Skip to main content

Dyletswydd Gofal Masnachol a Domestig

Masnachol

Mae methu â chydymffurfio â dyletswydd gofal yn drosedd heb unrhyw derfyn uchaf ar bŵer y llysoedd i ddirwyo. Mewn rhai achosion o fethu cydymffurfio â dyletswydd gofal, mae modd rhoi hysbysiad cosb benodedig yn hytrach nag erlyn. Mae'r Cod yn dystiolaeth dderbyniol mewn achosion cyfreithiol ar gyfer troseddau Adran 34(1) ac mae rhaid i'w reolau gael eu hystyried pan fo'n berthnasol i gwestiynau sy'n cael eu codi yn yr achos.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Domestig

Os ydych chi'n talu rhywun i waredu gwastraff eich cartref neu eitemau diangen, mae rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn bodloni'ch Dyletswydd Gofal Gwastraff Cartref:

  1.  Sicrhau bod y person neu'r cwmni sy'n mynd â'ch gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig. Mae modd i chi edrych ar-lein drwy Cyfoeth Naturiol Cymru 
  2. Gofynnwch le mae'ch gwastraff chi'n mynd

Mae’n bosib byddwch chi’n wynebu dirwy o £300 os na ofynnwch chi’r cwestiynau pwysig yma. Mae modd i chi hefyd gael eich erlyn, gyda dirwyon o hyd at £5000.

Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.taclotipiocymru.org/cy

Talwch eich dirwy Dyletswydd Gofal