Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Distyllfa Wisgi Penderyn

 
Penderyn-Featured-Image

'O Gymru i bedwar ban byd...'

Wedi'i leoli ym mhentref hanesyddol Penderyn ar odre Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Distyllfa Penderyn yn cynhyrchu wisgi a gwirod brag sengl sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cael eu gwneud gan ddefnyddio cyflenwad dŵr ffres naturiol y safle ei hun a'i werthu ledled y byd.

Gwybodaeth am y daith

Croesawodd Canolfan Ymwelwyr Penderyn, sydd wedi ennill gwobrau, dros 42,500 o ymwelwyr yn 2017.  Yn ystod y daith awr o hyd, mae ymwelwyr yn dysgu am sefydlu Penderyn ac yn gweld sut mae'r wisgi arobryn yn cael ei wneud a beth sy'n ei wneud yn unigryw. Bydd y daith yn dod i ben gydag ymweliad â'r bar blasu lle bydd cyfle i flasu cynhyrchion Penderyn.

Taith Wisgi a Siocled

Yn achlysurol, mae Distyllfa Penderyn yn cynnig amrywiad cyffrous o'r daith arferol pan mae'r distyllwyr yn paru wisgi brag sengl gyda siocledi blasus wedi'u gwneud â llaw o 'Chocolate House' Pontypridd. Mae'r dyddiadau ar gyfer y sesiynau yma'n cael eu hysbysebu ar wefan Penderyn ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Nodwch, oherwydd natur yr achlysur, mae angen cyfyngu'r niferoedd i (insert figure)

Dosbarth Meistr Distyllu

Mae Penderyn yn argymhell eu Dosbarth Meistr Distyllu ar gyfer y sawl sy'n ymddiddori mewn wisgi. Mae'r profiad cwbl ryngweithiol yma'n cynnig golwg fanwl ar wneud y Wisgi Brag Sengl sydd wedi ennill gwobrau. Mwynhewch daith dywysedig lawn sy'n rhoi cipolwg i chi ar yr offer sy'n cynhyrchu'r golchion haidd; y distyll-lestri copr sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer Penderyn a'r distyll-lestri pot. Yn ogystal â rhannu gwybodaeth a phrofiad ynglŷn â phwysigrwydd pren a chelfyddyd aeddfedu, bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i fwynhau gweithgaredd arogli difyr ac addysgiadol a dysgu'r protocol ar gyfer blasu wisgi.

Mae'rDosbarth Meistr yn para tua 2.5 awr. Er mwyn gwerthfawrogi'r sesiwn Dosbarth.

Meistr yn llawn,rydyn ni'n argymell yn gryf nad yw cyfranogwyr yn bwriadu gyrru wedyn. Bydd pob un sy'n mynychu yn derbyn rhodd ar ôl eu Dosbarth Meistr.

Teithiau Grŵp Preifat Gyda'r Hwyr

Mae teithiau o amgylch y ddistyllfa gyda'r nos, i grwpiau o 10-20, yn cael eu
cyflwyno o ganlyniad i alw mawr amdanyn nhw. Rhaid trefnu o flaen llaw. Mae'r
pris yn cynnwys rhodd.

Am ragor o fanylion gan gynnwys costau neu i drefnu eich ymweliad, ffoniwch
Ganolfan Ymwelwyr Penderyn ar 01685 810650 neu anfonwch e-bost visitor@welsh-whisky.co.uk
www.penderyn.wales