Posted: 21/06/2022
Haf bythgofiadwy yn llawn antur
Dewch at eich gilydd a mwynhau haf bythgofiadwy yn llawn antur yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.
Rydyn ni'n prysur ddod yn un o gyrchfannau antur mwyaf blaenllaw y DU oherwydd ein tirwedd dramatig ac anturiaethau llawn adrenalin. Cerddwch, beiciwch neu wibiwch ar wifren dros y mynyddoedd a'r tir gwastad.
Mae gyda ni lefydd gwych i aros a llwyth o fwytai a chaffis - peidiwch ag oedi rhagor cyn dod yma!
Gwnewch gais am elyfryn
Zip World Tower, Y Rhigos

Mae'r wifren wib gyflymaf YN Y BYD i’w gweld yma yn Rhondda Cynon Taf! Mynnwch dro ar Phoenix yn Zip World Tower ar hen safle Glofa'r Tŵr. Rhowch gynnig ar y Tower Coaster, yr unig reid o'i fath yn Ewrop a'r Tower Climber newydd sbon. Bydd y Tower Climber, cwrs antur dyrchafedig pedwar llawr uchaf yn y byd, yn agor ym mis Gorffennaf.
Cadwch le ar-lein nawr
Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Dewch i chwilota mwy na 200 o aceri o dirwedd godidog!
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd. Defnyddiwch y lifft i gyrraedd copa'r llwybrau a mwynhau taith gyffrous i'r gwaelod. Mae modd llogi beic ar y safle.
Mentrwch i'r mynyddoedd ar hyd y llwybrau ledled y parc neu ewch i fwynhau pryd o fwyd yng Nghaffi Black Rock.
Mae gan Barc Gwledig Cwm Dâr safle fodern i garafanau, cerbydau gwersylla a chartrefi modur sydd â thrydan a chyfleusterau cawod newydd. Treuliwch noson yn edrych ar y lloer - mae'r parc yn safle Awyr Dywyll felly mae modd gweld y sêr i gyd.
Rhagor o wybodaeth

Penpych
Mae Penpych yn gartref i un o'r ddau fynydd "tabletop", hynny yw, sydd â chopa fflat, yn Ewrop! Mae Penpych wedi'i leoli ar gopa Cwm Rhondda. Cerddwch i'r copa trwy hen goedwigoedd, rhaeadrau a phyllau a mwynhewch yr olygfa odidog - yn enwedig pan fo'r haul yn gwawrio neu'n machlud.
Mae Penpych yn un o nifer o lwybrau unigryw yn yr ardal.
Bwriwch olwg ar y llwybr a chael rhagor o wybodaeth.

Beicio mynydd
Mae llwythi o lwybrau beicio ar ein mynyddoedd! Anturiwch ar hyd y llwybrau neu rhowch gynnig ar y Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd. Cadwch lygad am feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n fannau cychwyn ar gyfer llwybrau trwy'r coedwigoedd a'r mynyddoedd. Mae'r brif ffordd dros fynydd y Bwlch yn un o rannau mwyaf heriol Reid y Ddraig Cymru trwy Dde Cymru.

Cronfa Ddŵr y Maerdy
Mae nofwyr gwyllt, cerddwyr a ffotograffwyr yn hoff iawn o Gronfa Ddŵr y Maerdy. Mae modd mynd at y gronfa o'r dref neu trwy gerdded ar hyd llwybr Castell Nos o gopa mynydd y Rhigos. Bwriwch olwg ar y llwybr
Yn ogystal â bod yn rhan o hanes lleol, mae'n rhan o nifer o lwybrau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac mae'r gronfa a'r nentydd yn lleoliadau poblogaidd ymysg nofwyr gwyllt.

Mynydd y Bwlch
Ydych chi'n ceisio dod o hyd i'r ffordd berffaith o ddechrau neu orffen eich diwrnod? Rhowch gynnig ar Fynydd y Bwlch. Mae Mynydd y Bwlch yn lle gwych i gael antur. Dyma'r lleoliad delfrydol i gerddwyr a beicwyr ac yn aml mae gleidwyr i’w gweld yn hedfan o'r copa.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Canolfan Weithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf
Bydd y garfan wych yma sydd wedi'i lleoli mewn ffermdy yng nghanol bryniau Cwm Taf yn creu antur i chi. Mae rhywbeth i’w gynnig ar gyfer grwpiau o bob maint, gan gynnwys anturiaethau ar feiciau cwad, dringo, cerdded bryniau, cerdded ceunentydd, saethydiaeth a rhagor. Mae hefyd modd iddyn nhw drefnu rhywle i chi aros pe hoffech chi wneud hynny.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chadw lle.

Aros
Mae gyda ni lwyth o lefydd gwych i aros ac i ymlacio ar ôl diwrnod o anturio. Rydyn ni eisoes wedi sôn am barc carafanau yng Nghwm Dâr, ond beth am roi cynnig ar hen Gapel Sant Alban yn Nhreherbert?
Mae'r hen gapel yn agos at yr holl atyniadau ac yn lle i gadw beiciau ac yn gartref i ystafell emau. Mae'n agos at Dreorci sy'n llawn llefydd gwych i fwyta ac yfed ac yn gartref i ficrofragdy a pharlwr hufen iâ.
Ewch i Westy'r Dunraven sydd â nifer o ystafelloedd a digon o le i gadw eich holl offer - mae bwyd gwych yno hefyd!
Am brofiad moethus ewch i Lanelay Hotel and Spa. Yno mae ystafelloedd crand a sba godidog a llawer o gyfleoedd i dynnu lluniau da. Neu ewch i'r Miskin Manor Hotel sydd hefyd yn gartref i ystafell iechyd mewn hen dŷ crand.
Rhagor o wybodaeth am lefydd i aros

Bwyta
Ar ôl diwrnod yn llawn adrenalin ac antur ewch i un o'n bwytai gwych i lenwi'ch bol.
Mae sawl opsiwn i ddewis ohonyn nhw - mae modd gweld y rhestr lawn yma
Beth am roi cynnig ar y Gatto Lounge ym Mhontypridd neu ar y coctels a thapas yn La Luna yn Nhonysguboriau? Mae gan y Lion yn Nhreorci ardal awyr agored gwych ac mae'r Otley Brewpub and Kitchen yn Nhrefforest yn gwneud cinio dydd Sul anhygoel.
