Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Teithiau Dros Nos

 

Aros a brecwast - Gwesty a Sba Miskin Manor

Mae Gwesty Miskin Manor, ger Caerdydd, wedi sefyll mewn cefn gwlad prydferth ers y 10fed ganrif. Yn swatio rhwng Llantrisant a Phont-y-clun, maenordy arddull Fictoraidd ym mhentref Meisgyn yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru, yw Miskin Manor.

Bore Profiad y Bathdy Brenhinol

Mae Profiad y Bathdy Brenhinol wedi ennill gwobrau. Bydd modd i ymwelwyr fynd ar daith dywys o amgylch y mannau gwneud darnau arian a chael gwybod o lygad y ffynnon am y gwaith o droi syniad yn ddarn o arian. Mae treftadaeth y sefydliad yn ymestyn dros fil o flynyddoedd, ac mae'r daith hunan-dywys o amgylch profiadau sefydlog a rhyngweithiol yn dod â'r dreftadaeth gyfoethog honno yn fyw. Mae cyfle hefyd i ymwelwyr gael gwybod am yr hanesion ingol y tu ôl i broses gwneud medalau'r Bathdy Brenhinol.

Mae'r ganolfan i ymwelwyr yn atyniad drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob tywydd. Mae'r ganolfan yn creu safle treftadaeth gyfoethog wrth ochr ffatri weithredol, ac yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr.

Cinio - Caffi Profiad y Bathdy Brenhinol

Gall dysgu am hanes hynod ddiddorol a mwynhau arddangosion cyffrous Profiad y Bathdy Brenhinol fod yn waith sychedig. Efallai y bydd awydd bwyd arnoch chi. Mae ein caffi ar y safle yn cynnig amrywiaeth o fwydydd a diodydd poeth ac oer i sicrhau bod eich profiad yn un cyflawn. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael, gan gynnwys prydau heb glwten, prydau llysieuol a phrydau fegan.

Prynhawn – Taith Pyllau Glo Cymru

Taith yr Aur Du

Mae ymweliad â Thaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn rhywbeth mae'n RHAID i chi ei brofi yn rhan o'ch ymweliad. Cewch fwynhau profiad unigryw mewn pwll glo go iawn yng Nghymoedd y De.

Dyma dystiolaeth fyw o gymunedau glofaol Cymoedd byd-enwog Cwm Rhondda. Mae'r atyniad teuluol poblogaidd yma'n cynnig cipolwg hynod ar ddiwylliant a chymeriad cyfoethog yr ardal.

Mae cyn-lowyr yn tywys ymwelwyr ar Daith yr Aur Du, sef taith o amgylch safle'r pwll glo. Does neb yn adnabod y diwydiant glo yn well na’n tywyswyr ni, a bydd ymwelwyr yn cael eu swyno wrth glywed eu straeon am fywyd o dan y ddaear ar Daith yr Aur Du. Bydd y daith dywys yn cynnwys taith ar yr arwyneb a thaith danddaearol o’r pwll glo olaf sydd ar ôl yn y byd-enwog, Cwm Rhondda.

Swper yng Ngwesty Miskin Manor

Diwrnod 2

Bore - Zip World Tower (90 munud)

Cyfle bythgofiadwy i hedfan ar linell sip gyflymaf y byd o'i math, gan fwynhau golygfeydd anhygoel o fynyddoedd Rhigos. Bydd y rheiny sy'n ceisio gwefr heb ei hail yn mentro ar 2 barth sip gwahanol sydd â 4 llinell gyfochrog, gan wibio ar draws safle hanesyddol Glofa'r Tŵr.

Cinio - (Zip World Tower) Bar a Bistro Cegin Glo

P'un a oes angen magu'ch nerth arnoch chi ar ôl eich antur Zip World, neu eich bod chi eisiau eistedd yn ôl, ymlacio, a phrofi golygfeydd godidog wrth fwynhau bwyd a diod flasus, Cegin Glo yw'r lle i chi. Mae naws y Bar a’r Bistro yma’n gyfuniad perffaith o’r byd modern a’r oes a fu, ac mae’n lleoliad perffaith i gyd-fynd â hanes cyfoethog safle'r hen bwll glo. Mae pob twll a chornel yn amlygu hanes arbennig y safle.

PrynhawnLido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty

Mae Lido Ponty, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, wedi'i adnewyddu ar gyfer ymwelwyr yr 21ain ganrif.

Mae tri phwll nofio cynnes sy'n addas ar gyfer teuluoedd, nofwyr selog a nofwyr cymdeithasol o bob oed a gallu.

Mae gan Lido Ponty gawodydd allanol a mewnol, cyfleusterau newid wedi'u gwresogi a Chanolfan fodern i ymwelwyr, sy'n adrodd hanes rhyfeddol Lido Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Lido wedi'i leoli yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad. Treuliwch amser yn crwydro'r tir, y safle seindorf a'r ardd isel. Cewch weld y cerflun sy'n deyrnged i Evan a James James, a gyfansoddodd yr Anthem Genedlaethol yma. Ewch am dro ar hyd glannau Afon Taf, neu ymunwch â Llwybr Taith Taf, sy'n rhedeg trwy'r parc ar ei ffordd o Gaerdydd i Aberhonddu.