Cynllun Achredu Clybiau Chwaraeon RhCT
Cefnogi clybiau a sefydliadau fel eu bod nhw’n datblygu ac yn cynnig cyfleoedd gwell i'w haelodau a'u cymunedau lleol.
Achrediad insport
Yn ogystal â gweithio tuag at statws ‘Chwaraeon Diogel’, rydyn ni'n annog clybiau i gyflawni Insport.
Mae Insport yn rhaglen wobrau sydd â phedwar cam (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur). Ei bwriad ydy gwneud eich clwb yn gynwysedig, ac i'ch cynorthwyo chi drwy'r broses o gynnig eich camp chwaraeon i bobl anabl o ran cyfrannu, hyfforddi a gwirfoddoli. Bydd eich Swyddog Chwaraeon yn y Gymuned neu Swyddog Chwaraeon Anabledd yn eich cefnogi chi drwy bob cam.
Ar ôl cyflawni pob cam, byddwn ni'n rhoi marc i chi sy'n berthnasol i'r lefel rydych chi wedi'i chyrraedd. Mae hawl gennych chi i ddefnyddio'r marc hwn ar gyhoeddiadau, gwefannau ac unrhyw ddeunydd arall er mwyn hysbysebu a dangos eich ymrwymiad at gynhwysiad.
Achrediad Corff Llywodraethu Cenedlaethol
Mae gan y rhan fwyaf o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol eu cynllun achredu eu hunain. Bydd y prosesau achredu hyn yn benodol at eich camp chi, a byddan nhw'n diogelu'ch aelodau. Cyngor Chwaraeon Rhondda Cynon Taf i chi yw gweithio gyda'ch Corff Llywodraethu Cenedlaethol i gyflawni'r achrediad hwn.