Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Ffotograffiaeth a Fideograffeg
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Ffotograffiaeth a Fideograffeg amrywiol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneu
Mae'n bosibl y byddwn ni'n tynnu lluniau a fideos i hyrwyddo ein gwasanaethau, ein gweithgareddau a'n hachlysuron wrth gyflawni'n gwaith a darparu gwasanaethau i chi. Mae'n bosibl y bydd rhai o'r lluniau / fideos hyn yn cynnwys delweddau ohonoch chi.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio pryd y mae modd tynnu lluniau / fideos o'r fath, sut y mae modd defnyddio'r lluniau / fideos a'n sail gyfreithiol ar gyfer tynnu a defnyddio'r delweddau yma.
Dydy'r hysbysiad yma ddim yn trafod defnyddio lluniau / fideos at y dibenion canlynol neu'rgwasanaethau canlynol:
Byddwn ni'n sicrhau bod arwyddion priodol wedi'u gosod er mwyn rhoi gwybod i'r rhai sy'n bresennol ein bod ni'n bwriadu tynnu lluniau neu ffilmio mewn achlysuron cyhoeddus. Mewn achosion lle mae angen prynu tocyn ar gyfer yr achlysur, byddwn ni hefyd yn rhoi gwybod i chi wrth y man gwerthu.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw lluniau a fideos o'r bobl hynny rydyn ni wedi tynnu eu lluniau a'u recordio. Efallai y bydd rhai o'r lluniau hyn yn lluniau agos sy'n dangos person yn glir tra bod eraill yn lluniau o dorf neu sydd wedi'u tynnu o bell, ac felly does dim modd adnabod y person sydd yn y llun.
Bydd y bobl rydyn ni'n tynnu lluniau ohonyn nhw neu sy'n cael eu cynnwys yn ein fideos yn amrywio, bydd y bobl yma'n cynnwys:
- Dinasyddion
- Trigolion
- Defnyddwyr gwasanaeth a chwsmeriaid
- Ymwelwyr
- Plant ysgol
- Gweithwyr o'r Cyngor
Pan fydd angen caniatâd unigolyn i dynnu'i lun neu dynnu fideo ohono (gweler isod), mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn cadw'r manylion canlynol:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac weithiau cyfeiriad e-bost
- Manylion ynghylch pryd rhoddwyd caniatâd
- Gwybodaeth yn ymwneud â rhiant / gwarcheidwad a phlentyn lle y mae'r cydsyniad yn ymwneud â phlentyn neu berson ifanc o dan 16 oed * Mae'n bosibl bydd yr oedran y caiff y plentyn roi ei ganiatâd ei hun amrywio yn dibynnu ar natur y prosesu a’r gwasanaeth.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth
Mae'n bosibl y byddwn ni'n tynnu lluniau / fideos mewn amrywiaeth o leoliadau ac mewn nifer o achlysuron, er enghraifft:
- Achlysuron cyhoeddus mawr e.e. Cegaid o Fwyd Cymru, Diwrnod y Lluoedd Arfog, Gŵyl Aberdâr, Ras Nos Galan ac ati.
- Cyfleusterau a gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael neu sy'n agored i'r cyhoedd e.e. Lido Ponty, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Theatrau, Canolfannau Hamdden.
- Mannau cyhoeddus ac agored yn RhCT fel parciau, cefn gwlad a phrif strydoedd.
- Achlysuron preifat ar gyfer unigolion neu grwpiau dethol e.e. plant ysgol sy'n ymweld â Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda neu seremoni wobrwyo.
Mae'n bosibl y bydd staff y Cyngor neu ffotograffwyr proffesiynol sy'n gweithio ar ran y Cyngor yn tynnu'r lluniau/recordio.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r ffotograffau a'r fideos i hyrwyddo ein gwasanaethau a'n achlysuron gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau a sianeli. Mae modd i hyn gynnwys:
- Gwefan y Cyngor
- Cylchlythyron
- Cyfryngau cymdeithasol y Cyngor megis Facebook
- Mewn posteri,cyfryngau awyr agored, llyfrynnau, taflenni a chanllawiau
- Yn y wasg - straeon teledu / papurau newydd lleol a chenedlaethol ac ati.
