Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gweithgareddau Ymgysylltu'r Gwasanaeth Celfyddydau

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gweithgareddau Ymgysylltu'r Gwasanaethau Celfyddydau (o fewn Theatrau RhCT a thu hwnt) 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gweithgareddau ymgysylltu'r Gwasanaethau Celfyddydau. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud. 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n sôn am sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol chi at ddibenion gweithgareddau ymgysylltu â'r celfyddydau sy'n cael eu cynnal gan Wasanaethau Celfyddydau'r Cyngor. Fodd bynnag, mae Gwasanaethau Celfyddydau'r Cyngor hefyd yn trefnu a darparu rhaglen o weithgareddau yn Theatr y Parc a'r Dâr a Theatr y Colisëwm. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth wrth gadw lle ar gyfer achlysur, edrychwch ar Hysbysiad Preifatrwydd Taliadau (i'r Cyngor).  

Mae Gwasanaethau Celfyddydau'r Cyngor yn creu cyfleoedd fel bod modd i nifer o bobl gymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau ymgysylltu. Mae'r rhaglen yma'n cynnwys:

  • Dosbarthiadau / gweithdai / cynlluniau sy'n ymwneud â'r celfyddydau yn y gymuned sydd wedi'u comisiynu mewn sawl lleoliad ar draws Rhondda Cynon Taf
  • Dosbarthiadau dawns a drama i blant yn Theatrau RhCT (Theatr y Colisëwm, Aberdâr a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci) ac mewn lleoliadau o fewn ein cymunedau; gweithgareddau ymgysylltu â'r celfyddydau proffesiynol.

Rydyn ni hefyd yn creu cyfleoedd i bobl ifainc rhwng 8 a 25 oed ymgysylltu â gweithgareddau cerddoriaeth a/neu dderbyn cyngor, cyfarwyddyd a chymorth trwy: 

  • Rhaglen Celfyddydau Ieuenctid a Rhaglen SONIG Diwydiannau Cerddorol Ieuenctid (wedi'u cyllido gan gynllun Teuluoedd yn Gyntaf)
  • Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifainc (YPN)  
  • Cynllun Forte (wedi'i gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Performance Rights Society Foundation for Music - PRSFM)
  • Take pART (rhaglen Gyfranogol Theatrau RhCT sy'n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru)
  • Darpariaeth graidd carfan y Cyngor ym maes y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unigolion sy'n dewis cymryd rhan yn ein gweithgareddau ymgysylltu. Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad a chod post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Dewis iaith (Saesneg/Cymraeg)  
  • Statws Cyflogaeth
  • Manylion Cyswllt Meddygol/Mewn Argyfwng, manylion eich Meddyg Teulu
  • Eich dewis chi ar gyfer tynnu lluniau neu ffilmio

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Rydyn ni'n casglu gwybodaeth gan y person sy'n cymryd rhan yn y weithgaredd. Rydyn ni hefyd yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer cofrestru unigolyn ar gyfer gweithgaredd. Er enghraifft, rydyn ni'n derbyn atgyfeiriadau gan wasanaeth arall yn y Cyngor, neu gan sefydliad arall sy'n cefnogi'r person. Mae modd i hyn gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol a Barnardos.

Os ydych chi dan 18 oed, mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn gwybodaeth gan riant/warcheidwad.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth chi am sawl reswm. Mae modd i hyn gynnwys:

  • Darparu gweithgareddau  
    • Eich cofrestru ar gyfer gweithgaredd
    • Darparu'r gweithgaredd i chi
    • Cadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn â’r gweithgaredd e.e. er mwyn rhoi gwybod am newid i amser neu leoliad y gweithgaredd
    • Monitro cynnydd a phresenoldeb ac ati.
    • Darparu cyngor, cymorth a chyfarwyddyd i chi
    • Trefnu sesiynau achredu ar gyfer cymwysterau gyda chyrff allanol e.e. y Rhwydwaith Datblygu ac Achredu Cynlluniau Dyfarnu
    • Trefnu triniaeth feddygol mewn argyfwng
  • Paratoi a darparu adroddiadau er mwyn arddangos bod y Cynllun yn cael ei gynnal mewn ffordd addas ac yn unol ag amodau'r cyllid.    
  • Paratoi gwybodaeth rheoli er mwyn llywio'r ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau a'r rhaglenni rydyn ni'n eu cynnig a sut rydyn ni'n ymgysylltu â phobl.
  • At ddibenion marchnata lle mae'r unigolyn wedi cydsynio i dderbyn gwybodaeth oddi wrthym ni (edrychwch ar Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Marchnata a Newyddion am ragor o wybodaeth). 

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Y sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel arfer fydd un neu ragor o'r canlynol:

  • Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol fel rhan o'n swyddogaeth fel corff cyhoeddus. Er enghraifft, gweithgareddau celfyddydol er mwyn cynnwys cymunedau RhCT mewn gweithgareddau diwylliannol er budd lles ac iechyd a lleihau anweithgarwch economaidd   
    • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
    • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
    • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (Erthygl 31) 
  • Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn bodloni ein goblygiadau cyfreithiol am resymau sy'n cynnwys materion diogelu ac iechyd a diogelwch.
  • Mae angen i ni gyflawni ein hymrwymiadau cytundebol yn rhan o unrhyw gyllid rydyn ni'n ei derbyn er mwyn darparu'r gwasanaeth.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Mae yna rhai amgylchiadau lle mae'n bosibl y bydd angen i ni rannu'ch gwybodaeth bersonol gyda sefydliadau trydydd parti. Dyma nhw:

  • Cyrff achredu e.e. Agored Cymru, Rhwydwaith y Coleg Agored a Rhwydwaith Datblygu ac Achredu Cynlluniau Dyfarnu  
  • Ein cyllidwyr, at ddibenion archwilio e.e. Teuluoedd yn Gyntaf
  • Y rheiny sy'n darparu ein gwasanaethau ac sy'n prosesu data ar ein rhan ni ac yn ôl ein cyfarwyddiadau e.e. tiwtoriaid a Rec Rock. Yn yr achosion yma, rydyn ni'n gofyn bod y sefydliadau trydydd parti yma'n cydymffurfio â'n cyfarwyddiadau a gyda'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys materion sy’n ymwneud â diogelu data personol.
  • Lle mae dyletswydd arnom ni i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol (er enghraifft mewn perthynas â'r gwasanaethau statudol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith).
  • Darparwyr TG dibynadwy:   
  • Rydyn ni’n defnyddio ‘Mailchimp’ at ddibenion marchnata. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
  • Rydyn ni'n defnyddio Squarespace i gynnal gwefannau Forte / Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifainc. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
  • Rydyn ni'n defnyddio meddalwedd Tickets.com er mwyn cadw data sy'n ymwneud â thocynnau (er enghraifft ar gyfer dosbarthiadau dawns a drama)

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth? 

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am ba bynnag hyd rydyn ni ei hangen, a fyddwn ni ddim yn cadw'ch gwybodaeth am gyfnod hwy nag sydd ei hangen.  Bydd hyd y cyfnod y byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth yn dibynnu ar natur yr wybodaeth. Mae modd i hyn fod 7 mlynedd neu hirach, os oes angen, oherwydd ymrwymiadau contract.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Anfonwch ebost at : Creativeindustries@rctcbc.gov.uk

Ffôn : 01443 570031

Trwy lythyr : Theatr y Parc a'r Dâr, Station Road, Treorci, CF42 6NL