Skip to main content

Cynlluniau Cymorth Costau Byw a Chymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Cynlluniau Cymorth Costau Byw a Chymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr Hysbysiad Preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cynlluniau Cymorth Costau Byw a Chymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol y Cyngor aHysbysiadau Preifatrwydd Treth y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth rydyn ni'n ei wneud?

Bydd y Cyngor, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gweinyddu'r Cynllun Cymorth Costau Byw (y prif gynllun) a'r Cynllun Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn. Bwriad y cynlluniau yw rhoi cymorth yn syth wrth i Gymru adfer wedi'r pandemig a chefnogi cartrefi i ymdopi ag effaith y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill. Bydd y Cyngor yn rhyddhau taliadau ac yn prosesu cofrestriadau yn unol â gofynion y cynllun.

Gweler y ddolen a ganlyn am ragor o fanylion ynghylch pwy fydd â hawl i'r taliadau yma.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Fel arfer, mae'r wybodaeth rydyn ni’n ei chadw a'i phrosesu ynglŷn â'r rheiny sy'n gymwys i gael y taliad yn cynwys:

  • manylion cyswllt personol, gan gynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn

  • manylion Treth y Cyngor

  • manylion banc

I'r rheiny sy'n byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth, rydyn ni hefyd yn gofyn i chi ddarparu dogfennau yn dystiolaeth o hynny, er enghraifft eich cytundeb tenantiaeth mwyaf diweddar neu ddatganiad banc/cymdeithas adeiladu.

Byddwn ni hefyd yn prosesu’r wybodaeth ganlynol ar gyfer y Cynllun Taliad i Deuluoedd:

  • manylion am y plentyn hynaf sy'n dal i fod o oedran addysg gorfodol, ei ddyddiad geni, oedran, a'r ysgol mae’n ei mynychu

Mewn rhai amgylchiadau mae'n bosib y byddwn ni'n gofyn i chi ddarparu manylion am ddogfennau eich plant gan gynnwys manylion eu pasbort, tystysgrif geni neu lythyr yn cynnwys manylion eich plentyn (megis Credyd Treth Plant) er mwyn inni wirio eu hunaniaeth.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Bydd yn cael yr wybodaeth:

  • o gofnodion Treth y Cyngor sydd gyda ni eisoes

  • o gofnodion addysg sydd eisoes gennym ni, ysgolion, neu Awdurdodau Lleol eraill (pan fydd y plentyn yn mynychu ysgol tu hwnt i Rondda Cynon Taf)

  • gennych chi, os byddwch chi'n cyflwyno ffurflen gofrestru, neu trwy gyfatebiaeth

  • gan aelod o'ch teulu/aelwyd/eiddo, pan fo'r wybodaeth yn cynnwys manylion sydd ar ffurflen gofrestru

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth er mwyn:

  • gwirio a oes gyda chi'r hawl i daliad o dan y cynllun(iau), yn erbyn y gofynion a amlinellir uchod, gan gynnwys cydnabod a dod o hyd i dwyllo

  • cyflawni gwiriadau perthnasol i'ch atal chi, neu'r rheiny sy'n byw gyda chi rhag derbyn mwy nag un taliad

  • gwirio eich hunaniaeth (a/neu hunaniaeth eich plentyn ar gyfer y Cynllun Taliad i Deuluoedd)

  • prosesu’r taliad yn awtomatig os ydych chi'n talu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol ac mae gyda chi'r hawl i daliad o dan y cynllun(iau)

  • anfon llythyr atoch chi yn eich gwahodd i gofrestru, os ydyn ni'n credu fod gyda chi'r hawl i unrhyw un o’r taliadau

  • prosesu’r taliad, os oes gyda chi'r hawl iddo

  • cadarnhau pryd mae taliad yn cael ei wneud/wedi ei wneud

  • cysylltu â chi i drafod eich ffurflen gais, os bydd gennym ni unrhyw gwestiynau

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Bydd y Cyngor yn prosesu'ch gwybodaeth yn unol â'n dyletswyddau tasg cyhoeddus a byddwn ni'n gweinyddu'r cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth, megis gwybodeth am Dreth y Cyngor ac Addysg a/neu ysgol eich plentyn â Chynghorau eraill i wirio bod yr wybodaeth yn gywir ac i wirio a ydych chi'n gymwys ar gyfer cynlluniau. Ar gyfer y Cynllun Taliad i Deuluoedd bydd yr wybodaeth yma hefyd yn cynnwys ysgolion ac/neu yr Awdurdod Lleol perthnasol, pan fo'r plentyn yn mynychu ysgol tu hwnt i Rondda Cynon Taf.

Mae'n bosibl i unrhyw achosion pan fyddwn ni'n derbyn gwybodaeth ffug, anghywir neu gamarweiniol yn bwrpasol arwain at gamau erlyn, ac yn yr achosion yma bydd rhaid inni rannu eich gwybodaeth ag awdurdodau perthnasol ar gyfer y trafodion.

Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth ystadegol ddienw â Llywodraeth Cymru. Fydd dim modd eich adnabod chi o'r wybodaeth yma.

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd cofnodion sy'n ymwneud â'r cynlluniau yma'n cael eu cadw am 2 flynedd.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bost: CynllunCymorthCostauBywLlC@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425002

Anfon llythyr: Tŷ Oldway, Porth, Cwm Rhondda, CF39 9ST