Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Treuliwch ddiwrnod yn Rhondda Cynon Taf

 

Cloddio glo a bathu darnau arian - cipolwg ar fywyd y Cymoedd gydag atyniadau sy wedi ennill gwobrau.

Bore

Dechreuwch eich diwrnod yn Nhaith Pyllau Glo Cymru arobryn ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Mae Taith Pyllau Glo Cymru wedi'i lleoli ar safle hen Lofa Lewis Merthyr, ac mae'n dyst byw i'n cymunedau cloddio glo a threftadaeth, diwylliant a chymeriad cryf yr ardal.

Mae ein Taith yr Aur Du yn cael ei arwain gan ddynion a fu gynt yn gweithio fel glowyr, a byddan nhw'n rhannu eu straeon personol a'u hatgofion gyda chi wrth iddyn nhw fynd â chi o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser.

Yn ogystal â'r teithiau, mae arddangosfeydd rhyngweithiol yn ogystal ag eitemau hynod ddiddorol ar hyd y safle. Cofiwch ymweld â'r siop anrhegion.

Bydd angen tua 2 awr i fwynhau'r daith a'r arddangosfeydd ar y safle. Peidiwch â phoeni am y tywydd gan fod Taith Pyllau Glo Cymru dan do yn bennaf.

Cinio

Mae Caffi Bracchi yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn cynnig ystod eang o fwyd poeth ac oer, gan gynnwys te prynhawn traddodiadol. Cewch hefyd brynu siocledi blasus wedi'u gwneud â llaw yn y siop.

Prynhawn

Tua hanner awr o siwrne mewn car o Daith Pyllau Glo Cymru mae Profiad y Bathdy Brenhinol.

Ewch y tu ôl i'r llenni yn y sefydliad 1,000 oed yma, lle mae arian y byd a medalau Olympaidd yn cael eu bathu. Dysgwch sut mae'r arian yn cael ei ddylunio a'i gynhyrchu a darganfyddwch y trysorau sy'n cael eu cadw yma. Bathwch eich darn arian eich hun a darganfod sut deimlad yw eistedd mewn ystafell gydag £1 miliwn ynddo!

Mae llawer o arddangosfeydd rhyngweithiol i chi'u profi ac mae'n werth ymweld â'r siop anrhegion os hoffech chi ychwanegu at eich casgliadau darnau arian.

Mae'r ganolfan i ymwelwyr yn atyniad drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob tywydd. Mae'r ganolfan yn creu safle treftadaeth gyfoethog wrth ochr ffatri weithredol, ac yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr. Bydd angen tua 90 munud i fwynhau'r daith a'r arddangosfeydd.

Antur a chyffro. Profiad anhygoel ar odre'r Bannau Brycheiniog.

Bore

Rhowch ddechrau unigryw i’ch diwrnod yn Zip World Tower.

Dyma'r unig Brofiad Zip World yn y De. Cewch hedfan drwy'r awyr o gopa Mynydd y Rhigos ar Phoenix, y weiren sip gyflymaf o'i math yn y byd, ac ewch ar daith ffigar-êt Tower Coaster sy'n gwibio ar gyflymder o hyd at 25mya!

Bydd angen tua dwy awr arnoch chi i fwynhau'r profiad.

Cinio

Mae safle Cegin Glo yn Zip World Tower yn cynnig bwyd anhygoel - ac mae'r golygfeydd yn well fyth! Mwynhewch ginio a diod a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n bwrw golwg ar yr eitemau mwyngloddio yn y caffi. Maen nhw'n dathlu hanes diwydiannol pwysig safle Zip World Tower, sef hen safle Glofa'r Tŵr. Dyma oedd y pwll glo a fu’n gweithio am y cyfnod di-dor hwyaf yn y DU, ac o bosibl yn y byd.

I bwdin, beth am fwynhau hufen iâ gyda golygfeydd godidog? Mae fan boblogaidd yng ngolygfan Rhigos sydd wedi bod yno ers degawdau. Dyma le gwych i fwynhau hufen iâ blasus a golygfa anhygoel.

Prynhawn:

Distyllfa Wisgi Penderyn

Mae Distyllfa Wisgi Penderyn llai na hanner awr o siwrne mewn car o Zip World Tower.

'O Gymru i bedwar ban byd...'

Mae Distyllfa Penderyn yn cynhyrchu wisgi a gwirod brag sengl sydd wedi ennill gwobrau ar odre'r Bannau Brycheiniog godidog yn Ne Cymru.

Yn ystod y daith awr o hyd, byddwch chi'n dysgu am sut gafodd Penderyn ei sefydlu, gan weld sut mae'r wisgi arobryn yn cael ei wneud a beth sy'n ei wneud yn unigryw. Cewch weld y felin, tun stwnsh, y distyll-lestri copr Penderyn arloesol a'r pâr o ddistyll-lestri pot.

Ar ddiwedd y daith, cewch flasu rhai o'u cynnyrch yn y Bar Blasu. Cofiwch ymweld â'r siop i brynu potel neu ddwy i'w mwynhau gartref.

Bydd angen tua awr i fwynhau'r daith a'r sesiwn blasu. 

Mwynhau antur natur

Bore

Mae canrifoedd o ddiwydiant ac Oes yr Iâ cyn hynny wedi llunio tirwedd ddramatig, hardd Parc Gwledig Cwm Dâr.

Dyma gartref Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, gyda'i lwybrau gwefreiddiol i lawr y bryn a thraciau pwmp i brofi'ch sgiliau. Cewch ddod â'ch beic eich hun neu logi un o'n beiciau ni ar y safle. Hefyd, mae lifft i'ch cludo chi a'ch beic i frig y llwybrau.

Bachwch goffi a chacen o Gwt Byrbryd y Parc Beicio cyn mynd i archwilio'r parc ymhellach. Mae canllawiau cerdded am ddim ar gael o'r dderbynfa i chi gael dewis pa lwybrau i'w taclo. Bydd angen oddeutu i fwynhau Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd.

Cinio

Mae Caffi'r Black Rock yn cynnig ystod enfawr o fwyd poeth ac oer ac yn ymfalchïo mewn defnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny'n bosibl. Cewch amrywiaeth o ddewis, o fyrgyrs neu saladau i fwydydd tapas a phitsa. Mae rhywbeth at ddant pawb.

Prynhawn

Ewch i lawr i ochr arall mynydd Aberdâr ac yna i fyny i ben y Rhondda Fawr i edmygu Mynydd Pen-pych. Dyma un o ddim ond dau fynydd pen bwrdd yn Ewrop. Cewch gerdded trwy goedwigaeth a rhaeadrau i'r brig, lle mae un o'r golygfeydd gorau yn y De yn agor o'ch blaen.

Ymdrochi mewn hanes.

Bore

Amgueddfa Crochendy Nantgarw yw'r unig grochendy porslen o'r 19eg ganrif sy'n dal i fodoli yn y DU. Dros 200 mlynedd yn ôl, roedd y crochendy'n cynhyrchu rhai o eitemau porslen gorau'r byd.

Cewch weld peth o'i waith yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.

Dyma'ch cyfle i fynd y tu ôl i'r llenni wrth i Nantgarw barhau i ddathlu a gwarchod ei waith hanesyddol. Caiff gweithdai crefft eu cynnal yn aml, er enghraifft gwehyddu basgedi neu baentio gwydr.

Bydd angen tua awr arnoch chi i fwynhau'r safle.

Cinio Teithiwch tua hanner awr i'r gorllewin i Lantrisant, tref hynafol ar fryn sy'n edrych dros Gwm Taf. Mae'r Butcher's Arms yn gwerthu amrywiaeth blasus o frechdanau a chacennau. Mae hefyd yn gwerthu nwyddau cartref ac addurniadau.

Prynhawn Treuliwch brynhawn yn hen dref Llantrisant. Crwydrwch y strydoedd hynafol, coblog, sy'n llawn hanes. Cewch gasglu llyfryn llwybrau treftadaeth - neu ei lawrlwytho fel ffeil sain - a dilyn yr hanes, gan fynd heibio i gartrefi a oedd gynt yn dlotai ac ar draws hen gylch y teirw’r dref. Dewch i weld olion Castell Llantrisant ac ymweld â Neuadd y Dref, lle mae hanes hynod y dref fechan (ond mawr ei chalon) yma'n dod yn fyw.

Mae modd i chi hefyd grwydro'r comin a'r mannau harddwch o'i gwmpas gyda'r llwybrau a'r teithiau cerdded cwningen, sydd wedi'u mapio gyda Chymdeithas y Cerddwyr.