Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Canolfan Marchogaeth Tal-y-garn

 

Tal-y-garn, Pont-y-clun CF72 9JT

Telephone-Icon 01443 225107

Mae Canolfan Marchogaeth Tal-y-garn ychydig y tu allan i Gaerdydd, yn agos i Bont-y-clun. Mae Tal-y-garn ar Google Earth. Mae'r ganolfan dan berchnogaeth a rheolaeth Chris a Steve Rogers. Ym 1989 doedd dim byd yma ond 27 erw o dir pori; erbyn hyn dyma un o'r canolfannau marchogaeth a chystadlu mwyaf llwyddiannus yn Ne Cymru. Mae'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau marchogaeth ar gyfer bob oedran a gallu, gan gynnwys gwersi marchogaeth, dressage a neidio, cystadlaethau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Prydain Fawr, hyfforddiant Cymdeithas Ceffylau Prydain i fyfyrwyr, hyfforddiant llofneidio ar gefn ceffylau. Mae'r gwersi marchogaeth yn addas ar gyfer pob gallu, rhwng dechreuwyr llwyr a marchogion medrus (4 oed neu'n hŷn).