Skip to main content

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Grant Cymunedol Multiply

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o hoelion wyth agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn mis Mawrth 2025. Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau.

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Llywodraeth i ffyniant bro ledled y DU trwy gyfrannu at bob un o'r amcanion ffyniant bro:

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw trwy ehangu'r sector breifat, yn enwedig yn y llefydd sydd angen y cymorth yma.
  • Creu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y llefydd ble mae diffygion o ran hyn.
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maen nhw wedi mynd ar goll.
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd sydd â diffyg cymorth lleol.

Nod cynllun Lluosi (Multiply) yw cynyddu lefelau rhifedd gweithredol ym mhoblogaeth oedolion ledled y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi adnabod y llwyddiant canlynol ar gyfer y rhaglen ar lefel cenedlaethol:

  • Mwy o oedolion yn ennill cymwysterau mathemateg / cymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd.
  • Gwelliant yng nghanlyniadau'r farchnad llafur.
  • Gwelliant yn rhifedd oedolion ar draws y boblogaeth.

Yn Rhondda Cynon Taf

Mae Grant Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gyfle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fuddsoddi mewn adeiladau ac isadeiledd i adfer cymunedau a pherthnasau, a gosod seiliau ar gyfer datblygiadau cymunedol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn ein cymunedau.

 Mae'r Cyngor RhCT wedi sicrhau bod Grant Cymunedol Lluosi ar gael gyda’r bwriad o: 

  • Gwella sgiliau rhifedd oedolion ledled y wlad

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf

Dyfarniad Lefel Is - £1,000 i £14,999

Mae'r grant Cymunedol ar gael i sefydliadau dielw personol, sefydliadau yn y Trydydd Sector a Grwpiau Cymunedol, gan gynnwys Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a Chwmnïau Cyfyngedig drwy Warant sy'n gallu dangos bod gyda nhw Gyfansoddiad neu Ddogfen Lywodraethol; a Chyfrif Banc yn enw'r sefydliad gydag o leiaf 2 lofnod ar wahân (sydd ddim yn perthyn i'w gilydd). Mae cyfanswm o £220,000 ar gael. Rhaid i'r prosiectau ofyn am gymorth refeniw yn unig.

Nodwch: Does dim hawl gan ddarparwyr y Gronfa sydd wedi'u comisiynu eisoes gwneud cais.

Y tro yma, bydd ceisiadau'n agor 10 Mehefin 2024 ac yn cau ar 28 Mehefin 2024 am 5pm.

Yr amserlen ar gyfer y gwariant/gweithgaredd cymwys yw 1 Gorffennaf 2023 – 31 Rhagfyr 2024.

Rhaid i brosiectau gwblhau eu holl weithgarwch a gwerthiant ariannol erbyn 31 Rhagfyr 2024.

Rhaid i chi arddangos sut bydd eich gweithgarwch yn ymgorffori rhifedd a/neu mathemateg. 

Gall gweithgarwch cymunedol gynnwys amrywiaeth o weithgareddau cymunedol. Er enghraifft (ond ddim yn gyfyngedig): 

  • Dosbarthiadau Coginio:  Mae addysgu sgiliau coginio sylfaenol yn cyfuno mesur, ffactorau, a chyfrannau, sy'n meddwl eu bod yn ffordd wych o ddysgu rhifedd wrth gael hwyl yn y gegin.
  • Gweithdai garddio:  Mae cynllunio a dylunio gardd yn cyfuno mesur a gofodi ar gyfer planhigion, cyfrif cyfaint pridd ac amcangyfrif cynnyrch sydd i gyd yn gofyn am fathemateg sylfaenol.
  • Gweithdai Crefft: Mae crefftau fel gwau, cwiltio a gwaith pren yn cyfuno mesuriadau a siapiau geometrig, sy'n cynnig cyfle i ymarfer sgiliau mathemateg mewn amgylchfyd creadigol.
  • Prosiectau Adnewyddu Cartrefi DIY: Mae gweithgareddau fel creu tai adar a gwelyau gardd uchel yn cyfuno sgiliau rhifedd, mesur a chyllido.
  • Teithiau cerdded Archwilio a Natur awyr agored: Gall archwilio llwybrau natur a pharciau gyfuno amcangyfrif pellter, mesur taldra coed ac adnabod patrymau ym myd natur.  Gyda phob un yn gofyn am gysyniadau rhifol.

Mae canllawiau a gwybodaeth ychwanegol ar ffurf dogfennau Word a PDF ar gael i'w lawrlwytho isod:

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais ar-lein ar gyfer y Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Grant Cymunedol Multiply

Diweddariad: Mae'r Ffurflen Atgyfeirio wedi'i dileu fel gofyniad ar gyfer Grant Micro Cymunedol CBSRhCT UKG SPF. Yn lle hynny, bydd ymgeiswyr yn cael manylion am ddarparwyr a gomisiynir, y cyrsiau sydd ar gael a sut i archebu cyfleoedd ychwanegol.

I ofyn am gyngor neu gymorth e-bostiwch - cffggrantcymunedolrhct@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425368.