Skip to main content

Arddangoswyr

 

Mae arddangoswyr 2024 wedi'u cadarnhau!  Bwriwch olwg isod i gael gweld pwy sy'n mynychu:

Bar
Grey Trees Brewery

Mwynhewch y Bar a'r Ardd Gwrw sydd dan ofal y bragwyr lleol, Grey Trees Brewery. Byddan nhw'n gweini lager, cwrw, seidr, gwin, diodydd meddal, gin, fodca a llawer yn rhagor.

Bwyd

Eitemau ar werth

Allys Confectionery

Os ydych chi'n chwilio am losin hen ffasiwn mewn tybiau y mae modd eu hailgylchu, dymis, lolis, cyffug a diodydd meddal, dyma'r stondin perffaith i chi.

Bloom Sugar Cakes

Yn y stondin yma byddwch chi'n dod o hyd i bob math o ddanteithion gan gynnwys amrywiaeth o basteiod, sleisys, pasteiod bach, bariau a brechdanau cwci, cacennau millionaire, cacennau sbwng, a llawer yn rhagor!

Cruz Café

Prynwch goffi a diodydd poeth ac oer yma.

Davisons Artisan Chocolate & Fudge

Cyffug mewn amrywiaeth eang o flasau poblogaidd a chyfoes, bariau siocled wedi'u llenwi a'u paentio â llaw, bon bon siocled, fflapjacs cyffug.

DeLIZscious Delights 

Yn y stondin yma gallwch chi ddod o hyd i ddanteithion blasus ac anrhegion siocled melys.

Dinky Donuts 

Dinky Donuts wedi'u coginio'n ffres, diodydd poeth ac oer, diodydd iâ mân, candi-fflos a llawer yn rhagor.

Doughnutterie

Bydd dewis gwych o doesenni wedi'u gwneud â llaw ac eitemau becws ar gael yma.

Eleri's Welshcakes

Bydd modd prynu amrywiaeth eang o bicau ar y maen cartref o'r stondin yma.

Icecool

Hufen iâ, 'Slush', lolis iâ, diodydd meddal a phob dim rhewllyd sydd ar gael yma

Krazy Crepes 

Mwynhewch crêpe blasus gyda thopin melys neu sawrus.

Noodles To Go

Bob amser yn boblogaidd yng Ngŵyl Aberdâr!  Mwynhewch nwdls wedi'u tro-ffrio (cyw iâr, cig eidion, hwyaden, llysiau), crempogau llysiau/cig (spring rolls) a kimchi, a byns wedi'u stemio yma.

Penaluna's Famous Fish and Chips

Mae'r siop sglods traddodiadol sydd wedi ennill gwobrau yn denu ciw o bobl bob blwyddyn! Mae'r fwydlen yn cynnwys eu pysgod a sglodion enwog, selsig, nygets cyw iâr ac wrth gwrs - grefi a sawsiau cyri. 

Red Room Confectionary

Rhowch gynnig ar bastai corn-bîff, rholiau selsig, pastai neu bastenni sawrus cyn mynd ati i fwynhau pwdin. Bydd brownis, blondis, cwcis, cacennau a thoesenni ar gael yma.

Scoffle ya Waffle

Wafflau blasus ar ffon gyda siocled, danteithion Kinder, Biscoff, caramel a mwy.

Signore Slush

Slush, hufen iâ, diodydd, coffi.

The School of Jam

Bydd malws melys cartref a chynnyrch malws melys ar werth yma.

Spuds on the Run

Bydd pob math o daten yn cael ei gwerthu ar y stondin yma, gan gynnwys taten bob, taten felys a sglodion â thopins.

Sweet Treats Cardiff

Losin, slush, candi-fflos, lolipops, siocledi a llawer yn rhagor.

Crefftau

 Eitemau ar werth

Bow Addict

Rhubanau, boblau a bandiau!

Crystal Crysalis

Crisialau go iawn ar bob ffurf, gan gynnwys tyrau, sfferau a chrisialau wedi'u cerfio. Bydd cerrig, breichledau ac anrhegion ar gael.

Kidz Fun

Dewch i gael tatŵs gliter a gliter gŵyl yn y stondin yma!

Pasithea

Celf â cherrig mân, calonnau llechi, celf acrylig, olewau hanfodol a llosgwyr olew, conau/ffyn arogldarth, llosgwyr arogldarth, bomiau bath, canhwyllau a phethau i blant.

Pocket Money Treasures

Teganau, gemwaith a hetiau haf am brisiau arian poced.

Sparkletastic

Dewch draw i gael paentio'ch wynebau, tatŵs sgleiniog, a phlethu'ch gwallt.

Stondinau Gwybodaeth 

 

Cyfeillion Parc Aberdâr

Dewch o hyd i drugareddau ar werth yma i gefnogi Parc Aberdâr

Dwr Cymru/Welsh Water

Cynnig cyngor i gwsmeriaid am arbed arian ac ynni.

Maethu Cymru

Gwybodaeth am sut i ddod yn rhiant maeth.

Little Inspirations Limited

Hyrwyddo gwasanaethau meithrin yn Aberdâr, bydd y stondin yn cynnwys gweithgareddau crefft am ddim i bobl ifainc.

Llais

Gwybodaeth am bwyllgor annibynnol y GIG

Peter Alan

Gwerthwyr Tai

Prosiect Cam-drin Domestig yn y Gymuned CBSRhCT

Gwasanaeth cymorth, cyngor a gwybodaeth.

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Cyngor Rhondda Cynon Taf

Gwybodaeth am Wasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor

Tŷ Hafan

Gwybodaeth am achlysuron codi arian ac elusennol.