Skip to main content

Sylweddau peryglus

Bob blwyddyn, mae dod i gysylltiad â sylweddau peryglus yn y gwaith yn effeithio ar iechyd miloedd o bobl.

Mae enghreifftiau cyffredin o salwch yn cynnwys clefyd yr ysgyfaint (e.e. oherwydd llwch), croen yn cosi, dermatitis, canser y croen (oherwydd dod i gysylltiad ag olewau neu hylifau cyrydol yn rheolaidd), asthma galwedigaethol (oherwydd sensiteiddio i isoseianidau mewn paent neu lud), tarthoedd gwenwynig, canser galwedigaethol ac ati. Mae costau uchel afiechyd yn deillio o ganlyniadau gan gynnwys colli enillion, colli cynhyrchedd, erlyn a gweithredu sifil.

Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002

Mae fframwaith y Rheoliadau hyn yn helpu i ddiogelu pobl yn y gweithle rhag risgiau iechyd o sylweddau peryglus. Weithiau, bydd gwaith yn gofyn am wneud defnydd uniongyrchol o sylweddau (e.e. cemegolion glanhau, ymweithredyddion cemegol (‘chemical reagents’). Weithiau, codi o ganlyniad i'r gwaith byddan nhw (e.e. llwch, tarthoedd, cynhyrchion gwastraff).

Mae'r Rheoliadau'n gosod canllawiau synhwyrol gam wrth gam ar gyfer y rhagofalon angenrheidiol. Dyna pam maen nhw'n offeryn defnyddiol ar gyfer trefnau rheoli da. Mae llawer wedi sylweddoli eu bod yn fodd i arbed costau (e.e. drwy drefnau mwy tynn ynghylch defnyddio deunyddiau a'u cadw), i godi ysbryd y staff ac i wella cysylltiadau diwydiannol.

Mae'r Rheoliadau'n berthnasol i bron pob sylwedd sy'n beryglus i iechyd. Yr eithriadau yw asbestos a phlwm (sydd â'u rheoliadau eu hunain), a sylweddau sydd ddim ond yn beryglus am eu bod yn ymbelydrol; yn fygwyr; yn cael eu defnyddio ar bwysedd/dymheredd uchel; neu â nodweddion ffrwydrol neu hylosg.

Diffiniadau

  • Perygl – potensial y sylwedd i achosi niwed
  • Risg – y tebygolrwydd y bydd y sylwedd yn niweidio pobl wrth ei ddefnyddio

Bydd y risg yn dibynnu ar nifer o ffactorau, er enghraifft y perygl a gyflwynir gan y sylwedd; sut caiff y sylwedd ei ddefnyddio; sut caiff dod i gysylltiad â’r sylwedd ei reoli; faint o'r sylwedd caiff rhywun ddod i gysylltiad ag ef ac am ba hyd, ac ati.

Mae cydymffurfio â'r Rheoliadau yn golygu:

  • asesu'r risgiau;
  • penderfynu pa gamau diogelu sydd angen eu cymryd;
  • atal neu reoli risg;
  • sicrhau y caiff mesurau rheoli eu gweithredu a'u cynnal;
  • monitro dod i gysylltiad â'r sylwedd a chyflawni gwyliadwriaeth iechyd, lle y bo angen;
  • rhoi gwybodaeth, canllawiau a hyfforddiant i weithwyr am y risgiau a'r camau sydd angen eu cymryd i'w hosgoi.

Yr asesiad – canllawiau gam wrth gam:

  • Pennu'r peryglon.
  • Gwerthuso'r risgiau i bobl.
  • Ar gyfer risgiau sylweddol, penderfynu ar y camau sydd angen eu cymryd i gael gwared arnyn nhw neu i'w lleihau nhw i lefel dderbyniol.

Cyfrifoldeb y cyflogwr yw'r asesiad. Bydd rhaid i bwy bynnag sy'n cyflawni'r asesiad:

  • deall gofynion y Rheoliadau, deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a chanllawiau sydd wedi'u cyhoeddi;
  • bod â'r gallu i gyflawni gwaith yr asesiad;
  • ymgynghori'n eang â'r gweithwyr, a dweud wrthyn nhw am y canlyniadau;
  • ystyried gweithwyr teithiol (sy'n gweithio i chi ar safleoedd eraill).

