Skip to main content

Sbwriel

Os ydych chi'n gollwng neu'n gadael sbwriel mewn man cyhoeddus, rydych chi'n cyflawni trosedd. Byddwch chi'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.00 am y drosedd yn unol â phwerau Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Oes gyda chi ddirwy sbwriel i'w thalu? 

Mae unrhyw fath o sbwriel yn cymryd amser hir i ddiflannu'n naturiol. Yn ôl Cadwch Brydain yn Daclus, dyma ba mor hir mae'n cymryd i eitemau bydru

  • Stympiau sigaréts – hyd at 15 mlynedd
  • Gwm cnoi - hyd at 5 mlynedd
  • Croen orennau / croen bananas / creiddiau afalau - hyd at ddwy flynedd
  • Bagiau plastig - 10 i 20 o flynyddoedd
  • Caniau alwminiwm / Cewynnau - 80 i 100 o flynyddoedd
  • Poteli plastig - cyfnod amhenodol

Pam mae sbwriel yn bwnc llosg?

Yn ôl adroddiad blynyddol diweddar, roedd gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu, gwm cnoi a baw cŵn i'w gweld ar hyd nifer fawr o'r ffyrdd a mannau cyhoeddus a gafodd eu harchwilio.

Roedd canfyddiadau'r adroddiad yn siomedig dros ben. O ganlyniad, gwnaeth sgôr "glendid" cyffredinol y Fwrdeistref Sirol ddisgyn. Dyma siom fawr i'r rheiny sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr ardal yn lân ac yn wyrdd i bawb ei mwynhau.

Ymhen hynny, mae wedi dod i'r amlwg mai problem fwyaf Cymru o ran sbwriel yw gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu.

Mae'r Cyngor yn ymfalchïo yn amgylchedd Rhondda Cynon Taf, ac mae'n benderfynol o fynd i'r afael â phroblemau gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu, gwm cnoi a baw cŵn, unwaith ac am byth.

Yn ogystal â pharhau i amddiffyn yr amgylchedd er budd pawb - gan gynnwys anfon staff allan, bron bob dydd, i gasglu sbwriel wedi ei ollwng gan bobl eraill. Bydd y Cyngor hefyd yn addysgu ac yn gorfodi.

Mae'r Cyngor yn parhau i gydweithio ag ysgolion, grwpiau cymunedol a thrigolion er mwyn eu hatgoffa nhw o'r gyfraith, o'r rhesymau dros beidio â gollwng sbwriel ac o'r ffyrdd maen nhw'n gallu cyfrannu at amddiffyn yr amgylchedd.

Mae ymgyrch gorfodi materion sbwriel yn cael ei gynnal ochr yn ochr â'r gwaith 

yma. Yn rhan o'r ymgyrch, bydd unigolion sy'n cael eu dal yn gollwng gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu a gwm cnoi, neu unigolion sy'n gadael i'w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus, yn cael eu hadnabod, yn cael dirwy neu hyd yn oed yn cael eu herlyn pan fydd hyn yn bosibl.

Mae gan y Cyngor garfannau o swyddogion sydd wedi cael eu hyfforddi a'u hawdurdodi i ymdrin ag unigolion sy'n torri'r gyfraith. Os byddwch chi'n gollwng sbwriel ar y llawr neu'n ei daflu allan o ffenestr y car, byddwch chi'n derbyn dirwy neu hyd yn oed yn cael eich erlyn!

Ble galla i gael dirwy?

Os byddwch chi'n gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored yn Rhondda Cynon Taf, byddwch chi'n agored i gael dirwy o £100. I beidio â chael dirwy, gwnewch yn siŵr eich bod chi bob tro yn rhoi eich sbwriel yn y bin sbwriel agosaf. Os does dim modd i chi ddod o hyd i fin sbwriel, ewch â'r sbwriel adref gyda chi a'i waredu yn y ffordd gywir.

Beth os ydw i'n gollwng sbwriel ar Dir Preifat?

O dan reoliadau Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, os byddwch chi'n gollwng neu'n gadael sbwriel mewn man cyhoeddus, byddwch chi'n cyflawni trosedd. Byddwch chi'n derbyn hysbysiad cosb benodedig o £100 am y drosedd yn unol â phwerau Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Mae 'man cyhoeddus' yn cynnwys meysydd parcio, caeau, parciau manwerthu ayyb oni bai bod perchennog y tir wedi rhoi caniatâd i chi ollwng neu adael y sbwriel.

Pwy sy'n gallu cael y ddirwy?

O dan y rheoliadau, mae modd i unrhyw un dros 10 oed gael dirwy am ollwng sbwriel. Yn Rhondda Cynon Taf, mae ein Swyddogion Gorfodi Materion Sbwriel yn treulio llawer o amser mewn ysgolion. Maen nhw'n cynghori ac yn hyfforddi plant rhwng 10 a 16 oed er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â phroblemau gollwng sbwriel.

Os fydda i ddim yn talu, beth fydd yn digwydd?

Os byddwch chi'n cael Hysbysiad Cosb Benodedig gan un o'r Swyddogion Gorfodi Materion Sbwriel, bydd disgwyl i chi, yn unol â thelerau'r gosb, ei thalu o fewn 14 diwrnod o gyhoeddi'r hysbysiad.

Os byddwch chi'n dewis peidio â thalu'r ddirwy o fewn 14 diwrnod, bydd y Cyngor yn ceisio bwrw ymlaen â threfniadau i'ch erlyn chi drwy achos llys. Mae hyn yn rhan o bolisi'r Awdurdod i wella'r amgylchedd ac i leihau achosion o droseddau amgylcheddol y tu mewn i ffiniau Rhondda Cynon Taf.