Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Gwyliau Haf

 

Posted: 25/07/2022

Gwyliau Haf

Mae'r gwyliau haf hir ar y gweill ac mae'n bryd i fynd am antur gyda'r teulu yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.

Wedi'i leoli'n syth oddi ar yr M4 a llai nag awr yn y car o Fryste, mae llwyth o bethau ymlaen i'w mwynhau dros yr haf sy'n rhad neu am ddim.

Dyma'n harlwy ni:

Parc Gwledig Cwm Dâr a Disgyrchiant, Parc Beiciau ar Gyfer Teuluoedd, Aberdâr

Mae'r lle yma'n anferth, gyda maes chwarae antur, teithiau cerdded ar hyd y llyn, man chwarae i blant bach, llwybrau beicio, trac pwmp a chwrs beiciau balans. Mae croeso i gŵn, ac mae teithiau cerdded a chyfleusterau addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu wthio pram. Paciwch bicnic neu ewch i nôl diodydd a byrbrydau o Black Rock Café neu gwt byrbrydau Disgyrchiant.

Mae'r llwybrau, y trac pwmp a'r cwrs beiciau balans yn Disgyrchiant, Parc Beiciau ar Gyfer Teuluoedd, yn rhad ac am ddim, yn ogystal â pharcio a mynediad. Os ydych chi eisiau defnyddio'r gwasanaeth codi i fynd â chi i fan dechrau'r llwybrau, neu logi beic, mae cost ychwanegol fach i'r rhain.

dvcpfamily22.      

Chwarae'r Lido a Pharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd 

Mae'r maes chwarae antur yma am ddim ac yn llawn sleidiau, siglenni a thwneli. Mae hefyd pwll tywod a weiren sip. Mae mannau eistedd o gwmpas y lle, fel bod modd i chi ymlacio â choffi o Caffi Lido tra bod y plant yn chwarae. Piciwch i'r dre am frechdan neu fyrbryd o Zucco i fwyta yn y parc, neu dewch â phicnic.

Arhoswch ym Mharc Coffa Ynysangharad am sbel i weld y safle seindorf, cerfluniau Evan a James James (cyfansoddwyr yr Anthem Genedlaethol), a dewch o hyd i'r ardd isel gyfrinachol. Mae cyrtiau tenis, digon o le i chwarae pêl-droed neu ffrisbi, ac mae modd i chi gerdded ar hyd Llwybr Taith Taf. 

YWMPFREE

Dyddiad i'w gofio 

Ffordd arall o fwynhau Parc Coffa Ynysangharad dros yr haf yw i ymweld â'r ŵyl wych Cegaid o Fwyd Cymru, sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 6 Awst a dydd Sul 7 Awst. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer yr achlysur deuddydd arbennig yma, fydd yn cynnwys sioeau byw ac adloniant (mewn blynyddoedd blaenorol rydyn ni wedi cael sioe hwyaid, lamas, adar ysglyfaethus a mwy), sŵ bach, gweithgareddau am ddim, arddangosiadau coginio a llwyth o fwyd a danteithion blasus. Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn un o sawl achlysur y mae Rhondda Cynon Taf yn cynnal am ddim - dewch o hyd i ragor o wybodaeth a rhestr lawn yma.

bwbfree

Parc Aberdâr, Aberdâr

Mae gan Barc Aberdâr faes chwarae antur a phad sblasio 'Aquadare' am ddim, sy'n siŵr o blesio'r plant. Mae modd i chi hefyd fwydo'r hwyaid a'r gwyddau ar y llyn gyda bwyd arbennig ar eu cyfer nhw sydd ar gael o'r caffi (am gost bach), neu cewch chi logi un o'r cychod padlo alarch neu ddraig.

Mae digonedd o le i gael picnic – mae modd i chi geisio mynd o flaen y safle seindorf, y ffynnon hardd neu hyd yn oed Cerrig yr Orsedd. Fel arall, mae caffis a siopau bwyd parod canol tref Aberdâr yn agos. Rhagor o wybodaeth yma

aberdareparkFREE

Parc Gwledig Barry Sidings, Trehafod, ger Pontypridd 

Byddwch yn barod i gael hwyl a sbri yn Barry Sidings! Mae llawer o lwybrau, trac pwmp i feiciau a thrac BMX, sydd i gyd ar gael i'w defnyddio'n rhad ac am ddim.

