Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer darparu dibenion Prydau Ysgol am Ddim  

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Prydau Ysgol am Ddim. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud. 

Fel Cyngor, rydyn ni'n gweinyddu'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim ar ran Llywodraeth Cymru. Rydyn ni'n cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, ac rydyn ni'n ei defnyddio i weinyddu'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich gwybodaeth er mwyn cysylltu â chi, fel bod modd i'ch plentyn dderbyn   ei Bryd Ysgol am Ddim yn ei sefydliad addysgol.  Mae'n bosibl bydd eich hawl i gael Prydau Ysgol am Ddim yn cael ei ddefnyddio i asesu'ch hawl i gael budd-daliadau eraill, fel Grant Gwisg Ysgol. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol yn cael ei darparu isod.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am drigolion y gorffennol a'r presennol sy wedi gwneud ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim i'r Cyngor.

 

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y bobl sy'n gwneud y cais a'r plant perthnasol 
  • Manylion y cartref a'r incwm  
  • Manylion cyflogwr a chyflog  
  • Rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni  
  • Manylion addysgol eich plant e.e. yr ysgol y maen nhw'n ei mynychu  
  • Canlyniad eich cais i gael Prydau Ysgol am Ddim - y cyfnod rydych chi'n gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim ac ati

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Gall yr wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel y rhai sy'n cael eu rhestru isod: 

  • Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu'n uniongyrchol er enghraifft ar ffurflen gais neu drwy ohebiaeth gyda ni
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan asiantaethau'r llywodraeth sy'n gweithio'n agos â ni. Er enghraifft, yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Llywodraeth Cymru a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i gynorthwyo â gwaith gweinyddu'r cais am Brydau Ysgol am Ddim
  • Gwybodaeth gan   wasanaethau eraill y Cyngor fel y Gwasanaeth Addysg ac Ysgolion - i sicrhau bod gan y gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim yr wybodaeth berthnasol i allu gweinyddu'r cynllun a bod plant yn cael eu prydau bwyd
  • Gwybodaeth rydyn ni wedi'i pharatoi wrth i ni ddelio â chi a phan rydyn ni'n cyfrifo'ch hawl i Brydau Ysgol am Ddim

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i weinyddu cynllun Prydau Ysgol am Ddim. Mae modd i hyn gynnwys y canlynol:

  • Asesu eich hawl i Brydau Ysgol am Ddim
  • Rhoi gwybod i'r ysgol bod eich plentyn yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim
  • Delio â chwynion neu bryderonDod o hyd i dwyll a'i nodi

Oes gyda chi hawl i gael Prydau Ysgol am Ddim? Mae'n bosibl byddwn ni hefyd yn asesu'ch hawl i gael budd-daliadau eraill, fel Grant Gwisg Ysgol

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y dibenion uchod yw:

  • Cyflawni ei dyletswyddau swyddogol a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
    • Deddf Addysg 1996
    • Deddf Diwygio Lles 2012
    • Deddf Plant a Theuluoedd 2014

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall? 

O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel bod modd iddyn nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn mewn perthynas â Phrydau Ysgol am Ddim. Mae modd i'r rhain gynnwys:

 

Gwasanaethau Mewnol y Cyngor fel:

  • Y Gwasanaeth Addysg ac Ysgolion
  • Gwasanaeth Cyllid Addysg – Caiff enwau'r disgyblion sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim eu rhannu er mwyn i'r Gwasanaeth Cyllid Addysg gyflwyno'u Talebau Grant Gwisg Ysgol am ddim.

Asiantaethau a sefydliadau'r llywodraeth fel

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau - at ddibenion gweinyddu Prydau Ysgol am Ddim 
  • Swyddfa'r Cabinet - at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
  • Llywodraeth Cymru a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi - at ddibenion ystadegol a chyllid
  • Ysgolion - i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu 

Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan:

  • Cwmnïau argraffu - (sef MPS Ltd ar hyn o bryd) i argraffu, pacio a phostio dogfennau treth y cyngor
  • Darparwr meddalwedd - (sef Capita Software Services Ltd ar hyn o bryd) i gynnal ein systemau treth y cyngor

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth? 

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd at ddibenion gweinyddu ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion rydyn ni'n eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

 

9.    Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

 

E-bostio: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Ffôn : 01443 425002

 

Trwy lythyr : Uwchadran Gwasanaethau Ariannol, Tŷ Bronwydd, Y Porth, CF39 9DL