Skip to main content

Trwydded sefydliad rhyw

Gall sefydliad rhyw naill ai fod yn siop ryw neu'n sinema rhyw.

Mae angen trwyddedu sefydliadau rhyw yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

Mae siop ryw yn safle sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhedeg busnes sydd, i raddau helaeth, yn cynnwys gwerthu eitemau rhyw.

Sinema rhyw yw unrhyw safle sy'n cael ei ddefnyddio, i raddau helaeth, ar gyfer dangos ffilmiau sy'n ymwneud yn bennaf ag ysgogi gweithgarwch rhywiol, neu sydd â'r bwriad o wneud hynny.

Mae'r gyfraith yn diffinio'r broses cyflwyno cais, sy'n cynnwys rhoi hysbysiad o'r cais yn y wasg leol ac arddangos hysbysiad y tu allan i'r safle am gyfnod amser penodol i roi cyfle i bobl roi sylwadau erbyn dyddiad cau statudol.

Crynodeb o'r rheoliadau

Bydd unrhyw un sy'n cynnal sefydliad rhyw heb drwydded, neu sy'n methu â chydymffurfio ag amodau'r drwydded, neu sy'n caniatáu mynediad i bersonau o dan 18 oed, yn cyflawni trosedd.

  • Gall dirwyon amrywio o £1,000 i £20,000 wrth gael eich dyfarnu'n euog.

Meini prawf

Wrth ystyried cais am drwydded sefydliad rhyw, bydd modd i'r Cyngor ddefnyddio'r meini prawf canlynol yn unig:

  • Addasrwydd yr ymgeisydd.
  • A yw'r person sy'n cyflwyno cais yn gweithredu ar ran rhywun arall.
  • Lleoliad a man penodol y safle mewn perthynas â safleoedd eraill yn yr ardal.
  • A yw nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal honno'n hafal i'r nifer mae'r Cyngor yn ei hystyried yn briodol ar gyfer yr ardal, neu'n uwch na'r nifer honno.

Cyflwyno cais

Mae modd i chi gyflwyno cais ar-lein a thalu'n electronig (os oes angen).

Cyflwyno cais am drwydded sefydliad rhyw ar-lein

Costau

Bydd angen talu ffi wrth gyflwyno'r cais. Dyma'r ffioedd ar hyn o bryd:-

  • Cais am drwydded: £1709.00
  • Adnewyddu trwydded: £1363.00
  • Trosglwyddo trwydded: £1363.00

Cadarnhad ein bod ni wedi derbyn eich cais

Os byddwch chi'n cyflwyno cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn cadarnhad unwaith ein bod ni wedi derbyn y taliad yn llwyddiannus. Byddwch chi, wedyn, yn derbyn neges e-bost yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu.

Os byddwch chi'n anfon cais i'r Adran Trwyddedu, byddwch chi, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, yn derbyn llythyr o gadarnhad bod eich cais yn cael ei brosesu, ynghyd â derbynneb.

Os byddwch chi'n dod â'ch ffurflen gais i dderbynfa ein swyddfa, byddwch chi'n derbyn derbynneb ar unwaith ac, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, byddwch chi'n derbyn llythyr sy'n cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu.

Proses apelio

  • Os bydd unigolyn yn anfodlon ar gais am drwydded sydd wedi ei wrthod, neu'n anfodlon ar unrhyw un o'r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, bydd hawl ganddo apelio i Lys yr Ynadon.
  • Bydd modd apelio yn Llys y Goron yn erbyn penderfyniad sy'n cael ei wneud yn Llys yr Ynadon, ond bydd penderfyniad Llys y Goron yn derfynol.

Cwyno/gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am eich cais trwyddedu neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Cofrestri cyhoeddus

I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Neu, anfonwch eich cais mewn neges e-bost i Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Garfan Trwyddedu gan ddefnyddio'r manylion isod.

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301