Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Un diwrnod yn Rhondda Cynon Taf

 
Trip-1-Featured-Image

Arhosfa Un - Profiad y Bathdy Brenhinol

Mae Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gartref i'r Bathdy Brenhinol a'i 1,000 mlynedd o drysorau, hanes a chwedlau ers iddo symud i Gymru o Lundain hanner canrif yn ôl.

Profiad y Bathdy Brenhinol yw'r unig un o'i fath yn y byd. Mae'n rhoi cyfle unigryw i ymwelwyr weld y tu ôl i'r llenni yn y sefydliad Prydeinig hwn, sy'n gwneud arian a medalau i wledydd ledled y byd.

Sut deimlad yw hi i eistedd mewn ystafell gyda £1 miliwn mewn darnau punt?

Ydych chi'n gallu bathu eich arian eich hun?

Archwiliwch chwe pharth, sy'n archwilio tarddiad y Bathdy Brenhinol a'i gysylltiadau â Thŵr Llundain, y trysorau sy'n cael eu cynhyrchu yma sy'n teithio ar draws y byd - o fedalau Olympaidd i ddarnau arian Canada, sut mae arian yn cael ei wneud a'r traddodiadau y tu ôl iddo ac, wrth gwrs, cewch ddarganfod apêl casglu darnau arian.

Mae llwythi i'w gwneud yn y Bathdy Brenhinol, sy'n cael ei ystyried yn un o'r atyniadau gorau i dwristiaid yn Ne Cymru. Mae ganddo hefyd siop a bwyty ar y safle i'w mwynhau yn ystod eich arhosiad.

Arhosfa Dau - Tref Llantrisant

Mae Profiad y Bathdy Brenhinol ei hun wedi'i leoli ar y brif ffordd gyntaf i mewn i Rondda Cynon Taf o'r M4. Wrth i chi gyrraedd, byddwch chi'n teithio drwy gefn gwlad yn treiglo tuag at brifddinas Caerdydd, cyn mynd heibio i dref hanesyddol Llantrisant, sy'n dyddio o'r 13eg ganrif.

Mae Llantrisant, sydd ar safle un o Gaerau pwysicaf y Normaniaid yng Nghymru, yn dref unigryw ac yn un o drysorau cudd De Cymru.

Mae'r dref wedi tyfu o gwmpas talwrn teirw traddodiadol - roedd yn rhaid dod ag ymladd teirw i ben ar y safle oherwydd camymddwyn y dorf, nid y teirw - yn gasgliad prydferth o siopau annibynnol, siopau bara a bwytai.

Ewch am dro ar hyd y strydoedd coblog lle byddwch chi'n darganfod eglwysi hynafol a thŵr Castell Llantrisant, lle carcharwyd y Brenin Edward II cyn iddo gael ei lofruddio.

Mae'r tŵr yn dal i sefyll yn falch, ac mae nawr yn cael ei warchod gan eifr sy'n bwyta'r gordyfiant. Mae'n agos at Gomin Llantrisant, sydd ag erwau o dir i'w crwydro.

Arhosfa Tri - Lle i Fwyta

  • Mae Neuadd Glanelái yn daith fer mewn car o Lantrisant. Mae Neuadd Glanelái yn blasty trawiadol o Oes Fictoria sydd wedi cael ei drawsnewid yn fwyty a gwesty, sy'n cynnig te prynhawn blasus neu fwydlen lawn.
  • Mae Bwyty'r Llofft yng Ngwesty'r Parc Treftadaeth yn adlewyrchu traddodiad a threftadaeth gyda llawer o'r prennau yn ei nenfydau yn deillio o hen warws glanfa yn nociau Caerdydd.  Mae'r gwesty hefyd mewn lleoliad cyfleus wrth ymyl Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Ble bynnag byddwch chi'n dewis bwyta, yn y pen draw byddwch chi'n mynd i  galon Rhondda Cynon Taf, lle mae'r porfeydd gwyrdd a ysbrydolodd "How Green Was My Valley" a "Green, Green Grass of Home" Syr Tom Jones yn esgyn drwy dirweddau diwydiannol a naturiol dramatig.

Mae'r hanes diwydiannol a glofaol roedden ni'n enwog amdano dros y byd wedi siapio tirwedd Cwm Rhondda, sydd wedi dod yn fwy dramatig a phrydferth wrth i natur ei hadennill.

Mae mwclisau o dai teras amryliw yn dilyn cromliniau naturiol y mynyddoedd sy'n frith o lofeydd.

Mae'r dirwedd hardd yma bellach yn cynnig rhai o'r profiadau cerdded, beicio a marchogaeth gorau yn Ne Cymru ac mae'n hafan i anturwyr a ffotograffwyr.

Dyma groeso perffaith i'ch cyrchfan nesaf, Taith Pyllau Glo Cymru, sydd wedi'i leoli yng nghalon y Cwm a ysbrydolodd ei stori anhygoel.

Arhosfa Pedwar - Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda

Mae Taith Pyllau Glo Cymru yn atyniad arall sydd â sgôr uchel ar Trip Advisor. Mae wedi lleoli ar safle hen Lofa Lewis Merthyr ac mae'n cadw rhai o'i nodweddion gwreiddiol, fel y simnai eiconig a'r adeiladau allanol.

Y dynion a fydd yn mynd â chi ar daith yn ôl mewn amser o dan y ddaear yw'r un dynion a fu unwaith yn gweithio cannoedd o fetrau o dan y ddaear yn y mwyngloddiau peryglus, felly mae ganddyn nhw straeon ac atgofion personol i'w rhannu gyda chi.

Ewch ar daith gyffrous 'Dram: Y Profiad Sinematig'. Bydd rhaid gafael yn dynn wrth i chi fynd ar daith mewn dram glo sydd allan o reolaeth. Dram: Y Profiad Sinematig. Cewch gerdded llwybrau atgof wrth i chi ymweld â'r stryd o siopau sydd wedi'u hail-greu.

Prynwch gofrodd i gofio eich amser yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn y siop anrhegion traddodiadol, sy'n gwerthu ystod o grefftau lleol ac eitemau sydd â themâu Cymreig, gan gynnwys lampau glowyr a llechi.

Arhosfa Pump

Os oes amser gyda chi, mae modd i chi fynd ar daith i ben Cwm Rhondda, a mwynhau'r golygfeydd godidog o ben Mynydd y Bwlch. Os yw'r fan hufen iâ yno, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael un - maen nhw wedi'u gwneud yn dilyn rysáit blasus sydd wedi'i throsglwyddo i lawr ar hyd y cenedlaethau.