Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Fferm Troedrhiwtrwyn

 
Fferm Troedrhiwtrwyn, Trehopcyn, Pontypridd, CF37 2SE

Mae'r bwthyn hanesyddol yma o'r 17eg Ganrif sydd wedi'i leoli yng Nghwm Rhondda, tua milltir o Bontypridd, yn llawn cymeriad, waliau carreg trwchus, grisiau troellog prydferth a'r trawstiau derw gwreiddiol.

Mae perchnogion y bwthyn yn cyfeirio ato fel 'Troed', ac mae'r teulu wedi perchen ar y bwthyn er blynyddoedd cynnar yr 1900au. Heddiw, mae'r bwthyn yn rhan o bentrefan adeiladau hen lofa a bythynnod glowyr a gafodd eu hadeiladu yn yr 19eg Ganrif, mae hyn yn dyst i hanes cyfoethog y diwydiant glo yn yr ardal.

Mae'r bwthyn yn addas i deuluoedd neu grwpiau o hyd at 6 o bobl. Mae'r llety yn cynnwys dwy ystafell fyw sydd â lleoedd tân 'inglenook' mawr, tair ystafell wely, ystafell ymolchi a chegin fach. Yn yr ardd mae yna dŷ haf sy'n wynebu'r de, ardal eistedd awyr agored, BBQ a phwll tân.

Mae croeso i anifeiliaid ac mae yna ddigonedd o le parcio a storio y tu mewn ar gyfer beiciau.