Peryglon – mae sylweddau niweidiol i iechyd yn cynnwys:

  • Sylweddau sy'n cael eu categoreiddio'n beryglus i iechyd o dan Reoliadau Cemegolion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu i'w Cyflenwi) 2002. Mae llawer ohonyn nhw ar y Rhestr Gyflenwi a Gymeradwywyd, sy'n rhan o Reoliadau 2002.
  • Sylweddau y mae cyfyngiadau ar faint mae pobl i ddod i gysylltiad â nhw yn y gwaith (mae'r rhain yn Nodyn Cyfarwyddyd EH40, sy'n cael ei ddiwygio bob blwyddyn).
  • Cyfryngau biolegol.
  • Crynodiad sylweddol o unrhyw fath o lwch.

Mae modd adnabod sylweddau peryglus drwy:

  • Taflenni data peryglon, labeli, ac ati, gan y cyflenwyr. (Mae'r rhain yn ofynnol yn ôl y gyfraith). Rhaid i chi wneud penderfyniadau ar sail y rhain sy'n berthnasol i'r ffordd bydd y sylwedd yn cael ei ddefnyddio yn eich gweithle chi.
  • Gwybodaeth sydd ar gael yn eich busnes neu'ch diwydiant; cyhoeddiadau sy'n berthnasol i'ch maes.
  • Cyfarwyddiadau a dogfennau sydd wedi'u cyhoeddi.
  • Rhan V o'r Rhestr Gyflenwi a Gymeradwywyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Risgiau – mae asesu risgiau yn cynnwys edrych ar:

  • sut mae sylweddau peryglus yn cael eu defnyddio, eu trafod, eu cynhyrchu, eu gollwng ac ati;
  • pwy all gael ei effeithio, ac i ba lefel ac am ba hyd y bydd yn dod i gysylltiad â'r sylwedd;
  • sut mae pobl yn dod i gysylltiad â'r sylwedd (anadlu, llyncu, amsugno drwy'r croen ac ati);
  • y mesurau ar hyn o bryd ar gyfer atal neu reoli dod i gysylltiad â'r sylweddau – pa mor effeithiol ydyn nhw, sut maen nhw'n cael eu defnyddio?
  • colli, arllwys neu ollwng drwy ddamwain;
  • gweithrediadau glanhau a chynnal a chadw.

Camau pellach

  • Dim tebygolrwydd o niwed, neu dydy'r risg ddim yn sylweddol – does dim angen camau pellach tan adolygu'r asesiad.
  • Pennu'r risgiau – sicrhau sefydlu mesurau rheoli priodol, yn y drefn flaenoriaeth yma:-
  • Atal.
  • Newid y broses/gweithgaredd fel does dim angen y sylwedd peryglus, neu'n peidio â'i gynhyrchu.
  • Ei newid am sylwedd mwy diogel.
  • Defnyddio ffurf fwy diogel o'r sylwedd.

Dyma rai mesurau rheoli:

  • Cau'r broses i mewn yn gyfan gwbl.
  • Cau'r broses i mewn yn rhannol, a gosod cyfarpar echdynnu.
  • Awyru cyffredinol.
  • Defnyddio systemau gweithio, a gweithdrefnau trafod sylweddau, sy'n lleihau'r siawns o'u harllwys, eu gollwng ac ati, neu o ddod i gysylltiad â nhw.
  • Cyfarpar diogelu personol (e.e. anadlyddion, dillad amddiffynnol). Dyma'r dewis olaf i'w ddefnyddio pan fydd dim modd i chi reoli dod i gysylltiad â'r sylwedd drwy'r dulliau uchod.

Rhaid i weithwyr wneud defnydd priodol o bob mesur rheoli, ac adrodd am ddiffygion.

Mae'n ofynnol i gyflogwyr sicrhau bod mesurau rheoli yn gweithio'n effeithiol a'u cynnal mewn cyflwr da. Rhaid archwilio unrhyw reoliadau peirianyddol a chyfarpar anadlu diogel, a'u profi lle bo hynny'n briodol, ar adegau addas. Rhaid cadw cofnod addas o bob gweithred o'r fath.

