Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Swn Y Gwynt

 
Pen-y-Banc, Y Rhigos, Aberdâr

Rhandy llawr gwaelod swynol yw Sŵn y Gwynt, ynghlwm wrth gartref y perchnogion yng Nghefn Rhigos, yng Nghymoedd y De. Mae gan yr eiddo ystafell wely ddwbl gyda chawod en-suite ar ffurf ystafell wlyb, ac ardal fyw gynllun agored gyda chegin, ardal fwyta, ac ardal eistedd gyda gwely soffa. Yn ogystal â hyn, mae yma heulfan gyda golygfeydd gwych o'r cefn gwlad. Ceir patio y tu allan, gyda dodrefn a lleoedd parcio oddi ar y ffordd. Mae Sŵn Y Gwynt yn swatio  mewn llecyn gwych ar gyfer dianc i'w wlad. Dyma ganolfan wych gydol y flwyddyn.

Cyfleusterau:
*Technoleg Wifi ar gael.
*Gwres canolog nwy, gyda thân trydan.
*Ffwrn a hob drydan. meicrodon, hob halogen, oergell/rhewgell, teledu gyda Freeview, peiriant DVD, peiriant cryno-ddisgiau/neu radio, technoleg WiFi, detholiad o lyfrau, gemau, a DVDau.
*Darperir dillad gwely a thyweli.
*Crud teithio a chadair uchel ar gael.
*Lleoedd parcio oddi ar y ffordd i ddau gar.
*Patio gyda dodrefn.
*Dau feic hybrid i oedolion ar gael i'w defnyddio ar eich risg eich hun.
Noder: Mae modd storio beiciau yn yr heulfan.
Taith gerdded wyth munud i'r siop, a dau funud i'r dafarn neu'r tŷ bwyta.
Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu.

WiFi-Zone-Logo