Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Hamdden

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaethau Hamdden

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y gwasanaethau hamdden. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Rydyn ni, Gwasanaethau Hamdden, yn gweithredu nifer o Gyfleusterau Hamdden o fewn RhCT.   Rydyn ni hefyd yn darparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a ffitrwydd i breswylwyr RhCT a'r rheiny sydd ddim yn byw yn RhCT. 

Mae modd cadw cyfleusterau ar gyfer achlysuron a digwyddiadau, gan gynnwys parti pen-blwydd, priodas, achlysur ac ati. 

Mae modd cadw lle ar gyfer achlysur neu ddosbarth dros y ffôn, mewn person neu ar ein gwefan trwy Ap Hamdden am Oes.

2.  Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unrhyw un sy'n defnyddio'n cyfleusterau hamdden, boed chi'n   gwneud cais i ymuno â Chynllun Hamdden am Oes (mae modd gwneud hyn ar bapur, neu ar ein gwefan), cwblhau ffurflen gais am wersi nofio ar gyfer eich plentyn, neu i dalu ar gyfer cyfleusterau (e.e. dosbarthiadau, nofio) wrth i chi ddefnyddio'r cyfleusterau yma. 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unigolion sy'n cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost. Os ydych chi'n dymuno talu ar gyfer gwersi nofio neu Aelodaeth Hamdden am Oes trwy ddull debyd uniongyrchol, bydd angen arnon ni manylion eich cyfrif banc er mwyn prosesu'r taliadau. 

Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer pobl mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os ydych chi dan 16 oed, dros 60 oed neu'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n cwblhau ffurflen gais Hamdden am Oes ac yn perthyn i un o'r categorïau penodol yma sy'n gymwys i dderbyn gostyngiad, bydd angen i ni weld tystiolaeth cyn cymeradwyo'r gostyngiad.    

Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais wrth logi ein cyfleusterau er enghraifft ar gyfer priodas neu barti pen-blwydd. Bydd gofyn i chi nodi'ch enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost. 

O bryd i'w gilydd byddwn ni'n gofyn i gwsmeriaid gwblhau arolwg er mwyn casglu'ch barn chi ac i sicrhau ein bod ni'n darparu'r gwasanaeth orau posibl. Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am achlysuron neu gynigion sydd ar y gweill ac rydyn ni'n meddwl bydd o ddiddordeb i chi. Byddwn ni ond yn gwneud hyn os ydych chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych chi pan fyddwch chi'n:

  • Llenwi ffurflen gais ar bapur
  • Llenwi ffurflen gais ar y we
  • Cadw lle trwy ap Hamdden am Oes neu ein ciosg hunanwasanaeth

Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth o system reoli'r Gwasanaeth Hamdden, h.y. defnydd, gwybodaeth trafodion


4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Mae angen arnon ni’r wybodaeth yma er mwyn deall eich anghenion a darparu gwasanaeth gwell i chi ar gyfer y rhesymau canlynol:

  • Cadw cofnodion mewnol.
  • Efallai byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i wella ein cynnyrch a'n gwasanaethau.
  • Efallai y byddwn ni'n anfon e-bost o dro i dro am gynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall rydyn ni'n meddwl bydd o ddiddordeb i chi. Byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost rydych chi wedi'i roi.
  • Mae'n bosibl y byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth chi er mwyn cysylltu â chi trwy e-bost, dros y ffôn, ffacs neu drwy'r post (gyda'ch caniatâd chi) at ddibenion marchnata.
  • Mae'n bosibl y byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth chi er mwyn addasu'r wybodaeth/cynigion rydyn ni'n eu hanfon atoch chi, yn unol â'ch diddordebau chi.

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol ynghylch aelodaeth a threfniadau cadw lle yw Cytundeb. 

Byddwn ni ond yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu hyrwyddo os ydyn ni wedi cael caniatâd gennych chi i wneud hynny.  

Mae gyda ni rhwymedigaeth gyfreithiol dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch i nodi unrhyw   ddamweiniau / digwyddiadau sy'n digwydd yn ein cyfleusterau.


6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Fyddwn ni ddim yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol ag unrhyw wasanaeth, sefydliad neu drydydd parti arall. 

Rydyn ni'n defnyddio system Rheoli materion Hamdden o'r enw Gladstone i greu eich cyfrif hamdden. 

Rydyn ni'n defnyddio Gwasanaeth Clirio Awtomataidd Bancio (BACS) i weinyddu cyfarwyddiadau a thaliadau debyd uniongyrchol

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Cewch chi gysylltu â ni i ddileu eich cofnod o'n systemau ar unrhyw adeg, os dydych chi ddim yn defnyddio'n gwasanaethau bellach. 

Byddwn ni'n dileu unrhyw gofnodion sydd gyda ni amdanoch chi, os nad ydych chi wedi defnyddio'n gwasanaeth am flwyddyn neu mwy. 

Os ydych chi'n penderfynu eich bod chi eisiau ailgychwyn defnyddio ein gwasanaethau, bydd angen i chi ailgofrestru eich manylion ar yr adeg honno.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Edrychwch ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r   gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod: 

E-bost aelodaethhamdden@rctcbc.gov.uk 

Ffôn: 01443 562202 

Trwy lythyr: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Canolfan Chwaraeon Abercynon,   Parc Abercynon, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UY