Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Arosiadau hirach yn Rhondda Cynon Taf

 

Ydych chi awydd antur yn Rhondda Cynon Taf?

Ewch i hen bentref glofaol bach Blaen-cwm, lle byddwch chi'n aros dros nos ym Mwthyn Blaen-cwm, sy'n cynnig golygfeydd godidog dros y rhaeadrau a'r mynyddoedd cyfagos.

Diwrnod 1

Ewch i fyny a thros gylchfan Rhigos - byddwch chi'n ei weld o'ch llety - i Zip World Tower. Mae hen Lofa'r Tŵr wedi cael ei drawsnewid i'r unig brofiad adrenalin o'i fath yn y De a’r Canolbarth.

Cewch hedfan drwy'r awyr o gopa Mynydd y Rhigos ar Phoenix, y weiren sip gyflymaf o'i math yn y byd, ac ewch ar daith ffigar-êt Tower Coaster, yr unig un o'i math yn Ewrop, sy'n gwibio ar gyflymder o hyd at 25mya.

Cymerwch hoe i ddal eich gwynt a magu'ch nerth gyda chinio ar y safle ym mwyty Cegin Glo, sy'n falch o ddefnyddio'r cynnyrch lleol gorau. Mynnwch olwg ar yr eitemau mwyngloddio sy'n cael eu harddangos i ddathlu hanes diwydiannol pwysig y safle.

Teithiwch yn ôl dros y Rhigos a threuliwch gyfnod yn Nhreorci, enillydd gwobr Stryd Fawr y Flwyddyn y DU yn 2020, lle mae modd i chi brynu cofroddion ac anrhegion a hyd yn oed cwrw crefft wedi'i fragu'n lleol.

Prynhawn: Mae'n bryd mynd allan hwnt ac yma yn y dirwedd y gwelwch chi o'ch ystafell wely. Mae Pen-pych yn daith gerdded fer o Fwthyn Blaen-cwm ac mae taith gerdded heriol ond gwerth chweil i fyny'r bryn trwy goedwigaeth a heibio rhaeadrau. Daliwch ati i chwilota ac fe ddewch at olygfan Rhigos, lle bydd modd i chi wylio eraill yn llithro ar hyd y wifren!

Gyda'r nos Ewch i Dreherbert gerllaw i gael swper ac ychydig o ddiodydd yng Ngwesty'r Baglan, sy'n cael ei redeg gan gogydd a fu unwaith yn gweithio yn The Ritz ac a baratodd fwyd ar gyfer y diweddar Dywysoges Diana. Mwynhewch yr awyrgylch cymunedol a'r bwyd godidog.

Diwrnod 2 Amser i deithio tua hanner awr i'r de i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, a Pharc Coffa Ynysangharad.

Nofiwch ym mhyllau awyr agored Lido Ponty, sy'n adferiad rhagorol o'r pwll sydd wedi sefyll yn y parc er 1927. Bachwch goffi o Gaffi Lido i'w fwynhau ar y patio haul Canoldirol.

Ar ôl i chi nofio, cymerwch amser i grwydro'r parc. Mae Afon Taf a Llwybr Taith Taf o Gaerdydd i Aberhonddu yn rhedeg trwyddo.

Ewch i mewn i dref Pontypridd - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar yr Hen Bont hyfryd ac yn treulio amser yn y farchnad dan do hynod sydd â llwyth o fannau i brynu anrhegion a danteithion - gan gynnwys Picau ar y Maen go iawn.

Ewch am fwyd yn y dref - rydyn ni'n argymell La Trattoria neu Alfred's Bar and Grill - cyn mynd yn ôl i fyny trwy Gwm Rhondda i'ch llety.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn rhy llawn i alw heibio ym mharlwr Hufen Iâ Sub Zero. Cewch ddewis o 64 blas o hufen iâ, wedi'i weini mewn conau, ar wafflau, mewn syndi neu gyda chrempogau!

Calon y Cymoedd:

Eich cartref ar gyfer y gwyliau bach yma yw Neuadd Llechwen, sydd â golygfeydd godidog o gefn gwlad Cymru. Dyma un o gyfrinachau gorau Cwm Cynon. Mae'r ystafelloedd yn gyfforddus ac wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar. Mae'r bwyd yn flasus iawn, ac mae cynhwysion lleol ffres i'w gweld ar y fwydlen draddodiadol.

Bore - Taith Pyllau Glo Cymru (90 munud)

Taith yr Aur Du

Mae ymweliad â Thaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn rhywbeth mae'n RHAID i chi ei brofi yn rhan o'ch ymweliad. Cewch fwynhau profiad unigryw mewn pwll glo go iawn yng Nghymoedd y De.

Dyma dystiolaeth fyw o gymunedau glofaol Cymoedd byd-enwog Cwm Rhondda. Mae'r atyniad teuluol poblogaidd yma'n cynnig cipolwg hynod ar ddiwylliant a chymeriad cyfoethog yr ardal.

Mae cyn-lowyr yn tywys ymwelwyr ar Daith yr Aur Du, sef taith o amgylch safle'r pwll glo. Does neb yn adnabod y diwydiant glo yn well na’n tywyswyr ni, a bydd ymwelwyr yn cael eu swyno wrth glywed eu straeon am fywyd o dan y ddaear ar Daith yr Aur Du. Bydd y daith dywys yn cynnwys taith ar yr arwyneb a thaith danddaearol o’r pwll glo olaf sydd ar ôl yn y byd-enwog, Cwm Rhondda.

Cinio - Y Llew Treorci

Ewch i fyny trwy Gwm Rhondda, heibio'r hen gymunedau glofaol rydych chi newydd ddysgu amdanyn nhw. Dewch i weld sut mae'r rhesi o dai teras yn glynu wrth y dirwedd fel mwclis. Ewch i dafarn y Llew, sy'n ffefryn gan lawer o bobl leol. Mae'n cynnig bwyd tafarn blasus ac yn cynnal nosweithiau thema fel cyri a stêc.

Prynhawn - Taith a Sesiwn Flasu Distyllfa Wisgi Penderyn (60 munud)

O Gymru i'r byd ... Mae Distyllfa Penderyn yn cynhyrchu wisgi a gwirod brag sengl sydd wedi ennill gwobrau ar odre'r Bannau Brycheiniog godidog yn Ne Cymru.

Yn ystod y daith awr o hyd, byddwch chi'n dysgu am sut gafodd Penderyn ei sefydlu, gan weld sut mae'r wisgi arobryn yn cael ei wneud a beth sy'n ei wneud yn unigryw. Cewch weld y felin, tun stwnsh, y distyll-lestri copr Penderyn arloesol a'r pâr o ddistyll-lestri pot. Ar ddiwedd y daith, cewch flasu rhai o'u cynnyrch yn y Bar Blasu. Cofiwch ymweld â'r siop i brynu potel neu ddwy i'w mwynhau adref.