- Dogfennau hyfforddi a llyfrynnau
- Hysbysebion
- Cyflwyniadau e.e. mewn cyflwyniad PowerPoint ar gyfer achlysuron a chyfarfodydd mewnol ac allanol
- Cyhoeddiadau eraill y Cyngor megis adroddiadau a strategaethau
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn dweud bod hawl gyda ni ddefnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol mewn achosion lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol at y dibenion uchod yw:
Achlysuron ymgysylltu â'r cyhoedd
- Sail gyfreithiol: Buddiant cyfreithlon
- Nodwch, byddwn ni'n gofyn am ganiatâ yr unigolyn os ydyn ni eisiau tynnu llun agos mewn achlysuron cyhoeddus.
Eiddo a gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael / yn agored i'r cyhoedd
- Sail gyfreithlon: Buddiant cyfreithlon
- Nodwch, byddwn ni'n gofyn am ganiatâd yr unigolyn os ydyn ni eisiau tynnu llun agos yn un o gyfleusterau'r Cyngor.
Mannau cyhoeddus / agored
- Sail gyfreithlon: Buddiant gyfreithlon
- Nodwch, byddwn ni'n gofyn am ganiatâd yr unigolyn os ydyn ni eisiau tynnu lluniau agos o unigolion mewn mannau cyhoeddus / agored.
Achlysuron preifat sy'n cael eu mynychu gan blant a phobl ifanc
- Sail gyfreithiol: Caniatâd
Os yw'r plant yn dod i'r achlysur yn rhan o daith Ysgol (e.e. taith ysgol i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda), bydd y Cyngor yn cysylltu ag arweinydd y grŵp neu'r athro er mwyn cadarnhau bod yr ysgol wedi cael caniatâd gan y rhiant / gwarcheidwad ac ati cyn tynnu llun. Fel arall, byddwn ni'n gofyn am ganiatâd yn uniongyrchol gan y rhiant / gwarcheidwad neu berson sy'n goruchwylio'r plentyn yn ystod yr achlysur.
Achlysuron preifat - eraill
- Sail gyfreithlon: Caniatâd
Weithiau byddwn ni'n cynnal achlysuron / sesiynau hyfforddi ar bynciau megis cam-drin yn y cartref, camddefnyddio sylweddau, rheoli straen ac ati. Oherwydd natur y math yma o achlysuron/sesiynau hyfforddi, mae'n bosibl y bydd rhai unigolion eisiau cadw'u presenoldeb yn gyfrinachol.
Dydyn ni ddim yn debygol o dynnu lluniau neu ffilmio achlysuron/sesiynau hyfforddi o natur sensitif, ond byddwn ni'n gofyn am ganiatâd gan y rheini sy'n dod i'r achlysur cyn tynnu lluniau ac ati. Mae'n bosibl y byddwn ni'n gofyn am y caniatâd hwn ar lafar neu'n ysgrifenedig.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Mae hawl gyda ni rannu lluniau:
- Yn fewnol yn y Cyngor at unrhyw un o'r dibenion uchod
- Cwmnïau marchnata ac achlysuron sy'n cynnal ymgyrchoedd / achlysuron marchnata ar ein rhan ni
- Y wasg leol a chenedlaethol
- Sefydliadau partner dibynadwy ac asiantaethau eraill llywodraeth eraill lle rydyn ni'n darparu gwasanaethu neu achlysuron ar y cyd. h.y. awdurdodau lleol eraill, Cynulliad Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol.
- Cwmnïau Argraffu, h.y. ACT, GYN ar gyfer gwasanaethau argraffu.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Mewn achosion lle rydyn ni'n dibynnu ar fuddiant cyfreithlon byddwn ni'n cadw lluniau hyd nes ein bod ni'n cael lluniau mwy diweddar.
Mewn achosion lle rydyn ni'n dibynnu ar ganiatâd unigolyn i brosesu gwybodaeth bersonol, byddwn ni'n cadw lluniau a delweddau hyd nes y bydd yr unigolyn yn tynnu caniatâd yn ôl.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio uno'r dulliau isod:
E-bost: cysylltiadaucyhoeddus@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 424015