Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Atyniadau

 
O ganlyniad i bandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, efallai bod rhai cyfleusterau ar gau, neu efallai eu bod nhw ddim y gweithredu yn ôl yr arfer oherwydd rhesymau diogelwch. Cofiwch wirio ymlaen llaw.
Zip-World-Zipline
Rydym wedi dod ynghyd rai o'n hoff weithgareddau ac atyniadau i'ch helpu i gynllunio ymweliad.
mountain bike

Mae cannoedd o erwau o dir agored a mynyddoedd garw yn aros i gael eu darganfod ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Mae'n lle gwych i feicwyr, cerddwyr ac anturiaethwyr ac mae parc carafanau ar y safle ynghyd â llety hunanarlwyo, caffi, maes chwarae antur a rhagor.

zipworld

 Zip World Tower yw'r wifren wib ar eich eistedd cyflymaf yn y byd. Gwibiwch gannoedd o fetrau o grib Mynydd y Rhigos. Bydd y Tower Coaster, yr unig un o'i fath yn Ewrop, yn agor yn fuan. Agor Gorffennaf 2021.

RHP-underground-miner
Y ffordd orau o fwynhau cipolwg ar gymunedau glofaol Cymoedd Rhondda a'n diwydiant glo byd-enwog yw trwy wrando ar löwr go iawn.
Welsh Mining Experience
RoyalMintCar
Profiad y Bathdy Brenhinol yn Ne Cymru yw’r unig le yn y byd y gallwch weld darnau arian y Deyrnas Unedig yn cael eu gwneud.
RHP-Black-Gold-Exhibition

Mae ein hanes diwydiannol a diwylliannol cyfoethog yn dod yn fyw yn ein hamgueddfeydd..

Lido-Pool-in-the-sun

Mae yna hwyl i bawb yn Lido Ponty. Mae ganddo dri phwll awyr agored wedi'u gwresogi, gan gynnwys pwll gweithgareddau gyda chwrs rhwystrau a theganau gwynt a phwll sblasio i blant bach.

Lido Ponty
ParkPontypriddPlaygroundChildrenJuly20152119

 O lwybrau cerdded hamddenol i deithiau heriol. Meysydd chwarae antur anhygoel i draciau beiciau a sgwteri a rhagor.

.
Guidedtours
Gadewch i'r arbenigwyr arwain y ffordd a'ch cyflwyno chi i gyfrinachau Rhondda Cynon Taf ar hyd taith o amgylch ein bwrdeistref sirol.
Love-Spoon

Darganfyddwch gelf a chrefft yn RhCT – dewch o hyd i bob math o bethau, o lwyau caru traddodiadol i'r Grogiaid eiconig. (Dydych chi ddim yn enwog nes eich bod wedi'ch anfarwoli ar ffurf Grogg!).


Penderyn-promo

Mwynhewch brofiad sy wedi ennill gwobrau yn Nistyllfa Penderyn, gyda thaith y tu ôl i'r llenni, sesiynau blasu a siop anrhegion. 

Tom-Jones-Grogg
Mae World of Groggs yn siop grefftau unigryw, deuluol sy'n cwmpasu figurines â cherflunwaith a pheintio â llaw, yn seiliedig ar bersonoliaethau o fyd chwaraeon, roc a phop, sinema a diwylliant poblogaidd.