Sut mae modd i ni eich helpu chi?
Mae modd i'n Carfan Chwaraeon yn y Gymuned a Gweithgarwch Corfforol helpu i ddatblygu'ch clwb chwaraeon neu'ch sefydliad chi er mwyn annog rhagor o bobl i fod yn fwy gweithgar yn fwy aml.
Mae modd i ni gynnig amrywiaeth o gymorth i chi, gan gynnwys:
Os ydych chi eisiau cymorth gyda'r uchod, cofrestrwch ar gyfer y Achredu Clybiau Chwaraeon RhCT a chyflwyno ffurflen gais am gymorth cynllun. Bydd Swyddog yn cysylltu â chi er mwyn rhoi cymorth gyda'ch cynllun ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk
Atebion Clwb - gwefan Chwaraeon Cymru
Atebion Clwb – Dyma wefan wedi'i datblygu gan Chwaraeon Cymru mewn partneriaeth â Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol. Mae'n cynnwys pum adran sy'n darparu gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â'r pynciau canlynol:
- Rheoli eich clwb
- Cyllid clwb
- Hybu eich clwb
- Pobl yn eich clwb
- Cyfleusterau
Mae pob adran yn cynnwys polisïau, templedi ac offer cynllunio sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim. Mae hefyd astudiaethau achos o glybiau eraill ar draws Cymru, sy'n darparu enghreifftiau ymarferol o'r pethau sydd wedi gweithio ar eu cyfer nhw.
Atebion Clwb - Offeryn Asesu Clwb
Yn rhan o'r wefan Atebion Clwb, mae Chwaraeon Cymru wedi creu offeryn asesu sy'n helpu clybiau i amlygu eu cryfderau a'r meysydd i'w datblygu. Drwy ateb dim ond 22 o gwestiynau syml, bydd yr offeryn asesu yn helpu pwyllgor clwb i ystyried y pethau mae'r clwb yn eu gwneud yn dda, y pethau sydd ddim cystal, a'r meysydd i'w gwella. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.atebionclwb.cymru/club-solutions-healthcheck