Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Picnic Week

 

Posted: 16/06/2022

Picnic Week

Mae’n Wythnos Genedlaethol y Picnic – amser i fachu’r blancedi a’r fasged bicnic a dod o hyd i le hardd i giniawa yn yr awyr agored.

Dyma rai o'r llefydd gorau yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru, i fwynhau bwyd gyda golygfa.

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Mae erwau i'w harchwilio a maes chwarae antur y bydd y plant yn mwynhau. Dewch â'ch beic a rhoi cynnig ar ein Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd. Os yw'n well gennych, dewiswch un o'r teithiau cerdded sy'n eich tywys o gwmpas y parc ac allan i'r mynyddoedd cyfagos. Rhagor o wybodaeth yma

 dvcpfamilyNOV

 Parc Gwledig Barry Sidings, Trehafod

Dyma le gwych i fwynhau picnic. Mae maes chwarae antur, llyn, caffi, a mannau barbeciw wedi'u gwasgaru ar draws y parc. Mae yna ddigonedd o le, felly bydd hi'n hawdd dod o hyd i le i fwynhau picnic. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod â'ch beiciau neu sgwteri am dro ar y trac pwmpio neu'r rampiau. Mae cyfle i chwarae pêl-droed, ffrisbi neu rownderi yma hefyd. Rhagor o wybodaeth yma

barrysidings

Parc Gwledig Cwm Clydach

Dewiswch o ddau lyn lle mae modd i chi fwyta yn yr awyr agored. Mae gan y llyn gwaelod gaffi ac mae meinciau o'i amgylch lle mae modd i chi ymlacio a bwyta. Byddwch yn wyliadwrus o'r hwyaid a'r gwyddau lleol a fydd yn manteisio ar bob cyfle i fwyta'ch bwyd!

Mae gan y llyn uchaf mwy anghysbell lwyfannau pysgota sydd yn fan picnic hyfryd os ydych chi'n eu gorchuddio â blanced. Mae modd i chi naill ai barcio wrth y llyn gwaelod a cherdded at y llyn uchaf, neu yrru ychydig ymhellach i Gwm Clydach at y llyn uchaf. Rhagor o wybodaeth yma

clydach

 Parc Aberdâr, Aberdâr

Rydyn ni'n dwlu ar barc hanesyddol Aberdâr. Mae'n agos iawn i ganol tref Aberdâr, felly mae modd i chi brynu eich picnic cyn archwilio'r parc. Mae yna lyn cychod gyda chychod pedlo a hwyaid a gwyddau i'w bwydo – prynwch fwyd i'w bwydo o'r caffi.

Edmygwch y ffynnon ddŵr hardd. Does ond un arall o'i math yn y byd ac mae’r llall y tu allan i westy enwog Raffles yn Singapore. Dewch i weld Cerrig yr Orsedd a gafodd eu codi pan gynhaliwyd yr Eisteddfod 'fodern' gyntaf erioed yn y parc ac efallai cael gêm o denis ar y cyrtiau neu rownderi ar y tir. Mae maes chwarae antur ac mae pad sblasio AquaDare ar agor yn dymhorol ac am ddim i'w ddefnyddio. Rhagor o wybodaeth yma

 aberdare

Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd 

Wrth y safle seindorf neu ar lan yr Afon Taf? Yn agos at faes chwarae antur enfawr Chwarae'r Lido neu yn yr ardd isel dawel?

Mae Parc Coffa Ynysangharad yn llawn dop o lefydd hyfryd i gael picnic a llawer o bethau i’w gwneud ar ôl i chi fwyta! Rhagor o wybodaeth yma

 ywmp

Ar ben y byd ar Fynydd y Rhigos

Gyda golygfeydd am filltiroedd dros Fannau Brycheiniog, mae Mynydd y Rhigos yn bendant yn lle gwych i fwyta (os does dim awydd picnic arnoch chi, ewch i siop bysgod a sglodion enwog Penaluna i gael pryd parod – rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n blasu'n well os ydych chi'n eu bwyta o'r papur yn yr awyr agored!).

Mwynhewch y golygfeydd a gwyliwch bobl ar wifren wib Zip World. Mae llawer rhagor o syniadau am leoedd i fynd am dro a chael picnic yma

rhigospenalunasNOV