Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd - Prosiect Treftadaeth 'Delweddau wedi'u Newid'

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Prosiect Treftadaeth 'Altered Images'

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Prosiect Treftadaeth 'Altered Images'. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn arwain, cydlynnu a darparu proiect 'Altered Images' sydd wedi'i gefnogi gan gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r prosiect yn gweithio gyda chymunedau i ystyried sut mae’n canfyddiad ni o’r gorffennol yn newid â threigl amser, a sut mae deall y gorffennol yn herio ein rhagdybiaethau ynglŷn ag o ble rydyn ni'n dod a sut ddatblygodd ein cymunedau. Diben y prosiect yw sicrhau bod ystod ehangach o bobl yn ymgysylltu â'u treftadaeth leol, ac amlygu ac esbonio'r dreftadaeth honno. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a ffurfioli strategaeth dreftadaeth a fydd yn creu cysylltiadau â'r sector i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o dreftadaeth RhCT a'r rheiny sy'n ymwneud â'i rheoli.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am y rhieny sy'n dymuno cymryd rhan yn y prosiect - gwirfoddolwyr, cyfranwyr, cyfranogwyr ac ati sy'n cynnwys aelodau'r gymuned, plant ysgol ayyb.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost)
  • Dyddiad Geni
  • Lluniau/fideos (pan fo'n berthnasol) a'r ffurflenni caniatâd cysylltiedig

Byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig (gwybodaeth cydraddoldeb megis rhywedd, statws cyflogaeth, anabledd, ethnigrwydd) ein gwirfoddolwyr er mwyn monitro ein cyflawniad gan sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio ag amodau'r cyllid grant ac er mwyn cyflawni deilliannau'r cyllid.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

  • Gwybodaeth sy’n cael ei darparu'n uniongyrchol gan unigolyn e.e. ar ffurflen gais
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan aelod arall o'r cyhoedd e.e. cwyn neu bryder
  • Gwybodaeth wedi'i darparu gan y gwasanaeth

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth er mwyn:

  • gwella trefniadau gweithio mewn partneriaeth
  • gweithio gyda chi i nodi cofebion/henebion ledled RhCT i gynhyrchu archif ddigidol ar-lein
  • creu archif weledol ac ar lafar sy’n cynnwys straeon gan amrywiaeth o bobl leol ledled RhCT
  • cynhyrchu a lansio llyfr
  • darparu ystod o weithgareddau gan gynnwys gweithdai, cymorthfeydd, sesiynau hyfforddi a chyfleoedd perfformio/dehongli
  • cofnodi ac asesu eich barn/adborth am eich profiad o weithio ar y prosiect

Yn rhan o'n hymgynghoriadau a gweithgareddau ymgysylltu yn gysylltiedig â'r prosiect 'Altered Images', mae'n bosibl y byddwn ni'n gofyn a fyddai gan bobl ddiddordeb mewn bod yn rhan o grŵp ffocws (neu weithgareddau tebyg) i drafod cynlluniau pellach.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod ni’n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.

Byddwn ni'n defnyddio'r seiliau cyfreithiol canlynol i gasglu a phrosesu eich data personol:

  • Yn unol â'n tasg gyhoeddus –bydd cyflawni’r prosiect yma’n llwyddiannus yn cyfrannu'n uniongyrchol at amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y prosiect yn cyfrannu at les economaidd ac amgylcheddol Cymru trwy gefnogi'r gwaith i greu Cymru lewyrchus, gydnerth a Chymru o gymunedau cydlynus.
  • Pan fyddwch chi wedi rhoi caniatâd i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol at un neu ragor o ddibenion penodol, er enghraifft defnyddio eich lluniau/fideos.

Rydyn ni'n dibynnu ar eich caniatâd penodol ar gyfer data sensitif.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae'n bosibl y bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio ein lluniau/fideos, ond byddwn ni'n gofyn am eich caniatâd cyn eu rhannu.

Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth ystadegol ddienw gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a bydd dim modd eich adnabod chi o'r wybodaeth honno.

7.    Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni'n cadw gwybodaeth ein gwirfoddolwyr/cyfranogwyr/cyfranwyr am dair blynedd. Bydd unrhyw adnoddau/straeon gweledol neu lafar rydych chi'n eu creu yn cael eu cadw yn ein harchifau am gyfnod amhenodol.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Dyma ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.    Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

Dros e-bost: hannah.buckmaster@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 07887 450725

Drwy lythyr: Hannah Buckmaster, Cydlynydd Prosiect Treftadaeth, Llyfrgell Aberdâr, Y Stryd Fawr, Aberdâr, CF44 7AG