Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Collier Boy at the Welsh Mining Experience

 

Posted: 30/01/2020

Collier Boy at the Welsh Mining Experience

 

Mae gan Daith yr Aur Du sy'n rhan o Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda atyniad diddorol newydd.

Dyma gyfle i gwrdd â Joe, sy'n 12 oed, wrth iddo gwblhau ei ddiwrnod cyntaf fel glöwr.

Byddwch chi'n sicr o gydymdeimlo wrth glywed stori Joe, boed hynny wrth ymweld â Thaith Pyllau Glo Cymru fel unigolyn, yn rhan o grŵp neu gyda'ch dosbarth ysgol.

A hynny'n fwy fyth wrth gael gwybod nad cymeriad ffuglennol yw Joseph Keating, ond bachgen a gafodd ei eni yn Aberpennar. Aeth ymlaen i ysgrifennu nofel am ei fywyd dan ddaear yn mwyngloddio.

Pan oedd wedi cyrraedd yr oed lle bydd plant heddiw yn ymgartrefu yn yr ysgol uwchradd ac arholiadau TGAU yn bell yn y dyfodol, ymunodd Joe â'r dynion o dan ddaear i chwilio am Aur Du.

Dyma ragor o wybodaeth am fywydau'r plant – y merched a'r bechgyn – sy'n gweithio ym Mhrydain ddiwydiannol.

John Davies
John Davies of Ferndale was a child miner like Joseph Keating

Yn ôl y sôn, roedd bechgyn a merched pedair oed ar un adeg yn gweithio gyda dynion a menywod yn yr amodau tywyll a pheryglus. Roedden nhw'n gweithio ar y drysau a oedd yn gwyntyllu'r siafftiau pwll, yn tynnu'r cartiau i wyneb y ffas glo ac yn ôl, ac yn helpu'r oedolion i dorri'r glo. Darllenwch ragor yma.

660c2b3b9beb178b5910420aab7acdeb

Roedd gyda nhw rai straeon gwefreiddiol ac ofnadwy am eu cyfnod yn y pyllau glo.

Untitled

Newidiodd hynny i gyd yn 1843 pan gafodd Deddf Seneddol ei rhoi ar waith. O ganlyniad i hynny, roedd hi yn erbyn y gyfraith i ferched a bechgyn dan 10 oed weithio yn y pyllau glo.

Childminer2

 

 

Roedd yr archwiliadau a gafodd eu cynnal ar blant a oedd yn gweithio yn niwydiant glo'r DU mor ddirdynnol, gofynnwyd i Charles Dickens fynd i bwll glo i weld yr amodau.

great report M00003 68

 

Dechreuodd yr hyn a welodd yn ystod ei gyfnod yn y pyllau glo yn draethawd ac adroddiad ysgrifenedig ond arweiniodd at nofel glasurol A Christmas Carol.

dickens charles first B20150-35

 

Cafodd Joseph Keating ei eni yn Aberpennar yn 1871 i fewnfudwyr Catholig o Iwerddon.

Roedd y tŷ lle roedd yn byw yn Nixons Row, nid dyna oedd enw swyddogol y ffordd, ond yr enw a gafodd ei ddefnyddio gan drigolion mewn parch at y dyn a adeiladodd y rhes o dai. Symudodd i Stryd Caerdydd yn un o'r tai mawr a gafodd eu galw'n The Barracks.

nixons row

 

Cafodd ei amser fel plentyn yn y pwll glo ei ddisgrifio yn ei nofel My Struggle for Life yn 1916, lle disgrifiodd ei fywyd gwaith amrywiol fel glöwr ifanc, garddwr, clerc a thrafaeliwr.

Penderfynodd ar newyddiaduriaeth ac ysgrifennu, a'i lwyddiant mwyaf oedd yr addasiad llwyfan o'i nofel A Perfect Wife (1913) a gafodd ei haddasu'n ddrama ar y West End Peggy And Her Husband (1914).

Cafodd sylw Keating ei dynnu at wleidyddiaeth o ganlyniad i drais y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymdrechodd i ddod yn AS yn Aberdâr ond chyflawnodd e mo hyn. Daeth yn Gynghorydd lleol. Bu farw yn 1934.

Mae llyfr My Struggle for Life wedi cael ei gymharu â'i nofel gyfoes – A Portrait of the Artist as a Young Man gan James Joyce – a gafodd ei chyhoeddi yn yr un flwyddyn gan fod y ddau yn dilyn yr un patrwm llenyddol, sef cofiant.

Trefnwch eich Taith yr Aur Du ar-lein nawr a dewch i gwrdd â'r Glöwr Ifanc.

 

 

 

 

Rhondda Heritage Park - Engine - Shop - Cafe  -30