Skip to main content

Cylch Trafod Materion Anabledd Cyngor Rhondda Cynon Taf

Am ragor o wybodaeth neu i ddod yn aelod o'r cylch trafod, ffoniwch y Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 01443 444529 neu e-bostio cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk.

Ydych chi'n byw yn RhCT ac ag anabledd, yn niwro-amrywiol, neu ag anabledd anweladwy neu gyfrifoldeb gofalu? Oes gennych chi ddiddordeb mewn materion anabledd? Ymunwch â'r fforwm materion anabledd! 

Mae Cylch Trafod Materion Anabledd y Cyngor yn grŵp aelodaeth sy'n agored i holl drigolion Rhondda Cynon Taf sydd ag anabledd, cyfrifoldeb gofalu neu'r rhai sydd â diddordeb mewn materion anabledd neu faterion hygyrchedd.

Mae Cylch Trafod yma'n gyfle i leisio eich pryderon ynghylch rhwystrau rydych chi'n eu hwynebu wrth fanteisio ar wasanaethau'r Cyngor neu broblemau hygyrchedd ledled Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n croesawu eich syniadau ar sut i wella gwasanaethau'r Cyngor hefyd.

Cynhelir sawl cyfarfod bob blwyddyn, a’r cadeirydd yw’r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: 

•        Cynhelir 2 gyfarfod yng Nghwm Rhondda gydag agenda yn canolbwyntio ar faterion sy'n effeithio ar bobl yn ardal Cwm Rhondda; 

•        Cynhelir 2 gyfarfod yng Nghwm Cynon gydag agenda yn canolbwyntio ar faterion sy'n effeithio ar bobl yn ardal Cwm Cynon;  

•        Cynhelir 2 gyfarfod yn ardal Taf-elái gydag agenda yn canolbwyntio ar faterion sy'n effeithio ar bobl yn ardal Taf-elái; 

•        1 cyfarfod blynyddol RhCT ar y cyd lle gwahoddir pob aelod i fynychu. 

Rydyn ni am wneud yn siŵr bod gwasanaethau'r Cyngor mor hygyrch a chynhwysol ag sy'n bosibl a byddwn ni'n defnyddio'r cyfarfodydd i wneud y canlynol;

•        gwrando ar eich adborth

•        gwahodd siaradwyr gwadd perthnasol i fynd i'r afael â'ch pryderon

•        ymgynghori â chi ar amrywiol gynigion y Cyngor

•        rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.