Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Addysg i Oedolion a Sgiliau Allweddol
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion hyfforddiant yr Adran Addysg i Oedolion a Sgiliau Allweddol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae'r adran Sgiliau Allweddol yn cynnig cyrsiau mewn lleoliadau yn y gymuned ledled RhCT. Caiff y cyrsiau yma eu cynnal gan diwtoriaid Addysg i Oedolion. Pwrpas y cyrsiau yw rhoi cyfle i ddysgwyr gwella'u sgiliau llythrenedd a rhifedd.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddysgwyr sy'n rhan o'r rhaglen ar hyn o bryd, ac sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen yn y gorffennol. Mae'r wybodaeth yma'n cynnwys:
- Enw llawn (gan gynnwys enw cyn priodi)
- Address
- Dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Manylion cyswllt
- Anabledd
- Ethnigrwydd
- Statws cyflogaeth
- Gwybodaeth Mynychu
- Lefel Sgiliau Allweddol
- Cynlluniau Dysgu Unigol
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r gwasanaeth yn casglu'r wybodaeth yma gan yr unigolyn sy'n cymryd rhan yn y rhaglen. Caiff yr wybodaeth yma ei chasglu ar y ffurflen gofrestru sy'n cael ei llenwi ar ddechrau'r cwrs.
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn gwybodaeth gan sefydliadau trydydd parti dibynadwy os yw'r sefydliad yn gwneud atgyfeiriad ar ran yr unigolyn. Mae modd i'r sefydliadau yma gynnwys y Ganolfan Byd Gwaith neu raglen Cymunedau am Waith a Mwy.
Rydyn ni hefyd yn casglu'n gwybodaeth ein hunain tra'u bod nhw yn rhan o'r cwrs. Er enghraifft, rydyn ni'n cadw manylion ynglŷn â hyfforddiant sydd wedi cael ei gyflawni a'r cymorth rydyn ni'n ei ddarparu yn ogystal â'r cymwysterau y mae'r unigolyn yn eu hennill.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:
- Prosesu'r atgyfeiriad / cais ar gyfer y cwrs sydd wedi'i ddewis.
- Rhoi cefnogaeth, cymorth ac arweiniad.
- Dod o hyd i gyrsiau/hyfforddiant addas.
- Monitro presenoldeb a chynnydd.
- Cysylltu â dysgwyr os yw'r cwrs yn cael ei ganslo/ohirio.
- Paratoi a darparu adroddiadau i Lywodraeth Cymru er mwyn dangos bod y prosiect yn cael ei gynnal mewn modd addas ac yn unol ag amodau'r cyllid.
- Dangos tystiolaeth o'r hyn sydd wedi'i chyflawni i'r cyrff dyfarnu fel bod modd cyflwyno tystysgrifau.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni ond yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol os oes gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu ein Rhaglen Sgiliau Allweddol yw ymarfer ein swyddogaethau fel awdurdod cyhoeddus, ac er budd y cyhoedd, er enghraifft i wella sgiliau rhifedd a llythrennedd oedolion RhCT.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â nifer o sefydliadau partner dibynadwy er mwyn darparu ein gwasanaethau. Byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth bersonol gyda'r partneriaid yma fel a ganlyn:
- Llywodraeth Cymru - er mwyn dangos bod y prosiect yn cael ei gynnal mewn modd addas ac yn unol ag amodau'r cyllid.
- Coleg Y Cymoedd - er mwyn dangos bod y prosiect yn cael ei gynnal mewn modd addas ac yn unol ag amodau'r cyllid.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful - caiff portffolios dysgwyr eu trosglwyddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a fydd yn gwirio'r achrediad gyda'r corff dyfarnnu, sef Agored Cymru. Yna, bydd Agored Cymru yn darparu'r dystysgrif.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda nifer o gwmnïau TGCh sy'n darparu systemau, datrysiadau, cymorth a gwasanaethau cynnal a chadw. Er mwyn iddyn nhw ddarparu gwasanaethau i ni, bodloni'u rhwymedigaethau cytundebol ac ateb unrhyw broblemau technegol, efallai bydd angen i'r cwmnïau yma gyrchu systemau lle mae gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw.
- Tribal (EBS) - system gwybodaeth am fyfyrwyr
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru (LLWR)
- Tribal - Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) - system a gaiff ei defnyddio er mwyn asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd cychwynnol y dysgwr.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Caiff yr holl ffurflenni cofrestru, cofrestrau a chofnodion deilliannau eu cadw am gyfnod o 3 blynedd.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i’w defnyddio nhw.
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
Trwy e-bost : llcreception@CampwsGartholwg.org.uk
Dros y ffôn : 01443 570075
Trwy lythyr : Canolfan Dysgu Gydol Oes, Campws Cymuned Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg,
St. Illtyd's Road, Pentre'r Eglwys, Pontypridd, CF38 1RQ