  • Mae monitro dod i gysylltiad â'r sylwedd yn ofynnol mewn rhai amgylchiadau, e.e. lle byddai risgiau difrifol i iechyd pe bai'r mesurau diogelu'n methu neu'n dirywio, neu le does dim modd bod yn sicr dydy dod i gysylltiad â'r sylwedd yn mynd dros ei derfynau. Rhaid cadw cofnod addas o bob gweithred o'r fath.
  • Lle mae'n ofynnol i gadw llygad ar gyflwr iechyd.
  • Lle mae gweithiwr yn cymryd rhan mewn un o'r prosesau yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, ac yn debygol o ddod i gysylltiad sylweddol â'r sylwedd dan sylw.
  • Lle mae gweithwyr yn dod i gysylltiad â sylwedd sy'n gysylltiedig â salwch neu ganlyniad penodol sy'n niweidiol i iechyd, a lle mae'n rhesymol debyg y bydd y salwch neu'r canlyniad penodol hwnnw'n digwydd dan amodau'r gwaith, a lle mae modd canfod y salwch neu'r canlyniad niweidiol i iechyd. Rhaid cadw cofnodion addas am o leiaf 40 o flynyddoedd.

Cofnodi ac adolygu'r asesiad

Oni bai bod yr asesiad mor syml fel bo modd ei ddwyn i gof, ac esbonio'i gasgliadau yn rhwydd, bydd gofyn cadw cofnod ysgrifenedig. Dylai adolygiad gael ei gynnal yn rheolaidd, unwaith bob pum mlynedd o leiaf. Dylid adolygu'r asesiad os nad yw'n ddilys bellach, neu os yw'r gwaith wedi newid yn sylweddol hefyd.

Hysbysu, cyfarwyddo a hyfforddi gweithwyr

Rhaid i gyflogwyr wneud hyn, gan esbonio'r risgiau sydd ynghlwm wrth y sylweddau, a'r camau i'w cymryd er mwyn eu hosgoi. Rhaid rhoi digon o wybodaeth a chyfarwyddiadau am fesurau rheoli, cyfarpar diogelu personol, canlyniadau gwaith monitro o ran dod i gysylltiad â'r sylwedd neu wyliadwriaeth iechyd, a gweithdrefnau argyfwng.

Camau ar gyfer cynnal asesiad

The Steps in Making an Assessment
 Oes gennych chi restr gyflawn o'r sylweddau sy'n cael eu defnyddio/cynhyrchu yn y gweithle?Ydw/Nac ydw
  Ydych chi wedi pennu unrhyw sylweddau sy'n beryglus i iechyd? Ydw/Nac ydw
  Ydych chi wedi casglu gwybodaeth am y sylweddau, y gwaith a'r prosesau gweithio? Ydw/Nac ydw
  - hynny yw, pa beryglon sydd? Ydw/Nac ydw
  - hynny yw, pa beryglon sydd? Ydw/Nac ydw
  Ydych chi wedi gwerthuso'r risgiau i iechyd (hynny yw, ar gyfer unigolion a grwpiau)? Ydw/Nac ydw
  - hynny yw, tebygolrwydd o ddod i gysylltiad? Ydw/Nac ydw
  - i ba raddau gallai rhywun ddod i gysylltiad â'r sylwedd? Ydw/Nac ydw
  - am ba mor hir gallai rhywun ddod i gysylltiad â'r sylwedd? Ydw/Nac ydw
  - pa mor aml gallai rhywun ddod i gysylltiad â'r sylwedd? Ydw/Nac ydw
  Ydych chi wedi penderfynu beth sydd angen ei wneud, o ran:  
  - atal neu reoli achosion o ddod i gysylltiad â'r sylwedd? Ydw/Nac ydw
  - cynnal mesurau rheoli? Ydw/Nac ydw
  - defnyddio mesurau rheoli? Ydw/Nac ydw
  - unrhyw fonitro/wyliadwraeth? Ydw/Nac ydw
  - gwybodaeth, cyfarwyddiadau a hyfforddi? Ydw/Nac ydw
  Ydych chi wedi penderfynu cofnodi'r asesiad? Ydw/Nac ydw
  Os ‘Ydw’ i (6), ydych chi wedi penderfynu hyd, cyflwyniad a diwyg y cofnod? Ydw/Nac ydw
  Ydych chi wedi penderfynu pryd dylai pob asesiad gael ei adolygu? Ydw/Nac ydw
  Ydych chi wedi sefydlu system neu weithdrefn er mwyn rheoli a chofnodi'r elfennau uchod? Ydw/Nac ydw
Is-adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd

Prosiect Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Ffôn:  01443 425001
Ffacs: 01443 425301

Ffôn Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 01443 425011 (nosweithiau a phenwythnosau)