Skip to main content

Cynyddu darpariaeth rhandiroedd yn Rhondda Cynon Taf 2023–24

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru, i ateb y galw cynyddol am randiroedd.

Mae'r pecyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru wedi'i gynllunio i gynyddu nifer y rhandiroedd mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae eu hangen fwyaf.

Mae disgwyl i raglen eleni gychwyn ym mis Medi 2023 a'r nod yw ei chwblhau erbyn Mawrth 2024, yn barod ar gyfer y tymor tyfu newydd.

Am fod cyllid wedi cael ei flaenoriaethu eleni ar gyfer:

  • Defnyddio lleiniau diffaith unwaith eto
  • Creu rhandiroedd mewn safleoedd newydd

Bydd Rhondda Cynon Taf yn ailddefnyddio tir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd er mwyn creu safle rhandiroedd newydd. Bydd y safle yma'n cynnwys 14 rhandir maint llawn y tu ôl i Dan Y Cribyn yn Ynys-y-bwl. 

Elfennau eraill i'w hystyried,

  • Gwella hygyrchedd
  • Gwella diogelwch ar safleoedd
  • Gwella'r ffordd mae safleoedd yn cael eu rheoli
  • Cynyddu ailgylchu/adnewyddadwyedd
  • Cynyddu bioamrywiaeth/nifer y peillwyr

Yn rhan o'r broses yma, ystyrion ni werth ecolegol pob safle a chynnal asesiad cyn i unrhyw waith ddechrau. Roedd hyn yn golygu asesu coed, prysgoed a mannau â glaswellt. Byddai unrhyw dystiolaeth o bresenoldeb bywyd gwyllt wedi cael ei nodi a byddai camau priodol wedi'u cymryd i sicrhau eu diogelwch a chadwraeth eu cynefinoedd. Wrth ddechrau'r gwaith, byddwn ni'n archwilio'r safleoedd yn rheolaidd er mwyn sicrhau na fydd tarfu ar y bywyd gwyllt yn ystod y broses.  

Er bod rhandiroedd yn cael eu defnyddio fel arfer ar gyfer tyfu cnydau, blodau neu fel lle ar gyfer hamdden, mae modd i drin y tir nid yn unig gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles unigolion sy'n byw yn yr ardal ac ateb y galw am ragor o randiroedd,  mae hefyd modd iddo greu lloches i'n bywyd gwyllt trefol trwy ddarparu ffynhonnell fwyd a chynefin i nythu a bridio ar gyfer ystod o bryfed peillio, adar, draenogod a mamaliaid bach, yn ogystal ag ymlusgiaid ac amffibiaid.

Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi cynnal ymchwil hefyd ynglŷn â nifer y bobl ar y rhestrau aros ac am ba hyd maen nhw'n aros. Datgelodd yr ymchwil nifer o safleoedd yng Nghymru lle mae nifer fawr o bobl ar restr ac yn aros am flynyddoedd i gael llain. Nod y cyllid newydd yw targedu'r ardaloedd hynny yn gyntaf.

Dywedodd Gary Mitchell, rheolwr Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yng Nghymru: "Mae rhandiroedd yn rhan o'n treftadaeth ni. Maen nhw wedi bod yn fodd i bobl ddarparu bwyd a chynhaliaeth ers yr 1800au, ond bellach, efallai yn fwy nag erioed, rydyn ni fel cymdeithas eisiau gwybod o ble mae ein bwyd wedi dod a sut mae wedi cael ei dyfu.

"Mae rhandiroedd yn darparu gofod pwysig inni reoli'r elfennau yma. Maen nhw'n rhoi hwb i'n hiechyd a'n lles, yn wych ar gyfer ychwanegu bioamrywiaeth i leoliadau trefol ac yn darparu lle ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol. Bydd y cyllid, cymorth a gweledigaeth yma gan Lywodraeth Cymru wir yn gwneud gwahaniaeth yn yr ardaloedd y bydd modd i ni eu cynorthwyo."
 
Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rhandiroedd, nid yn unig yn fodd i gynhyrchu bwyd fforddiadwy, ond am y buddion iechyd maen nhw'n ei gynnig i ddeiliaid y rhandiroedd, am y fioamrywiaeth maen nhw'n ei hannog, hyd yn oed yn yr ardaloedd fwyaf trefol, ac am y rhan bwysig maen nhw'n ei chwarae mewn annog cydlyniant cymdeithasol."
 
Bydd y cyllid yma, sy'n ategu un o flaenoriaethau'r Prif Weinidog i gynyddu darpariaeth rhandiroedd yng Nghymru, yn cael ei ddarparu drwy ddull cydlynol. Yn seiliedig ar ymchwil diweddar, mae'n cael ei dargedu ar sail tystiolaeth o angen.

Hoffech chi ofyn cwestiwn am y cynlluniau sydd ar y gweill? Ffoniwch ein carfan Gofal i Gwsmeriaid ar 01443 425 001 neu anfon e-bost i'r cyfeiriad yma: rhandiroedd@rctcbc.gov.uk