Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Gorfodi Gofal y Strydoedd

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Gorfodi Gofal y Strydoedd

 

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Gorfodi Gofal y Strydoedd.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Gorfodi Gofal y Strydoedd.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd:

Anfon e-bost: GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 425001

Neu drwy lythyr i: Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r Gwasanaeth Gorfodi Gofal y Strydoedd yn plismona deddfwriaethau sy'n ymwneud â'r amgylchedd ac yn darparu gwasanaethau rheng flaen wrth fynd i'r afael â throseddau yn erbyn yr amgylchedd yn y ffyrdd canlynol: 

Rheoli sbwriel a glendid cyffredinol gan gynnwys gorfodi mewn perthynas â thaflu sbwriel ar y llawr, gwastraff a throseddau dan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â chŵn yn baeddu, cŵn ar feysydd chwaraeon ayb.

Swyddogion Gorfodi yn gwisgo camerâu ar eu cyrff i ddal troseddwyr sbwriel. Pan fydd person dan amheuaeth o gyflawni trosedd, mae'r camera corff yn cael ei droi ymlaen a bydd y troseddwr yn cael gwybod ei fod yn cael ei recordio. Mae hefyd modd i'n Swyddogion Gorfodi ddarparu hysbysiadau cosb benodedig yn y fan a'r lle.

Camerâu Gorfodi sy'n tynnu lluniau Teledu Cylch Cyfyng o droseddwyr mewn mannau sy'n boblogaidd i dipio'n anghyfreithlon. Mae modd i droseddau tipio'n anghyfreithlon bach arwain at hysbysiad cosb benodedig, a gall troseddau tipio'n anghyfreithlon mawr arwain at achos llys. 

Byddwn ni hefyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i droseddwyr ac i rannu lluniau o droseddwyr sydd wedi cael eu herlyn drwy'r System Llysoedd.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â throseddwyr dan amheuaeth a throseddwyr sydd wedi'u herlyn am gyflawni troseddau amgylcheddol.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol er mwyn mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost 
  • Manylion personol megis dyddiad geni
  • Gwybodaeth ariannol megis rhifau cardiau credyd/debyd
  • Rhif Hysbysiad Cosb Benodedig
  • Lluniau Teledu Cylch Cyfyng trwy gamerâu corff a gorfodi
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud â'r drosedd, gan gynnwys lleoliad, natur y drosedd, enw'r swyddog gorfodi

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu'r data personol er mwyn mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol. Mae modd i hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol (dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr);

  • Rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig
  • Erlyn drwy'r llysoedd os nad ydych chi wedi talu'ch Hysbysiad Cosb Benodedig
  • Erlyn drwy'r llysoedd am droseddau tipio'n anghyfreithlon ar raddfa fawr
  • Prosesu taliadau am Hysbysiadau Cosb Benodedig
  • Dod o hyd i droseddwyr sydd heb ddarparu eu manylion cyswllt i'n swyddogion gorfodi er mwyn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig
  • Dod o hyd i droseddwyr sydd wedi'u dal yn cyflawni trosedd gan ein camerâu gorfodi
  • Rhannu neges am droseddwr yn cael ei erlyn ar ein cyfryngau cymdeithasol neu i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am droseddwyr
  • Rhoi gwybod i'r heddlu am droseddau pellach tu hwnt i'n cylch gwaith gorfodi sydd wedi'u dal gan ein camerâu gorfodi

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer Gorfodi Gofal y Strydoedd yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol -  Erthygl 6 (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus - Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Adran 30(1)(b) - Deddf Diogelu Data 2018.

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i; 

  • Y Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
  • Y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
  • Deddf Priffyrdd 1980

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Darn o ffilm sydd wedi'i recordio gan ein camerâu gorfodi neu gamerâu corff ein swyddogion
  • Aelodau'r cyhoedd sy'n ffonio ein canolfan alwadau, yn anfon gwybodaeth aton ni drwy'r post neu'n llenwi ffurflen ar-lein trwy'n gwefan
  • Aelodau'r cyhoedd sy'n dweud pwy yw'r troseddwyr ar ein cyfryngau cymdeithasol
  • Lluniau Teledu Cylch Cyfyng o'r camerâu gorfodi
  • Aelodau Etholedig, sy'n gweithredu ar ran eu hetholwyr neu'r Cyngor.
  • Adrannau eraill y Cyngor wrth benderfynu pwy sy'n gyfrifol a gwirio bod troseddwyr yn dal i fyw yn yr un cyfeiriad
  • DVLA sy'n darparu manylion troseddwyr sy'n gysylltiedig â rhifau cofrestru cerbydau

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol ar gyfer Gorfodi Gofal y Strydoedd:

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rannu. Bydd yr wybodaeth a gaiff ei rhannu a gyda phwy y caiff ei rhannu yn dibynnu ar natur a difrifoldeb y drosedd amgylcheddol.

Adrannau mewnol

Diben

Cyllid

Prosesu taliadau Hysbysiadau Cosb Benodedig

 

Cyfreithiol

Os yw unigolyn wedi methu â thalu'r Hysbysiad Cosb Benodedig ac mae angen gweithredu pellach

 

Treth y Cyngor

Gwirio pwy sy'n gyfrifol yn y cyfeiriad

 

Parciau a Chefn Gwlad

Prosesu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

Swyddfa'r Wasg

Cyhoeddi gwybodaeth am y canlynol:

  • Troseddwyr sydd wedi'u herlyn trwy'r System Llysoedd
  • Dod o hyd i droseddwyr sydd i'w gweld ar ffilm o gamerâu gorfodi a chamerâu corff

Adrannau allanol

Diben

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth ar gyfer y canlynol:

  • Ddod o hyd i droseddwyr trwy gyrchu’r wybodaeth sy’n gysylltiedig â rhif cofrestru eu cerbyd
  • Cynghori ar geir wedi'u gadael

 

Heddlu De Cymru a Gwent

Rhoi gwybod am droseddau pellach tu hwnt i gylch gwaith y Garfan Gorfodi sydd wedi'u recordio gan y camerâu gorfodi

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwirio manylion euogfarnau blaenorol am achosion o dipio'n anghyfreithlon

 

Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol

Rhannu manylion am achosion blaenorol o dipio'n anghyfreithlon

Aelodau Etholedig

Rhoi gwybod am achosion o dipio'n anghyfreithlon yn eu wardiau

 

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion Gofal y Strydoedd am:

Diben

Faint o amser

Rheswm

Darn o film sydd ddim yn dystiolaeth

30 diwrnod

Gofyniad statudol  

Darn o ffilm sydd yn dystiolaeth

7 mlynedd

Gofyniad statudol  

 

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

Anfon e-bost: GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 425001

Neu drwy lythyr i: Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk