Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Canolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf

 

Fferm Cwrt y Celyn, Glan-bad, Pontypridd CF37 5BJ

Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau awyr agored a ffyrdd newydd a chyffrous o weld cefn gwlad Cymru – ar gyfer pob oed a gallu. Dewch o hyd i ni ym mhrydferthwch Cwm Taf, ddim yn bell o Gaerdydd.

Dewch i gael profiad gwefreiddiol a heriol wrth feicio cwad – ceisiwch yrru cerbyd Honda 250cc neu 90cc sy'n addas ar gyfer pob math o dir – a thaith ar hyd ein llwybr natur wrth i chi fwynhau rhai o'r golygfeydd gorau! Dyma hefyd leoliad delfrydol ar gyfer ein cwrs ymosod, saethyddiaeth, saethu â laser a saethu colomennod clai. Rydyn ni hefyd yn trefnu teithiau cerdded ceunentydd yn ardal y rhaeadrau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.