd y Cynghorydd Treeby yn cefnogi nifer o elusennau yn ystod ei chyfnod yn Faer Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Cymdeithas Strôc ac Elusen Green Meadow Riding for the Disabled yn ogystal â chefnogi'r Lluoedd Arfog.

Cafodd y Cynghorydd Wendy Lewis, aelod etholedig ar gyfer Ward Llwynypia, ei hailbenodi'n Ddirprwy Faer Rhondda Cynon Taf yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher, 25 Mai.

Mayor Treeby 2022
Gwneud rhodd ar-lein i Apêl Elusennau'r Maer.

Sut mae cysylltu â'r Maer?

Hoffech chi wahodd y Maer i achlysur neu hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â swyddogaeth y Maer? Croeso ichi gysylltu â Swyddfa'r Maer.

Swyddfa'r Maer   

Y Pafiliynau

Parc Hen Lofa'r Cambrian 
Cwm Clydach

CF40 2XX

Rhif Ffôn: 01443 424048
Tudalennau Perthnasol