Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Pysgod a sglodion

 

Mae digonedd o siopau'n gweini hoff bryd parod y wlad yma yn Rhondda Cynon Taf! Hoffech chi halen a finegr?

Dydy Rhondda Cynon Taf ddim ar lan y môr, ond mae dewis da o siopau pysgod a sglodion ar gael – ac mae llawer ohonyn nhw wedi cyrraedd y brig yng ngwobrau siopau pysgod a sglodion y Deyrnas Unedig.

Maen nhw i gyd yn ceisio defnyddio cynnyrch o ffynonellau lleol a physgod o ffynonellau cynaliadwy, lle bo'n bosibl.

Gallwch chi fwyta eich gwledd ar safle rhai o'r siopau, mynd â hi adref, neu ei mwynhau hi yn un o'n parciau gwledig neu leoliadau awyr agored prydferth.

A Fish Called Rhondda

Mae 'A Fish Called Rhondda' yn boblogaidd iawn yn ardal Rhondda Cynon Taf, gyda thair siop o'r un enw. Mae'n cyfuno pysgod a sglodion ardderchog gyda gwasanaeth cyfeillgar.

Conti's Fish and Chip Bar

Mae'r siop pysgod a sglodion yma yn gweini pysgod a sglodion traddodiadol mewn amgylchedd Eidalaidd.

Dunnings Plaice

Mae'r gymuned gyfan yn mynd i'r siop pysgod a sglodion yma, sy'n gweini bwyd blasus drwy gydol yr wythnos.

Park View Cafe

Siop pysgod a sglodion yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd.

Penaluna's World famous fish & chips Hirwaun

Enillydd y Gwobrau Cenedlaethol Pysgod a Sglodion 2015 yng Nghymru – felly mae'n denu cwsmeriaid o bob cwr o'r rhanbarth!

Pino's Cafe

Mae'r caffi yma, sy'n cael ei redeg gan Eidalwyr, yn gweini pysgod a sglodion traddodiadol mewn amgylchedd cyfeillgar.

The Crispy Cod

Mae'r busnes teuluol yma, sydd wedi ennill gwobrau, wedi mynd o nerth i nerth ac ennill Siop Pysgod a Sglodion Gorau Cymru ddwy flynedd yn olynol.