Skip to main content

Newyddion

WYTHNOS SAFONAU MASNACH CYMRU: CADWCH OLWG AM SIARCOD ARIAN

Mae Safonau Masnach Cymru ac Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru yn rhybuddio defnyddwyr i fod yn wyliadwrus ar gyfryngau cymdeithasol...

17 Ebrill 2024

Gwaith gwella llwybrau diogel i'r ysgol yn mynd rhagddo yn Llantrisant

Mae gwaith wrthi'n cael ei gynnal i wella cyfleusterau i gerddwyr yn y strydoedd ger Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi – a hynny er mwyn ategu'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol

10 Ebrill 2024

Cynllun gosod wyneb newydd ar y ffordd ar Heol Berw i'w gynnal gyda'r nos

Mae'r gwaith yn cael ei gynnal gyda'r nos er mwyn lleihau aflonyddwch. Bydd yn dechrau am 7pm nos Lun a nos Fawrth (15 a 16 Ebrill) ac yn dod i ben erbyn 2am y bore wedyn

10 Ebrill 2024

Gwaith i ddatrys problem ar ran o ffordd rhwng Glyn-coch ac Ynys-y-bwl

Bydd cynllun i drwsio'r ffordd gerbydau ar y B4273 yn dechrau wythnos nesaf. Bydd dim angen y goleuadau traffig dros dro ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau

05 Ebrill 2024

Gwaith ymchwilio ar gyfer cynllun gwella draeniau yn y Porth

Mae cynllun i wella system ddraenio Heol Tuberville yn cael ei lunio ar hyn o bryd, a bydd gwaith archwilio'r tir yn dechrau ddydd Llun, 8 Ebrill

04 Ebrill 2024

Academi Jason Mohammad yn ymweld â Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sefydlu partneriaeth ag Academi Jason Mohammad i gynnig gweithdy 'Diwydiant Creadigol' i bobl ifainc sy'n awyddus i archwilio cyfleoedd yn y sector creadigol.

03 Ebrill 2024

Coleg y Cymoedd: Ailddechrau Lleoliadau i Fyfyrwyr yn Gwasanaethau i Oedolion

Ar 8 Ebrill, 2024, mae adran Gwasanaethau i Oedolion Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ailddechrau ei leoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 gyda Choleg y Cymoedd.

02 Ebrill 2024

Adroddiad cynnydd ar Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu wrth i bedwar cynllun newydd gael eu nodi

Mae cyfanswm o 25 o gynlluniau wedi'u cwblhau, gyda gwaith yn dal i fynd rhagddo ar un cynllun arall. Mae pedwar lleoliad newydd wedi'u nodi'n ddiweddar, a bellach mae cyllid wedi'i ddyrannu ar eu cyfer yn rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd...

02 Ebrill 2024

Gŵyl Banc y Pasg – gwybodaeth bwysig am wasanaethau'r Cyngor

The Council will be closed from 5pm on Thursday, March 28 and re-open at 9am on Tuesday, April 2 – this applies to ALL major services aside from out-of-hours emergencies.

28 Mawrth 2024

Newidiadau i'r rhwydwaith bysiau ledled Rhondda Cynon Taf o fis Ebrill 2024

Dyma roi gwybod i chi y bydd newidiadau i'r rhwydwaith bysiau ledled y Fwrdeistref Sirol o ddydd Llun, 1 Ebrill. Serch hynny, ni ddylai defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus brofi fawr ddim newid i'w teithiau bws rheolaidd

28 Mawrth 2024

Chwilio Newyddion