Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Hud y Nadolig yn Rhondda Cynon Taf

 

Posted: 06/12/2021

Hud y Nadolig yn Rhondda Cynon Taf

Dyma adeg fwyaf hudol y flwyddyn ac mae siopau a strydau mawr Rhondda Cynon Taf yn paratoi i groesawu siopwyr dros gyfnod y Nadolig!

Yn ogystal â pharcio am ddim yng nghanol trefi, mae'n hawdd cyrraedd ein trefi trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Y brif reilffordd o Gaerdydd i Dreherbert yn galw ym Mhontypridd, Porth, Tonypandy a Threorci.

Mae modd gwneud taith fer ar fws i Donysguboriau a Llantrisant o ganol dinas Caerdydd.

Yn ogystal â bod yn gartref i Stryd Fawr Annibynnol Orau'r DU (2019), Treorci, mae gyda ni siopau annibynnol unigryw, enwau mawr ac anrhegion Cymreig gwych wedi'u gwneud yn lleol.

Mae gan bob un o'n trefi ystod wych o lefydd i fwyta, o gaffis sy'n gweini brecwast drwy'r dydd a chiniawau blasus i fwyd a choctels o'r safon gorau, bwytai sydd wedi ennill gwobrau a llawer yn rhagor.

Rydyn ni wedi dewis rhai o siopau gorau Rhondda Cynon Taf i chi bori trwy eu nwyddau adeg y Nadolig eleni.

 

Sugar and Spice – Marchnad Pontypridd.

Mae gan y trysor cudd yma ystod wych o deganau traddodiadol a modern, gan gynnwys ceginau pren, offer chwarae a theganau i gadw'r dwylo'n brysur. Mae hefyd yn gwerthu anrhegion llenwi hosan ar gyfer pobl o bob oed.

sugarandspiceDEC

Sparkilicious – Treorci   

Cipiodd Treorci wobr Stryd Fawr Annibynnol Orau'r DU yn 2019 ac mae Sparkilicious yn esiampl wych o’r rheswm dros hynny!

Mae gan y siop annibynnol yma â dyluniad hardd gymaint i'w gynnig, o ganhwyllau a pot-pourri i galendrau, cardiau ac addurniadau Cymraeg.

sparkiliciousDEC

KooKoo Madame – Pont-y-clun (a Phontypridd)

Mae'r siop yma'n boblogaidd iawn, ac mae ail siop wedi agor yn ddiweddar.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn y siop – o ddillad, esgidiau, sgarffiau a chyfwisgoedd i anrhegion ac addurniadau'r Nadolig, eitemau ar gyfer y cartref a chardiau Nadolig 3D.

kookoomadamneDEC

Kirsty’s Kandy – Porth

Mae Kirsty's Kandy yn boblogaidd iawn ymhlith trigolion ac ymwelwyr â Chwm Rhondda. Mae'r siop yn dosbarthu bocsys rhannu losin, hufen iâ a danteithion melys ledled yr ardal gyda'r hwyr ac ar y penwythnos.

Manteisiwch ar gyfle i fynd i'r siop yn ardal Porth sy'n llawn losin a siocledi.

Gwnewch eich calendr adfent eich hun a'i lenwi gyda'ch hoff losin neu brynu anrheg felys arbennig sy'n edrych fel tusw o flodau. Fel arall, mae croeso i chi brynu eitemau traddodiadol megis  cansenni siwgr, losin a siocled mint.

kirstyscandyDEC

The Butcher’s Arms and Gallery, Llantrisant

Cacennau cartref blasus, te prynhawn a diodydd poeth, ynghyd â phrofiad siopa unigryw. Mae hyn yn swnio'n dda i ni!

Mae gan The Butchers Arms and Gallery yn Llantrisant dîm o staff cyfeillgar sy'n aros i roi croeso cynnes i chi. Maen nhw'n gwerthu eitemau hardd ar gyfer y cartref ac anrhegion bach. Dyma leoliad perffaith i chwilio am anrheg i rywun arbennig.

butchersDEC

Aberdare Emporium, Aberdâr

Os ydych chi'n hoffi eitemau unigryw ar gyfer y cartref neu'n chwilio am anrheg Nadolig arbennig, beth am fynd i Aberdare Emporium?

Mae'r siop yn llawn lampau, llusernau, addurniadau, canhwyllau, gwêr toddi ag arogl hyfryd a llawer yn rhagor. Mae drychau hardd, eitemau unigryw ar gyfer y cartref a chornel i blant sydd â phennau ysgrifennu, bocsys bwyd, ymhlith llawer o bethau eraill.

Un peth arall – mae gan berchnogion y siop lety gwely a brecwast felly mae modd i chi aros dros nos! 

aberdareemporiumDEC

Cortile Coffee  - Pontypridd

Anrhegion hyfryd – o fygiau a cafetières i duniau anrhegion. Mae'r ystod enfawr o de a choffi o bob cwr o'r byd yn gwneud Cortile Coffee yn ddewis perffaith.

Mae siop ar y brif stryd a stondin goffi yn y farchnad ac mae staff y ddwy yn hapus i chi bori trwy'r nwyddau a blasu rhai eitemau cyn eu prynu.

Mae'r siop wedi bod mor lwyddiannus y mae trydedd siop newydd agor yn y Bont-faen.

cortilecoffeeDEC

Cariad Keepsakes and Gifts, Tonypandy

Mae casys gobennydd ag enwau, fframiau ar gyfer ffotograffau i ddangos atgofion melys ac arogl hyfryd canhwyllau, gwêr toddi ac arogldarthau yn Cariad Keepsakes and Gifts.

Y peth gorau am y siop yma sydd â dwy ffenestr fawr yw ei nwyddau sy'n newid drwy'r amser ac eitemau sy'n boblogaidd ar hyn o bryd. Does dim syndod felly ei bod hi'n siop boblogaidd!

cariadkeepsakesDEC

Storyville Books, Pontypridd 

Dathlodd Rhondda Cynon Taf agor ei siop lyfrau annibynnol gyntaf yn ddiweddar – a bydd pawb eisiau cymryd dalen o lyfr Storyville Books.

O ymddangosiadau awduron, cefnogaeth ar gyfer talent leol ac ystod wych o lyfrau sy'n gwerthu orau a llyfrau Cymraeg i bobl o bob oedran, mae'r siop yn llwyddiant.

storyvillebooksDEC

 The Candy Store, Aberpennar

Mae'r Nadolig yn esgus perffaith i fwyta losin! The Candy Store yw'r lle delfrydol i chi. O daffi a blasau traddodiadol ar gyfer y genhedlaeth hŷn i losin Americanaidd sy'n popian yng nghegau'r rhai sy'n hoffi melysion unigryw – mae rhywbeth at ddant pawb.

Rhowch anrhegion melys i'ch anwyliaid, prynu siocledi i'w rhoi ar eich bwrdd coffi wrth wylio ffilm Nadoligaidd a llenwi hosanau gyda danteithion y bydd pawb yn eu mwynhau.

candystoreDEC

Flowers by Kirsty, Treorci            

Weithiau mae tusw o flodau yn anrheg berffaith ac mae Flowers by Kirsty yn gwerthu blodau lliwgar yn ystod cyfnod y Nadolig.

Dyma siop ar Stryd Fawr Treorci a enillodd wobr Stryd Fawr Annibynnol Orau'r DU yn 2019. Mae'r siop yn cynnig torchau ac addurniadau'r Nadolig, yn ogystal â thuswau hyfryd a gweithdai. Ydych chi eisiau creu eich coeden eich hun? 

flowersbykirstyDEC