Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd – Credydwyr (Taliadau)

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Credydwyr (Taliadau)

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Credydwyr (Taliadau). Rydyn ni'n casglu a phrosesu'r wybodaeth yma er mwyn rheoli'r cysylltiadau â gweithwyr. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

A ninnau'n Adran Taliadau'r Cyngor, rydyn ni'n casglu a chadw gwybodaeth benodol amdanoch chi. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i brosesu a gweinyddu taliadau i'ch cyflenwr. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich gwybodaeth i gysylltu â chi a chyfrif y swm i'ch talu chi am y gwaith sydd wedi'i gyflawni.       

 

Os ydych chi'n dod o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), mae'ch gwybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio i gyfrif a thalu trethi i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar eich rhan.

 

Mae rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol isod.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am gyflenwyr.

 

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost.  
  • Manylion adnabod gan gynnwys rhif TAW, rhif yswiriant gwladol a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • Manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu  
  • Gwybodaeth talu gan gynnwys TAW

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Rydyn ni'n cael peth o'r wybodaeth gennych chi'n uniongyrchol, er enghraifft manylion ynghylch newid cyfrif banc/cymdeithas adeiladu pan fo'n digwydd.

 

Mae adrannau'r Cyngor yn darparu'r wybodaeth arall wrth wneud cais i sefydlu cyflenwr newydd, ac mae'r ffurflen creu credydwr yn cael ei chwblhau gan yr adran sy'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi  i'r adran wreiddiol.     

  • Mae gwybodaeth bersonol yn cynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif yswiriant gwladol

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn gwneud y canlynol :

  • Eich talu chi yn ôl yr anfoneb
  • Talu'ch trethi i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi os ydych chi'n rhan o Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
  • Cydymffurfio â goblygiadau cyfreithiol

Yn achlysurol, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol â chyrff llywodraethu eraill megis Yr Adran   Gwaith a Phensiynau (DWP) er mwyn cydymffurfio â'n goblygiadau cyfreithiol, er enghraifft cydymffurfio â'r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI).

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae angen i ni brosesu'ch data er mwyn eich talu chi ar gyfer y gwaith sydd wedi'i gyflawni.

 

Mewn rhai achosion, mae angen i ni brosesu'ch data personol i sicrhau ein bod ni'n cydymffurfio â'n    goblygiadau cyfreithiol. Er enghraifft, didynnu treth. Bydd eich gwybodaeth bersonol fel arfer yn un o'r canlynol:

  • Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol i'ch talu chi
  • Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn bodloni ein goblygiadau cyfreithiol gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae'n bosibl y bydd angen i ni rannu'ch data personol gyda thrydydd partïon, er mwyn i'r gwasanaeth gyflawni'i ddyletswyddau. Er enghraifft, mae gyda ni oblygiad cyfreithiol i rannu'ch gwybodaeth bersonol â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi os ydych chi'n rhan o Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) at dibenion trethi.

 

Mae sefydliadau eraill rydyn ni'n rhannu gwybodaeth â nhw yn cynnwys:

 

Adrannau eraill o'r Cyngor:

      
  • Cyllid  
  • Archwilio  
  • Caffael

 Sefydliadau eraill:

 

  • Archwiliwr Allanol  
  • Swyddfa'r Cabinet - at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol
  • Cwmni argraffu, Gwasanaethau Postio ac Argraffu (MPS)

Mae'n bosibl  y byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon sy'n prosesu data ar ein rhan, fel ein cyflenwyr meddalwedd dibynadwy, er enghraifft CIVICA Financials ac AP Forensics.

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth? 

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei angen i weinyddu taliadau ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn ni eu derbyn am hyn, oni bai fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ei chadw am gyfnod hwy. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei bod hi'n bosibl i'ch   gwybodaeth  bersonol gael ei chadw cyhyd ag y byddwch chi'n darparu gwasanaethau i'r Cyngor.   

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut mae'u defnyddio nhw.

 9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

 

Anfonwch ebost at : TaliadauCredydwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Dros y ffôn: 01443 680302, 680390, 680572, 680502

 

Trwy lythyr: CBSRhCT, Adran y Gyflogres, Oldway House, Heol y Porth, Y Porth, CF39 9ST