Y Cynghorydd Dan Owen-Jones, Aelod Etholedig Ward Dwyrain Tonyrefail, yw Dirprwy Faer Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y Cynghorydd Owen-Jones ei benodi'n Ddirprwy Faer yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher 10 Mai. Bydd e'n cefnogi Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Lewis.