Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Bwthyn Bach - Llantrisant

 
Bwthyn Bach, 17 Heol-Y-Sarn, Llantrisant, CF728DA

Mae Bwthyn Bach yn lle hyfryd i aros ynddo yn nhref fechan hanesyddol Llantrisant. Mae'r bwthyn wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar i safon uchel gyda lloriau pren, gwres canolog ac addurn mewnol modern a chyfforddus. Dyma leoliad gwych i archwilio'r hyn sydd gan yr ardal i'w chynnig gan gynnwys Cwm Rhondda, y Bannau Brycheiniog, Bae Caerdydd ac Ynys y Barri. Mae modd parcio tu allan i'r bwthyn ac mae maes parcio i'r cyhoedd yn agos hefyd. Mae gan y bwthyn ddwy ystafell wely, un gyda gwely dwbl a'r llall gyda gwely bync sy'n addas i blant. Mae gan y llawr gwaelod ardal fyw, cegin ac ardal fwyta agored gyda dwy soffa gyfforddus, tân ag effaith fflam a theledu sgrin fflat. Bydd dillad gwely a thyweli ar gael a bydd y tŷ yn cael ei lanhau'n wythnosol. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda.

Mae WiFi am ddim ar gael.