Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Tylcha Fach Farm

 

Tylcha-Fach Farm, Tonyrefail, Y Porth

Bwthyn sengl ar wahan croesawus yw Fferm Tylcha Fach, yn sefyll ar fferm brysur y perchennog, ar ymyl tref Tonyrefail. Mae lle i wyth o bobl gysgu yn y bwthyn, mewn pedair o ystafelloedd gwely. Mae en-suite gydag un o'r rhain, ac mae ystafell ymolchi ar wahan ar gael hefyd. Yn ogystal â hyn i gyd, mae gan y bwthyn gegin gydag ardal fwyta,  ystafell eistedd gyda gwresogydd llosgi coed, a heulfan. Tu allan, ceir lleoedd parcio oddi ar y ffordd i ddau gar, a phatio caeedig gyda dodrefn a barbeciw. Mae Fferm Tylcha Fach yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer crwydro'r ardal.

Cyfleusterau:
*Gwres canolog trydan gyda stof sy'n llosgi coed.
*Ffwrn a hob drydan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi, peiriant sychu dillad, peiriant golchi llestri, dau deledu clyfar gyda Freeview, technoleg WiFi.
*Tanwydd ar gyfer stof sy'n llosgi coed wedi'i gynnwys.
*Tanwydd a phŵer wedi'u cynnwys yn y rhent.
*Dillad gwely a thyweli wedi'u cynnwys yn y rhent.
*Crud teithio a chadair uchel.
*Lleoedd parcio oddi ar y ffordd i ddau gar.
*Patio caeedig gyda dodrefn a barbiciw o flaen y tŷ.
*Croeso i un ci sy'n ymddwyn yn dda
Mae'n flin gyda ni - dim ysmygu.
Taith gerdded 10 munud i'r siop, un filltir i'r dafarn
Noder: Bydd lle ar gael mewn stabl i geffyl am bis ychwanegol, ond rhaid trefnu hyn ymlaen llaw.
Noder: Mae'r feidr i fyny i fferm y perchennog a'r eiddo yn gul ac yn serth

WiFi-Zone-Logo