Mae'r Bathdy Brenhinol wedi trwytho mewn hanes. Yn 2018, dathlodd 50 mlynedd ers iddo symud o Tower Hill yn Llundain i Lantrisant yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r Bathdy wedi bodoli ers 1,100 mlynedd, ac mae'n olrhain hanes helynt gwleidyddol, cynnydd cymdeithasol ac economaidd a gwelliannau technolegol a gwyddonol ym Mhrydain. Yn fyr, mae hanes y Bathdy yn rhan annatod o hanes Prydain.
Mynd ar y daith:
Profiad heb ei ail
Yn ystod eich ymweliad, byddwch chi'n dysgu rhagor am ble mae darnau arian a medalau yn cael eu gwneud a byddwch chi'n gallu gweld rhan o'r broses (cadwch lygad am y domen darnau arian - ein ffefryn ni!). Bydd cyfle hefyd i chi fathu eich darn arian eich hun. Ar ddiwedd y daith bydd cyfle i ymwelwyr edrych o gwmpas y ganolfan ymwelwyr yn hamddenol. Mae hyn yn rhan ddiddorol o'r profiad ac mae'n cynnwys gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer pob oedran. Mae lluniaeth ysgafn a phrydau bwyd ar gael yn y caffi ac mae modd prynu cofroddion o'r siop anrhegion i'ch atgoffa o'r ymweliad.
Cynigion
- Gostyngiadau i grwpiau o 15 neu ragor
- Slot amser penodol a blaenoriaeth i bobl sy'n archebu ymlaen llaw
- Parcio am ddim i fysiau
- Ymweliad ymlaen llaw yn rhad ac am ddim i drefnydd y grŵp.
I gadw lle ac i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
www.royalmint.com/the-royal-mint-experience/group-visits/