Mae'r safle rhwng Cwm Rhondda a Chwm Cynon, mewn basn naturiol. Mae'r safle'n cynnig panorama llydan gyda golygfeydd wedi'u cuddio islaw 15 gradd.
Cyfarwyddiadau: Dilynwch arwyddion B4273 i Ynys-y-bŵl (mae Ynys-y-bŵl tua thair milltir i'r gogledd o Bontypridd). Teithiwch drwy Ynys-y-bŵl i gefn gwlad. Ar ôl milltir, trowch i'r chwith wrth yr arwydd i Glynrhedynog (‘Ferndale’).
Nodiadau diogelwch: Dyma safle tywyll dros ben mewn amgylchedd coediog. Mae'r tir yn anwastad, felly, cymerwch ofal wrth gerdded i'r safle.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn: Mae modd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gyrraedd y safle, ond mae'n daith 400 metr o hyd dros dir anwastad.
Edrychwch ar ein siart seren ar gyfer Canolfan Awyr Agored Daerwynno