Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Chynllun Ailsefydlu yn y DU

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol mewn perthynas â Chynllun Ailsefydlu yn y DU

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol mewn perthynas â Chynllun Ailsefydlu yn y DU. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Ymrwymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) i gymryd hyd at 50 o ffoaduriaid dros gyfnod o bum mlynedd trwy'r Cynllun Ailsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed (VPRS) a'r Cynllun Ailsefydlu Plant sy'n Agored i Niwed (VCRS) - sydd bellach yn cael ei alw'n Gynllun Ailsefydlu yn y DU. Mae'r cynlluniau yma'n cefnogi'r ffoaduriaid trwy ddarparu Tai, Addysg, Iechyd ac Integreiddio i'r gymuned. Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau, mae angen i ni rannu gwybodaeth â phartneriaid. Mae hyn yn bwysig ar gyfer cyflwyno'r rhaglen a gwerthuso ei heffeithiolrwydd.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Bydd y mathau o wybodaeth amdanoch chi y bydd y Cyngor yn eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys, ond fyddan nhw ddim yn gyfyngedig i:

  • Enw,
  • Cyfeiriad,
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost,
  • Dyddiad geni,
  • Rhif Yswiriant Cenedlaethol, Hanes achos,
  • Crefydd / Ffydd

Mae angen yr wybodaeth yma er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth ar waith a bod y ffoaduriaid yn cael eu hadleoli'n briodol

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Yn rhan o Raglen Ailsefydlu'r Swyddfa Gartref, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf (fel yr Awdurdod Lleol cyfrifol) yn derbyn gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref ar bob achos. Mae'r wybodaeth yma'n cael ei chasglu gan UNHRC wrth i bobl gofrestru ar gyfer cael eu hadleoli.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n cynnal asesiad i sefydlu pa gymorth y mae modd i ni ddarparu i chi a'ch teulu.

Byddwn ni'n cadw cofnod o'r cymorth y byddwn ni'n ei ddarparu i chi, ac yn cynnal adolygiadau rheolaidd i ddadansoddi a yw'r rhaglen yn gweithio i chi, neu a oes angen i ni newid unrhyw beth er mwyn ei wella.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i ddarparu'r lefel briodol o gymorth i bob teulu sy'n cael ei adleoli yn Rhondda Cynon Taf.  Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, ddatblygu cynlluniau cymorth ar ôl cyrraedd gyda sefydliadau gan gynnwys gwasanaethau iechyd a chymorth. 

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol

Erthygl 6(1)(e) –Mae angen prosesu'r wybodaeth er mwyn cyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu er mwyn, yn rhan o'n swyddogaethau swyddogol, ddarparu'r lefel briodol o gymorth i bob teulu sy'n cael ei adleoli i RhCT. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, ddatblygu cynlluniau cymorth cyfannol ar ôl cyrraedd sy'n cynnwys gwasanaethau fel Iechyd, Addysg a'r Darparwr Cymorth sydd wedi'i Gomisiynu.

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2(g) – i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol, fel y nodir uchod.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o'ch gwybodaeth yn cael ei rhannu â phartneriaid mewnol ac allanol allweddol, yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i: Addysg, Gwasanaethau Ariannol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cyflogaeth.

Gwasanaethau Mewnol y Cyngor

  • Addysg
  • Gwasanaethau Ariannol
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Cyflogaeth

Gwasanaethau Allanol

  • Darparwr Gwasanaeth Cymorth (Cyngor Ffoaduriaid Cymru)
  • Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP)
  • Gweithrediadau Ailsefydlu (Y Swyddfa Gartref)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Gwasanaethau Iechyd)
  • Heddlu De Cymru
  • Coleg Y Cymoedd (ar gyfer cwblhau cwrs Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL))
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau

7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd y Cyngor ond yn cadw'ch data personol am y cyfnod sydd ei angen yn unig, a bydd safonau sefydliadol a'r Awdurdod Lleol yn cael eu dilyn o fewn y maes yma. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost:  cymunedaudiogel@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 744287

Trwy lythyr: Gary Black, Rheolwr Gwasanaeth - Cymunedau Diogel a Phartneriaethau Strategol, Tŷ Elái, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY