Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Mae'n bryd i fynd ar antur haf deuluol yn Rhondda Cynon Taf

 

Posted: 21/06/2022

Mae'n bryd i fynd ar antur haf deuluol yn Rhondda Cynon Taf

Mae'n bryd i fynd ar antur haf deuluol yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.

Yn ein hardal ni, byddwch chi'n dod o hyd i ddiwrnodau mas a phrofiadau na fyddwch chi'n eu canfod unman arall yng Nghymru.

Wedi'i leoli'n syth oddi ar yr M4, rhwng Caerdydd a Bannau Brycheiniog, mae popeth gyda ni ar gyfer eich gwyliau llawn hwyl a sbri.

Dewch o hyd i rywle gwahanol yr haf yma. Dyma rai o'n dewisiadau gorau o bethau i'w gwneud yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.

Mae modd i chi gael gwybod mwy am lety a llefydd i fwyta.

Gwnewch gais am elyfryn

Parc Gwledig Cwm Dâr a Disgyrchiant, Parc Beiciau ar gyfer Teuluoedd

Lakes - Views - Camping - Walks - Birds - Flowers - DVCP-20

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Disgyrchiant, Parc Beiciau ar gyfer Teuluoedd cyntaf y DU. Defnyddiwch y gwasanaeth codi i'ch tywys i ben y mynydd i reidio lawr y llwybrau. Galwch heibio'r traciau pwmp. Mae hyd yn oed cwrs beic balans lliwgar i'r rhai bach. Cewch ddod â'ch beic eich hun neu logi un o'n beiciau ni.

DVCPbike

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn enfawr, gyda maes chwarae antur, teithiau cerdded, anturiaethau ar lan y llyn, a digonedd o le ar gyfer reidiau sgwter, picnics, pêl-droed a rhagor.

Mae Caffi Black Rock yn gwerthu popeth o de a chacen i ginio rhost.

Mae yna safle newydd i garafanau/cerbydau gwersylla/cartrefi modur gyda chyfleusterau modern a chysylltiadau trydanol. Mae Cwm Dâr yn safle Awyr Dywyll felly mae ganddo awyr glir fel crisial gyda'r nos i chi gael cysgu oddi tano.

Rhagor o wybodaeth am Barc Gwledig Cwm Dâr, 'Disgyrchiant, Parc Beiciau ar gyfer Teuluoedd' a'r safle carafanau.

dvcpfamily2

Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, Pontypridd

Lido Pontypridd - Swim-51 SKY(3)

 Gyda thri phwll awyr agored wedi'u gwresogi, cwrs rhwystrau teganau gwynt, a phwll sblasio â ffynnon i'r rhai bach, mae Lido Ponty yn siŵr o blesio'r teulu i gyd.

Dewch i orffwys ar lolfa haul neu fynd i nôl coffi o Gaffi Lido ac ymlacio ar y teras.

Ewch i gael gwybod rhagor am Lido Ponty, a chadw lle ar-lein.

Cymerwch amser ar ôl nofio i grwydro o gwmpas Parc Coffa Ynysangharad a thref hyfryd Pontypridd.

lidoview

Lido Play is free to enter and has loads to entertain the kids. Explore the park, find the statue celebrating Evan and James James, who composed the iconic Welsh National Anthem.

Pop into town, over the historic old bridge, for some shopping. Grab lunch in one of in the many cafes, or head into the Market Quarter, which sells everything from Welsh Cakes to vegan meals.

pontyfamily

Zip World Tower, Hirwaun

zip

 Gwibiwch o ben Mynydd y Rhigos ar 'Phoenix', y llinell sip gyda sedd gyflymaf yn y byd. Bydd plant iau yn dwlu ar y Tower Flyer. Reidiwch 'Tower Coaster', yr unig un o'i math yn Ewrop, a chadwch lygad mas am 'Tower Climber', cwrs rhwystr uchel sy'n agor yn fuan. Mae Zip World Tower wedi'i adeiladu ar safle hen Lofa'r Tŵr, ac mae modd i chi edmygu'r olygfa wrth i chi fwyta yn y bwyty ar y safle, Cegin Glo.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chadw lle.

zipfamily

Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod

Rhondda-Heritage-Park---Aerial-2

 Mae teuluoedd yn dwlu ar gwrdd â’n tywyswyr teithiau – buodd pob un ohonyn nhw'n gweithio fel glowyr pan oedden nhw'n fechgyn.

Wnaeth glo o’n cymoedd ni helpu i bweru’r byd a sbarduno’r Chwyldro Diwydiannol. Hanes epig rydyn ni'n falch o'i hadrodd yw hi.  Mwyngloddio sydd wedi llywio ein tirwedd a’n cymunedau, a thanio ein cariad at deulu, cerddoriaeth a chanu.

