Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Trwyddedu Plant

 

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles ar gyfer trwyddedu plant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.     Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles y Cyngor yn cefnogi plant / pobl ifanc a'u teuluoedd, hebryngwyr, cwmnïau cynhyrchu a chyflogwyr sy'n dymuno gwneud unrhyw un o'r canlynol:

  • Gwneud cais am Drwydded Perfformio i Blant i gymryd rhan mewn perfformiad cyhoeddus, e.e. ffilm, drama neu sioe gerdd neu achlysur chwaraeon neu waith modelu y bydd y plentyn / person ifanc yn cael ei dalu amdano.
  • Gwneud cais am Drwydded Cyflogi Plant i gyflogi plant dan oedran gadael ysgol gorfodol yn eich busnes. Mae hyn yn berthnasol os bydd y gwaith â thal neu beidio.
  • Gwneud cais am Drwydded Hebryngwyr - rhaid bod gan blentyn / person ifanc hebryngwr (rhywun i ofalu amdano) os yw'n cymryd rhan mewn perfformiadau neu adloniant cyhoeddus o dan drwydded gan yr awdurdod lleol, oni bai ei fod yng nghwmni rhiant neu diwtor sy wedi'i gymeradwyo.

Edrychwch ar ragor o fanylion am y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles (Trwyddedu Plant).

2.     Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am blant a phobl ifanc sy wedi gwneud cais am drwyddedau yn y gorffennol a'r presennol.

Fel arfer bydd y math o wybodaeth y byddwn ni'n ei chasglu a'i defnyddio i ddarparu'r gwasanaeth yma yn cynnwys:

Trwydded Perfformio Plant

  • Gwybodaeth am y plentyn neu'r person ifanc:
    • Manylion personol fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac ysgol
    • Trwyddedau a pherfformiadau blaenorol (gan gynnwys absenoldebau o'r ysgol)
    • Yr arian mae'r plentyn wedi'i ennill yn ystod y 12 mis blaenorol
    • Trefniadau byw amgen ar gyfer y perfformiad(au)

Mae angen i ni hefyd gasglu a defnyddio Data Categori Arbennig am y plentyn / person ifanc er mwyn gwarantu ei ddiogelwch a'i les.  Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Cyflyrau meddygol
  • Alergeddau
  • Anableddau corfforol a dysgu
  • Meddyginiaeth mae'r plentyn yn ei chymryd
  • Atgyfeiriadau i ymgynghorwyr ysbyty
  • Data biometreg (lluniau pasbort)
  • Gwybodaeth am y rhiant / cynhaliwr:
  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Cadarnhau cyfrifoldeb rhiant
  • Gwybodaeth am yr ymgeisydd (y cwmni neu'r unigolyn sy'n gwneud cais am y drwydded):
  • Manylion personol fel enw, cyfeiriad, teitl swydd, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Manylion asesu risg (i sicrhau bod y plentyn / person ifanc yn ddiogel)
  • Manylion am y perfformiad perthnasol fel lle, amseroedd, nifer y diwrnodau, ymarferion, amseroedd teithio a threfniadau cludiant ac unrhyw daliadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer y perfformiad(au)
  • Manylion addysg fel diwrnodau lle bydd angen bod yn absennol o'r ysgol, trefniadau astudio amgen, unrhyw effaith negyddol ar y plentyn / person ifanc
  • Gwybodaeth am yr hebryngwr (y person sy'n gofalu am y plentyn / person ifanc yn ystod y perfformiad):
  • Manylion personol fel enw a chyfeiriad
  • Awdurdodau lleol eraill sydd wedi cymeradwyo'r hebryngwr
  • Nifer y plant sydd i fod yng ngofal yr hebryngwr yn ystod yr amser y byddan nhw'n gofalu am y plentyn, a rhyw ac oedran pob plentyn (dydy enwau'r plant yma ddim yn cael eu casglu).

Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau, rydyn ni hefyd yn casglu'r dogfennau canlynol i brosesu'r cais:

  • Copi o dystysgrif geni y plentyn / person ifanc
  • Dau lun yr un fath o'r plentyn / person ifanc
  • Copi o'r cytundeb ar gyfer y perfformiad(au)
  • Y polisi neu'r polisïau diogelu plant bydd yr ymgeisydd yn eu dilyn
  • Llythyr gan bennaeth yr ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd sy'n cytuno i'r plentyn fod yn absennol o'r ysgol neu o addysg, ac sy'n nodi fydd addysg a lles y plentyn ddim yn cael eu heffeithio'n wael gan hyn

Trwydded Cyflogi Plant

  • Gwybodaeth am y plentyn neu'r person ifanc:
    • Manylion personol fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac ysgol
    • Mae angen i ni hefyd gasglu a defnyddio Data Categori Arbennig am y plentyn / person ifanc er mwyn gwarantu ei ddiogelwch a'i les.  Mae hyn yn cynnwys ffitrwydd meddygol y plentyn / person ifanc a data biometreg ar ffurf ffotograffau pasbort
    • Lle gwaith
    • Natur ac amseroedd y gyflogaeth (beth yw gofynion y swydd?)
  • Gwybodaeth am y cyflogwr:
    • Manylion personol fel enw, cyfeiriad a rhif ffôn
    • Gwybodaeth ychwanegol fel y cwmni yswiriant a rhif y polisi
    • Asesiadau Risg Iechyd a Diogelwch

Trwydded Hebryngwyr

  • Gwybodaeth am yr hebryngwr:
    • Manylion personol fel enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, rhyw, statws priodasol
    • Gwybodaeth arall fel cyflogaeth, cymwysterau, gallu i siarad Cymraeg, perthynas â'r plentyn / person ifanc a chanolwyr

3.     O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu am blant / pobl ifanc a'u teuluoedd, hebryngwyr, asiantau / cwmnïau cynhyrchu a chyflogwyr yn dod o amrywiaeth o wahanol ffynonellau fel sy wedi'u rhestru isod: 

Trwydded Perfformio Plant

  • Rhiant / cynhaliwr y plentyn / person ifanc yn y perfformiad(au)
  • Yr ymgeisydd (y cwmni neu'r unigolyn sy'n gwneud cais am y drwydded)
  • Yr hebryngwr (y person sy'n gofalu am y plentyn / person ifanc yn ystod y perfformiad)

Trwydded Cyflogi Plant

  • Rhiant / cynhaliwr y plentyn / person ifanc sy'n cael ei gyflogi
  • Yr ymgeisydd (y cyflogwr)

Trwydded Hebryngwyr

  • Yr ymgeisydd

4.     Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Yn y pen draw, byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:

Penderfynu a ddylwn ni ganiatáu'r drwydded berthnasol ac yna rannu'r drwydded gydag ysgolion, rhieni / cynhalwyr, hebryngwyr, asiantau / cwmnïau cynhyrchu (ar gyfer Trwydded Perfformio Plant), rhieni / cynhalwyr a chyflogwyr (ar gyfer Trwydded Cyflogi Plant) a hebryngwyr (ar gyfer Trwydded Hebryngwyr) i sicrhau diogelwch a lles y plentyn / person ifanc.

5.     Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

Bydd y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer yn un neu ragor o'r canlynol:

  • Bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan:
  • Deddf Addysg ac Adolygiadau 2006
  • Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963
  • Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
  • Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn yn y Gwaith) 1998 Cyflogi Plant
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Pobl Ifanc) 1997

6.     Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Fel sy wedi'i grybwyll uchod, er mwyn i'r Gwasanaeth gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol ac i ddarparu'r drwydded berthnasol i'r plentyn / person ifanc, mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth gyda nifer o sefydliadau a phartneriaid trydydd parti dibynadwy. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Rhieni/Cynhalwyr
  • Ysgolion
  • Asiantau / cwmnïau cynhyrchu
    • Awdurdodau lleol eraill (er mwyn iddyn nhw archwilio'r lleoliad / llety, sicrhau diogelwch a lles y plentyn / person ifanc)
    • Hebryngwyr cofrestredig
    • Cyflogwyr

Nodwch - er mwyn diogelu cyfrinachedd, dydy manylion cyflyrau meddygol gwirioneddol ddim yn cael eu rhannu ar y Drwydded Perfformio i Blant ond mae'r drwydded yn nodi bod gyda'r plentyn gyflwr o ryw fath er mwyn i'r hebryngwr drafod hyn gyda'r rhiant / cynhaliwr.

7.     Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd at 7 mlynedd.

8.     Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.     Cysylltwch â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: Presenoldeballes@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 744298

Trwy lythyr: Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