Skip to main content

Gwybodaeth am risgiau

Gwybodaeth am risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig ag aerdymheru.

Mae modd i'r unedau trin aer mewn adeiladau fod wedi'u cysylltu â systemau aerdymheru.

Mae rhai systemau aerdymheru yn defnyddio cyddwyswyr anweddol (‘evaporative condensers’) yn eu proses oeri. Yn ôl Rheoliadau Hysbysu ynghylch Tyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol 1992, rhaid cofrestru systemau o'r fath yma gyda'r awdurdod lleol.

Mewn systemau aerdymheru fel hyn, mae'r broses oeri yn dibynnu ar ddŵr yn anweddu. Os bydd y system heb gael ei chynnal a chadw'n iawn, fe allai bacteria fel Legionella ddechrau tyfu ynddi. Dyma'r germau sy'n achosi Clefyd y Llengfilwyr.

Gallai'r bacteria hyn ymledu'n gyflym. Bydd y systemau hyn yn gollwng dafnau mân o ddŵr i’r aer. Os bydd Legionella ynddyn nhw, fe allai pobl eu hanadlu i mewn a dal y clefyd.

Dyna pam mae rhaid cofrestru pob system aerdymheru sy'n defnyddio cyddwyswyr anweddol. Os oes un gennych chi, cysylltwch â Phrosiect Bwyd ac Iechyd a Diogelwch Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Os oes tyrau oeri a chyddwysywr anweddol mewn adeilad, bydd risg heintio pobl sy'n gweithio yno a'r cyhoedd hefyd. Mae angen bodloni'r awdurdod sy'n gorfodi'r gyfraith fod mesurau rheoli addas ar waith i'w diogelu. Dyna brif bwrpas y Rheoliadau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael ffurflen hysbysu, cysylltwch â ni.

Uwchadran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd

Prosiect Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

E-bost: Bwyd.IechydaDiogelwch@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301