Cewch chi helmed glöwr i'w gwisgo cyn mentro ar daith o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser. Reidiwch DRAM! ac archwiliwch weithfeydd mwyngloddio gwreiddiol ac arteffactau eraill yn y cwrt.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chadw lle.

acwmefamily2

Profiad y Bathdy Brenhinol, Llantrisant

The-Royal-Mint-Experience-34

"Allwedd arian a egyr pob clo" – ac mae hanes i'w ddatgloi'n sicr wrth ymweld â Phrofiad y Bathdy Brenhinol. Ewch y tu ôl i lenni'r sefydliad 1,000 oed yma a symudodd i Gymru o Dŵr Llundain. Darganfyddwch sut mae darnau arian yn cael eu creu, bathwch eich darn arian eich hun ac edmygwch y delwau wedi'u creu o ddarnau arian 1c. Mae'r siop anrhegion yn le perffaith i gasglwyr darnau arian.

Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i'r wefan

mintfamily

 

Llantrisant Hanesyddol

Camwch yn ôl i ddyddiau pobl ecsentrig oes Fictoria, brenhinoedd wedi'u dal a rhyfelwyr di-ofn yn y dref hanesyddol ar ben bryn, Llantrisant.

Am le mor fach, mae llwyth o bethau i'w gwneud. Ymwelwch ag adfeilion y castell ac ewch i drio'r cyffion gwddf! Mae neuadd y dref yn dod â hanes yn fyw a bydd plant yn dwlu ar y profiadau rhyngweithiol. Cerddwch ar y comin, ewch i gwrdd â'r merlod ac ewch ar un o'r Teithiau Cerdded Cwningen i ben bryn dirgel Billy Wynt.

Rhagor o wybodaeth am Lantrisant.

llantfamily

 Parc Gwledig Barry Sidings

Barry-Sidings-Country-Park-5-1

Ewch ati i redeg, neidio ac ymestyn cymaint ag yr hoffech chi yn y gornel brydferth yma o Rondda Cynon Taf. Mae llyn, maes chwarae antur, trac pwmp i feiciau a chaffi anhygoel sy'n gwerthu byrgers, ysgytlaeth a mwy.

Ewch am dro hamddenol drwy'r parc neu i gerdded yn uchel yn y mynyddoedd cyfagos – eich dewis chi yw hi!

Rhagor o wybodaeth.

barrysidings

 Paradwys i rai sy'n hoff o natur 

Cwm Clydach - Waterfall - Lakes - Birds - Insects - Flowers-22

Lle i ddianc rhag y cyfan a mwynhau awyr iach, heddwch a thawelwch, yw Parc Gwledig Cwm Clydach. Yma fe welwch chi ddau lyn – un sy’n brysurach ac yn llawn hwyaid a gwyddau i’w bwydo a chaffi ar lan y llyn. Cerddwch ychydig ymhellach at y llyn uwch tawel lle bydd cyfle i weld y crëyr sy'n byw yno.

Rhagor o wybodaeth

Cwrso Rhaeadrau

Darganfyddwch raeadrau "cudd" a phyllau trochi sy'n glir fel crisial. Mae taith gerdded Pen-pych yn eich tywys chi drwy hen goedwig, heibio rhaeadr a phwll, i fyny at un o olygfeydd gorau'r ardal.

Map o'r llwybr

 

penpychfamilyNOV

Mae Coedwig Llanwynno yn daith gerdded addas i deuluoedd lle mae modd i chi ddod o hyd i gronfa ddŵr gudd a rhaeadr hardd Pistyll Goleu. Galwch heibio Eglwys Sant Gwynno i weld man gorffwys olaf Guto Nyth Brân, dyn cyflymaf y byd ar un adeg. Mae'r Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal bob blwyddyn er cof amdano. Map o'r llwybr

llanwonnonov

Llety

Mae amrywiaeth anhygoel o lefydd i'r teulu aros gyda ni. Mae pods glampio Fferm Bryn y Rhedyn yn gyfforddus ac yn glyd, tra bod gan fwthyn 266 Calon y Cymoedd ardal chwarae a thwb poeth yn yr ardd gefn.

Mae hefyd modd i chi logi fferm enfawr Hafod Ganol, neu le newydd, Trem y Goedwig yn Llantrisant.

familystay

 Bwyta

Mae digonedd ar y fwydlen yn Rhondda Cynon Taf. O enwau'r stryd fawr a bwyd tafarn cyfarwydd i rywbeth arbennig.

Mynnwch fwyd parod o Penaluna's Famous Fish & Chips yn Hirwaun, sydd wedi ennill gwobrau, ac ewch i fwyta 'al-fresco' ar ben Mynydd y Rhigos. Ceisiwch ddewis o blith dros 60 o flasau hufen iâ yn Sub Zero ym Mhenrhiw-fer neu mwynhewch tapas, pizza neu rywbeth arall yng Ngwesty Bistro’r Cardiff Arms yn ein tref arobryn, Treorci.

food family

Gwnewch gais am elyfryn