Skip to main content

Polisi Trwyddedu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Mae'r datganiad yn cynnwys gwerthu alcohol, cyflenwi alcohol gan glwb neu ar ei ran, darparu adloniant rheoledig a darparu lluniaeth gyda'r hwyr.

Mae'r Cyngor wrthi'n adolygu ei Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu yn unol â deddfwriaeth statudol. Mae mân newidiadau wedi'u gwneud i'r ddogfen bresennol sy'n parhau i fod yn addas i'r diben. Mae adroddiad drafft wedi'i ddarparu (gweler y ddolen), a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 10 Mehefin 2024 a 21 Gorffennaf 2024 er mwyn cyflwyno sylwadau. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen ymgynghori Cyngor RhCT. Fel arall, mae modd cyflwyno sylwadau drwy e-bostio Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk.

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r datganiad neu'r Ddeddf Trwyddedu 2003 drwy glicio ar y dolenni isod:

Datganiad o'r Polisi Trwyddedu 2020-2025 yn weithredol o 7 Ionawr 2020

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Garfan Trwyddedu drwy ffonio 01443 744284 neu e-bostio adran.trwyddedau@rctcbc.gov.uk