Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cam-drin yn y Cartref

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr Cam-drin yn y Cartref (Canolfan Oasis) 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Canolfan Oasis. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Canolfan Oasis

BETH YW'R GANOLFAN OASIS?

Mae'r Ganolfan Oasis yn darparu   cyngor, eiriolaeth, cymorth a mesurau diogelwch ar gyfer dioddefwyr cam-drin yn y cartref.  Mae'r Ganolfan yn gweithio'n agos gydag asiantaethau priodol eraill i drefnu mesurau diogelu effeithiol ac mae'n cyfrannu at fforymau diogelu amlasiantaeth lleol.

Mae'r Ganolfan Oasis hefyd yn cefnogi gwaith darparu Rhaglen Cyflawnwyr Cam-drin Domestig ar gyfer dynion sy'n   troseddu yn y ffordd yma gyda'r nod o newid eu hymddygiad a lleihau ymddygiad   camdriniol tuag at ddioddefwyr.

BETH YW CAM-DRIN YN Y CARTREF?

Cam-drin yn y Cartref yw pan fydd rhywun yn cam-drin rhywun arall sydd mewn perthynas agos gyda nhw, neu sydd wedi bod mewn perthynas agos gyda nhw, yn gorfforol, yn emosiynol, yn ariannol, yn rhywiol neu yn feddyliol.

Mae modd i hyn gynnwys: 

  • Cam-drin corfforol gan gynnwys slapio, dyrnu, cydio yn rhywun wrth ei wddf ac ati
  • Cam-drin rhywiol, gan gynnwys rhyw heb ganiatâd, a / neu mewn ffordd sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus neu gael rhyw i gadw'r camdriniwr yn dawel
  • Camdriniaeth emosiynol a meddyliol, beirniadaeth gyson, bygythiadau i chi a'ch teulu, eich atal chi rhag cael arian, bwyd, cwsg, neu'ch rhyddid
  • Aflonyddu gan gynnwys galwadau ffôn, eich dilyn chi, troi i fyny yn eich gwaith, eistedd y tu allan i'ch cartrer

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth sy wedi'u hatgyfeirio aton ni gan yr Heddlu yn dilyn digwyddiad cam-drin yn y cartref, y rheiny sy wedi'u hatgyfeirio gan asiantaethau eraill fel y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cwmni Adsefydlu Cymunedol, y Gwasanaeth Gofal Plant a Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a'r Gwasanaeth Tai. Mae modd i ddefnyddwyr gwasanaethau hefyd eu hatgyfeirio eu hunain trwy wasanaeth Galw Heibio'r Ganolfan neu drwy gysylltu â'r Ganolfan yn annibynnol.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys: 

  • Eich enw 
  • Eich dyddiad geni 
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion unrhyw blant / unigolion sy'n agored i niwed sy'n gysylltiedig â chi 
  • Manylion y person sy'n cyflawni'r gamdriniaeth sy'n gysylltiedig â chi 
  • Manylion am y gamdriniaeth yn y cartref rydych chi wedi'i dioddef a'r perygl sy'n eich wynebu chi  
  • Manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad, tarddiad ethnig, statws priodasol, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, eich anghenion cymorth, hanes tai ac unrhyw anableddau

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

  • Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu'n uniongyrchol pan fyddwch chi'n gwneud cais i ddefnyddio'r gwasanaeth
  • Heddlu De Cymru
  • Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) Cwm Taf ar gyfer dioddefwyr cam-drin yn y cartref
  • Asiantaethau partner sydd eisoes yn rhoi cymorth i chi

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth er mwyn nodi pa gymorth sydd ei angen arnoch chi a pha lefel o fesurau diogelwch mae modd i ni eich cefnogi i'w defnyddio i'ch cadw'n ddiogel.

Os oes pryderon diogelu mawr neu os oes risg mawr mewn perthynas â'r cam-drin yn y cartref, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau partner eraill i drefnu mesurau diogelu pellach i chi.

Er mwyn i ni allu rheoli'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i chi a gwella'r ffordd rydyn ni'n eu darparu.

Er mwyn i ni gael dealltwriaeth well o'r gwasanaethau y mae angen i nieu darparu a beth yw'r ffordd orau i fodloni anghenion unigolion.

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma er mwyn darparu gwasanaeth cefnogi ar gyfer pobl sy wedi dioddef cam-drin yn y cartref trwy ein Canolfan Oasis yw: 

  • Cyflawni ein dyletswyddau swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth yma:
  • Deddf Troseddau Difrifol 2015 (Adran 76)

http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2015/9/section/76/enacted 

  •   Deddf Trais yn y Cartref, Troseddu a Dioddefwyr 2004

http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2004/28/part/1/crossheading/causing-or-allowing-the-death-of-a-child-or-vulnerable-adult

http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2012/4/section/2

  •    Deddf Trais yn   erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

http://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2015/3/contents/enacted

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Ydy, mewn achosion lle mae caniatâd wedi ei roi neu mewn achos risg uchel neu os oes pryder diogelu critigol yn bresennol. 

  • Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH)
  • Cynhadledd Asesiad Risg Amlasiantaeth (MARAC)
  • Cymorth i Fenywod
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaethau mewnol, e.e. y Gwasanaeth Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Neu unrhyw wasanaeth / sefydliad arall pan fydd hyn yn angenrheidiol ar gyfer diogelwch yr unigolyn

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

3 blynedd ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben.   

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael  gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:  

Trwy lythyr: Uned Diogelwch Pontypridd, Canolfan Oasis, Tŷ Ashgrove,

Stryd yr Eglwys Uchaf, Pontypridd, CF37 2UF

Ffôn: 01443 494190