Skip to main content

Trwydded Hypnotiaeth

Sut i wneud cais am ganiatâd hypnotiaeth.

Crynodeb o'r cais

Mae angen cael caniatâd ysgrifenedig y cyngor, ac yntau'n Awdurdod Trwyddedu, i gynnal unrhyw arddangosfa neu berfformiad o hypnotiaeth (fel y diffinir yn y Ddeddf Hypnotiaeth 1952) ar unrhyw berson, a rhaid cydymffurfio â'r amodau mabwysiedig.

Rhaid i chi, a chithau'n ymgeisydd, neu'ch asiant, wneud cais am ganiatâd o leiaf 28 diwrnod cyn y perfformiad.

Mae'n bosibl y bydd y cyfnod yma yn llai os yw hypnotydd wedi perfformio yn yr un lleoliad o fewn y tair blynedd diwethaf heb unrhyw broblemau.

Bydd y Cyngor fel arfer yn ymateb o fewn 7 i 14 diwrnod, ac eithrio sefyllfa lle mae'r hypnotydd wedi perfformio yn yr un lleoliad o'r blaen. Rhaid i'r ymgeisydd anfon copi o'r cais at Brif Swyddog yr Heddlu neu Awdurdod Tân.

Dylai'r cais gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Enw (enw go iawn ac enw llwyfan, os ydyn nhw'n wahanol) a chyfeiriad y person fydd yn perfformio, yn ogystal â manylion ei dri pherfformiad diwethaf (lleoliadau a dyddiadau)
  • Datganiad, gan gynnwys manylion llawn, o ran y canlynol:
    • A ydy cais y hypnotydd wedi cael ei wrthod neu'i dynnu'n ôl gan unrhyw awdurdod trwyddedu yn y gorffennol?
    • A ydy'r hypnotydd wedi'i euogfarnu o drosedd o dan Ddeddf Hypnotiaeth 1952 yn y gorffennol?
    • Ydy'r hypnotydd wedi cyflawni trosedd sy'n cynnwys torri amod sy'n rheoleiddio perfformiad, neu wedi'i atal rhag perfformio hypnotiaeth ar unrhyw berson mewn lleoliad wedi'i drwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 neu unrhyw leoliad arall yn y gorffennol?

Mae modd gweld amodau caniatâd Perfformio Hypnotiaeth Llwyfan drwy ddarllen y ddogfen wedi'i hatodi.

Does dim ffi ar gyfer caniatâd Hypnotiaeth.

Mae modd gwneud cais ar-lein trwy fynd i GOV.uk