Manteisiwch ar y maes chwarae antur enfawr neu ewch i weld y crëyr ar y llyn. Mae modd i chi hefyd fynd am antur lan i'r mynyddoedd neu'r coed o gwmpas y parc.

Mae mannau picnic a hyd yn oed llecynnau barbeciw ar gael, neu mae modd i chi nôl byrger, ysgytlaeth neu sglods brwnt o'r caffi gwych ar y safle. Rhagor o wybodaeth yma

barrysidings

Parc Gwledig Cwm Clydach, Cwm Clydach (ger Tonypandy)

Nid dim ond un llyn sydd, ond dau, a phwll cyfrinachol yn y man agored enfawr yma. Mae'r caffi hyfryd ger y llyn isaf, ac mae hwyaid o gwyddau i'w bwydo.  Mae meinciau o gwmpas y lle os oes eisiau seibiant i fwyta'ch brechdanau!

Ewch tua'r gogledd ac fe gyrhaeddwch chi'r llyn uwch anghysbell, lle bydd modd gweld glas y dorlan a’r crëyr, os y'ch chi'n lwcus... Lle perffaith i drochi yn y llyn a dod o hyd i benbyliaid, ac mae’r pontynau pysgota yn lefydd gwych am ginio. Mae rhaeadr a phwll trochi yn ogystal.

Ewch ychydig ymellach at y pwll uchaf, ac fe welwch chi raeadr os yw'r glaw wedi bod yn drwm. Mae parcio am ddim ar gael. Rhagor o wybodaeth a chyfle i lawrlwytho'r llwybrau cerdded

Cwm Clydach - Waterfall - Lakes - Birds - Insects - Flowers-22     

Y Maerdy Canoloesol

 

Crwydrwch trwy amgylchoedd hardd i weld a oes modd i chi ddod o hyd i olion Castell Nos o'r 13eg ganrif. Yna ewch ymlaen at y gronfa ddŵr. Mae parcio'n rhad ac am ddim, felly beth am aros yn Y Maerdy am ginio, neu dewch a'ch byrbrydau eich hunain. Rhagor o wybodaeth a map

maerdyyouwontbelievenov    Picnic gyda golygfa

 

Paciwch yr hamper a'r fasged ac ewch am bicnic gyda golygfa. Mentrwch i gopa'r Rhigos neu fynydd Bwlch. Mae gan y ddau ohonyn nhw lawer o feinciau am gyfle i eistedd, a llwybrau cerdded. Am rywbeth arbennig, ewch i nôl pysgod a sglodion o siop Penaluna's Famous Fish & Chips – rhaid eich bod chi'n gwybod eu bod nhw'n blasu'n well yn syth o'r pecyn yn yr awyr agored!

 

rhigospenalunasNOV 

Ewch yn ôl i'r gorffennol yn Llantrisant 

Wrth gyrraedd Llantrisant, fe welwch chi gerflun o Dr William Price, dyn ecsentrig o'r Oes Fictoria a ysbrydolodd bortread Robert Downey Jr o Dr Dolittle. Mae gan Lantrisant hanes difyr o frenhinoedd wedi’u dal, rhyfelwyr di-ofn, ac amddiffynfeydd ar ben y bryniau.

Lawrlwythwch lwybr llafar Llantrisant fydd yn eich tywys chi drwy'r strydoedd coblog ac i fyny at yr eglwys. Ewch i weld adfeilion y castell, y stociau a Neuadd y Dref. Bydd plant wrth eu bodd gyda'r arddangosfeydd rhyngweithiol.

Crwydrwch ar Gomin Llantrisant i gwrdd â'r ceffylau, neu ewch i gerdded lan y llethrau at 'Billy Wynt' gyda'r Teithiau Cerdded Cwningen. Os oes eisiau byrbrydau, mae digonedd o lefydd yn y dref i'w mwynhau. Rhagor o wybodaeth yma

llantfamily