Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

 
Nantgarw-China-Works-Featured-Image

Mae Amgueddfa Crochendy Nantgarw yn gartref i borslen enwog Nantgarw a dyma'r unig waith porslen o'r 19eg ganrif sy'n goroesi yn y Deyrnas Unedig.

Am gyfnod byr ar ddechrau'r 19eg ganrif gwnaeth William Billingsley y porslen gorau yn y byd ar y safle yma. Ar ôl ei grasu, cafodd ei gludo ar gamlesi ac ar longau i Lundain i gael ei enamlo a'i euro gan yr addurnwyr gorau ym Mhrydain. Yn anffodus arweiniodd breuder y porslen (cafodd hyd at 90% ei ddinistrio yn yr odyn) at y ffatri'n cynhyrchu porslen am bum mlynedd yn unig.

Mae llawer o'r hyn a gafodd ei gynhyrchu mewn casgliadau mawr ar draws y byd. Ar yr achlysuron prin pan mae darnau'n ymddangos mewn arwerthiannau, maen nhw'n gallu gwerthu am ddegau o filoedd o bunnoedd. Yn 2017 ymddangosodd plat Nantgarw gyda chryn dipyn o ddifrod ar y rhaglen 'Flog It!' ar BBC 1. Gwerthodd am £2,400.

Caeodd y Crochendy ym 1920. Mae bellach yn amgueddfa a chanolfan gelfyddydau cyfoes.

Mynd ar y daith:

Mae Amgueddfa Crochendy Nantgarw yn croesawu grwpiau o hyd at ddeugain o bobl ar gyfer teithiau tywys gan gynnwys arddangosiadau gwneud porslen a phibellau. Mae'r daith yn cael ei harwain gan arbenigwyr preswyl Nantgarw sy'n rhoi cipolwg unigryw ar hanes y safle a'r crochenwaith i ymwelwyr.

Mae modd prynu cinio neu de a chacen.

Rhaid cadw lle ymlaen llaw.

Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle ewch i www.nantgarwchinaworksmuseum.co.uk